Deallusrwydd Artiffisial: Breuddwyd neu hunllef?
- Cyhoeddwyd
Mae deallusrwydd artiffisial, neu Artificial Intelligence (AI) yn y newyddion cryn dipyn ar hyn o bryd. Ond nid rhywbeth diweddar yw'r syniad o dechnoleg fel yma.
Mae'r ddelfryd o dechnoleg ddeallusol o'r fath wedi bod yn agosáu ers blynyddoedd, ond fel mae'r hanesydd Syr Deian Hopkin yn ei egluro yma, doedd yna ddim ffordd o wybod sut fyddai'n edrych mewn gwirionedd...
Mae AI wedi amlygu ei hun fwy-fwy yn yr ymwybyddiaeth gyffredinol. Yn ôl arbenigwyr gall y cyfrifiaduron deallus yma drawsnewid ein byd gwaith, gwyddonol a meddygol.
Mewn cynhadledd nodweddiadol ym Mharc Bletchley ddechrau’r mis, bu’r Prif Weinidog yn trafod y pwnc gydag un o arloeswyr y maes, Elon Musk, gan ddarogan dyfodol amwys a phryderus.
Ac mae’r datblygiadau’n cyflymu. Union flwyddyn yn ôl, cyhoeddwyd y rhaglen ChatGPT sydd yn medru creu dogfennau a chynnal sgwrs. Ers hynny mae dros 100 miliwn o ddefnyddwyr, â gwerth y cwmni wedi cyrraedd $29 biliwn.
Hen stori newydd
Ond nid yw’r syniad o ddeallusrwydd artiffisial yn newydd o bell ffordd. Roedd yna ddyhead am greu delweddau mewn hen chwedlau Groegaidd, ac yn y Canol Oesoedd bu sawl disgrifiad o eilun a fedrai siarad. A beth oedd Frankenstein, creadur Mary Shelley, ond dyn artiffisial?
Dechreuodd yr ymdrech i greu AI o ddifri mewn prosiect yng Ngholeg Dartmouth yn haf 1956, gyda’r gwyddonwyr yno’n darogan y byddai’n cymryd llai na chenhedlaeth i greu cyfrifiadur deallusol. Gwariwyd miliynau yn yr Unol Daleithiau ac yn Siapan cyn sylweddoli fod hyn yn orchest rhy gymhleth i dechnoleg y cyfnod.
O’r 70au ymlaen roedd diddordeb mewn defnydd o gyfrifiaduraeth yn tyfu mewn amryw feysydd academaidd a masnachol.
Mae gennyf brofiad personol o ymwneud â'r math yma o waith. Yn 1972, pan oeddwn yn darlithio yn Aberystwyth, ac ar yr un pryd yn ceisio gorffen doethuriaeth, penderfynais y byddai’n syniad da i geisio defnyddio cyfrifiadur i brosesu gwybodaeth oedd gennyf.
Gan mai dim ond cyfrifiaduron mawr oedd ar gael, rhaid oedd defnyddio iaith gyfrifiadurol ac fe ddysges ieithoedd fel Algol 68 a Snobol, yn bennaf i gyfrif, rhestru a chymharu data. Nes ymlaen llwyddais i berswadio'r cwmni mawr, DEC, i ariannu cwrs ar gyfrifiaduraeth a’r dyniaethau ac yn 1984 llwyddodd dau ohonom i gynnal cynhadledd o dros 350 o haneswyr, o 34 o wledydd, a chreu cymdeithas rhyngwladol i hybu cyfrifiaduraeth ymhlith haneswyr.
Roedd hyd a lled eu diddordebau yn syndod; ar wahân i ddatblygu dulliau dysgu roedd yna brosiectau ymchwil mewn meysydd mor amrywiol ag amaethyddiaeth yn yr Hen Groeg, cyflogau a phrisiau yn Norwy, aelodaeth Senedd Frankfurt yn 1848 a chynnwys a gwerth masnach o borth Bryste yn y ddeunawfed ganrif a llawer mwy.
Ac roedd gan y llywodraeth ddigon o ddiddordeb i ariannu canolfannau i hybu’r defnydd o dechnoleg newydd, tra’r roedd y Llyfrgell Brydeinig yn rhagweld y llyfrgell ddigidol, ymhell cyn ei ymddangosiad; roedd hi’n gyfnod cyffrous i ni oll oedd yn rhan o hyn. Ac mewn prifysgolion ar draws y wlad crewyd cyrsiau perthnasol, un ohonynt yn Leicester yn orfodol i haneswyr!
'Y cyfrifiadur yn ysgrifennu'r traethawd...'
Ac eto roedd hyn yn bell o’r freuddwyd o gyfrifiaduron deallusol.
Roedd yna rai arbrofion; un ohonynt y bues yn ymwneud ag ef, oedd prosiect dan nawdd IBM i greu rhaglen a alluogai cyfrifiadur i farcio traethawd gan fyfyriwr. Yn anffodus roedd yn rhaid bwydo’r atebion disgwyliedig er mwyn i’r cyfrifiadur fedru ymateb, yr hyn a elwir yn “Expect Command”. Roedd y dechnoleg yn rhy gyntefig. Doedd neb ohonom yn rhagweld mai cyfrifiadur fyddai’n ysgrifennu’r traethawd yn y lle cyntaf yn y dyfodol!
Ers hynny, mae’r byd technolegol wedi datblygu’n syfrdanol. Yn ôl 'Rheol Moore', datganiad gan yr arloeswr Gordon Moore yn 1965, byddai y nifer o elfennau ar gylched integredig (integrated circuit) yn dyblu pob blwyddyn ond y gost yn aros yn yr unfan, ac mae hyn wedi digwydd ers hynny. Ar yr un pryd mae prosesu cyfochrog yn golygu ymateb cyflymach i broblemau cymhleth iawn, tra mae maint cyfrifiaduron wedi tyfu’n syfrdanol.
Mae mwy eto ar y gorwel, yn enwedig mecaneg cwantwm (quantum mechanics) sy’n defnyddio elfennau is-atomeg i alluogi cyfrifiaduron sydd filoedd o filltiroedd o’i gilydd i gyd-weithio a hynny ar gyflymder digynsail; ond rhaid pwysleisio nad ydym yno eto!
- Cyhoeddwyd31 Awst 2023
- Cyhoeddwyd29 Mehefin 2023
- Cyhoeddwyd10 Gorffennaf 2023
Manteision i'r Gymraeg?
Eisoes mae rhaglenni cyfieithu, fel un Google neu Microsoft, wedi gwella’n rhyfeddol, a chan fod AI yn “dysgu” trwy ymarfer, medrwn ragweld camau breision eto yn y maes.
Yn ei dro, bydd yn haws o lawer i drosi llenyddiaeth Gymraeg ar gyfer cynulleidfa ehangach ac, wrth gwrs, y gwrthwyneb o’r Saesneg i’r Gymraeg. Os bydd gofyn am eirfa fwy coeth i drafod y pynciau technegol yn y Gymraeg, tybed a all AI ei hun awgrymu geiriau? Ac fe fydd dysgu’r Gymraeg ar gyfrifiadur yn haws hefyd.
Heriau rheoleiddio
Pan gyflwynwyd y wefan byd-eang yn 1991, doedd bron neb wedi rhagweld dylanwad y cyfryngau cymdeithasol. Felly doedd fawr o sôn am reolaeth; rhyddhau gwybodaeth oedd amcan y dyfeisiwr Tim Berners-Lee, yn hytrach na’i chyfyngu.
Bellach rydym oll yn ymwybodol o’r peryglon ond mae’r ymdrechion i oruchwylio cynnwys safleoedd fel Twitter/X a Facebook wedi bod yn dra aneffeithiol hyd yma, ac yn dangos gwendid llywodraethau yn wyneb nerth a golud y cwmnïau mawrion rhyngwladol.
Mae yna wers yma. Disgwylir y gall AI drawsnewid byd gwaith trwy ddysgu sut i gyflawni swyddogaethau, ond beth am y swyddi caiff eu dileu?
Gall AI chwyldroi ein meddyginiaeth a chyfoethogi bywyd yn gyffredinol. Ond a fydd hyn ar gael i bawb, neu ar gyfer y rhai all dalu? Ac os medrir creu gwybodaeth gredadwy, ble mae’r ffin rhwng gwirionedd ac anwiredd?
Yn y gynhadledd yn Mharc Bletchley rhybuddiodd un o arbenigwyr y maes, Yuval Noah Harari, y gallai cam-ddefnydd o AI danseilio'r gyfundrefn ariannol fyd-eang hyd yn oed, ac awgrymodd am oediad er mwyn creu rheolaeth ddiogel.
Yn anffodus ymddengys nad yw’r wers wedi ei dysgu eto. Roedd yn siom i lawer nad oedd sôn am unrhyw fath o rheolaeth neu oruchwyliaeth o AI yn Araith y Brenin.
Cytunodd 10 llywodraeth ym Mharc Bletchley i gydweithredu dros arbrofi’r dechneg ond dim mwy na hynny. Efallai fod y sialens yn rhy anodd, neu llywodraethau yn gyndyn i ymyrryd mewn byd tu hwnt i’w gafael.
Yn y cyfamser, mae’r sialens yn parhau; sut i sicrhau diogelwch y dechnoleg a sut i’w gyfeirio er budd pawb, yn enwedig mor anodd yw rhagweld y dyfodol technolegol. Efallai y medrwn greu cyfrifiadur i ddarogan?