Ysgrifennu rhaglenni cyfrifiadur... heb fod yn berchen ar un!
- Cyhoeddwyd
"I ysgrifennu rhaglenni... mond darn o bapur a phensil 'da chi isho. Mae 'na bobl eraill sydd yn cymryd be' dwi'n sgwennu ac yn ei brofi i wneud yn siŵr ei fod o'n gweithio'n iawn. Dwi'n aros dipyn o bellter o'r system ei hun."
Cyfrifiadureg ydi bywyd Richard Hughes, Cofi sydd yn byw yn Yr Almaen ers yr 1970au.
Mae wedi bod yn ysgrifennu rhaglenni cyfrifiadurol ers y '60au ac wedi gweithio ar brosiectau mawr fel meysydd awyr Heathrow a Charles de Gaulle, i gwmni Siemens yn Yr Almaen ac, yn agosach at adref, ar brosiect Y Termiadur Ysgol i Brifysgol Bangor.
Er hynny, dim ond ychydig o flynyddoedd yn ôl y cafodd ei gyfrifiadur ei hun am y tro cyntaf a Beti George gafodd y fraint o gynnal ei sgwrs Zoom gyntaf erioed, a hynny ar gyfer pennod o Beti a'i Phobol ar BBC Radio Cymru.
'Chwilfrydig a rhesymegol'
Ateb hysbyseb papur newydd yn chwilio am raglenwyr cyfrifiadurol yn 1967 oedd dechrau gyrfa Richard. Roedd wedi bod â diddordeb mewn gwyddoniaeth a mathemateg ers ei gyfnod yn yr ysgol ac wedi astudio Ffiseg ym Mhrifysgol Caergrawnt.
Felly sut mae rhywun yn mynd ati i ddechrau ysgrifennu rhaglen gyfrifiadurol?
"I fod yn rhaglennwr medrus, mae'n rhaid eich bod yn chwilfrydig, yn ddeallus, yn hollol resymegol. Hollbwysig hefyd yw'r gallu i fynegi syniadau yn glir ac yn anamwys.
"Mae o yn y pen yn fwy na dim arall - 'da chi'n gorfod dadansoddi'r broblem, ei deall a thrio ffurfio'r broblem yn yr iaith cyfrifiadurol 'da chi i fod i'w defnyddio ar gyfer y dasg.
"'Da chi'n gorfod dewis iaith i ddechrau, sydd yn addas i'r broblem. Pan 'nes i ddechrau, doedd 'na ddim llawer o wahanol ieithoedd ar gael."
Iaith gyfrifiadurol yw'r cyfarwyddiadau sy'n dweud wrth gyfrifiadur beth i'w wneud, wedi ei ysgrifennu mewn cod. Mae'r cod fel arfer yn gyfuniad o rifau, geiriau a symbolau.
Ieithoedd y cyfrifiaduron
Er ei fod yn defnyddio rhai ieithoedd mwy na'r lleill, mae Richard bellach yn rhugl mewn naw neu 10 iaith gyfrifiadurol, rhywbeth ddaeth yn gymharol hawdd iddo, meddai:
"Yn bersonol mae'n hawdd, ac yn haws gyda phrofiad; pan welwn iaith gyfrifiadurol hollol ddieithr mae arnaf eisiau ychydig o oriau i gael crap ar yr iaith ac mewn tridiau rwyf yn rhugl.
"Mae rhai ieithoedd yn anoddach na'i gilydd, ond does dim cymhariaeth rhwng ieithoedd cyfrifiadurol a ieithoedd llafar o ran cymhlethdod; mae pob iaith gyfrifiadurol yn 'chwarae plant bach' o'i gymharu â iaith lafar."
Ddiwedd y '60au a dechrau'r '70au, gweithiodd ar ddwy brosiect fawr ar gyfer dau o feysydd awyr mwyaf y byd, Heathrow yn Llundain ac yna Charles de Gaulle ym Mharis.
Roedd yn rhan o dîm a ddatblygodd raglenni cyfrifiadurol i gofnodi nwyddau a oedd yn cael eu mewnforio ac allforio o'r ddau faes awyr.
"Fodd bynnag, er fod y rhaglenni'n gwneud yr un swydd, roedd rhaid dechrau o'r dechrau pan ddechreuodd y prosiect ym Mharis, oherwydd penderfyniad Llywodraeth Ffrainc i ddefnyddio caledwedd Ffrengig, a oedd yn wahanol i'r cyfarpar Prydeinig a oedd yn cael ei ddefnyddio yn Heathrow.
Pan symudodd Richard i'r Almaen i weithio gyda Siemens wedyn, roedd cais arall am raglen gwbl newydd.
"Dechrau o'r dechrau unwaith eto. Dwi 'di sgwennu, yn fy ngyrfa, bump neu chwech o systemau gweithredu o'r dechrau - sy'n rhyw fath o lwyddiant," medddai.
Peiriannau enfawr y gorffennol
Er fod y byd digidol wedi datblygu ac esblygu o'i gwmpas, dydi egwyddor ei dasg o ysgrifennu rhaglenni cyfrifiadurol ddim wedi newid rhyw lawer, meddai.
"Dwi'm yn meddwl fod pethau wedi newid gymaint â hynny, o safbwynt ysgrifennu rhaglenni.
"Wrth gwrs, mae natur dynol ryw yn gorchymyn i ni greu adeiladweithiau sydd yn gyflymach, rhatach, mwy grymus, deallusach. Felly mae egwyddor technoleg yn parhau (ac yn aml araf-ddatblygu) ond y cynhyrchion terfynol sydd yn dangos dim tebygrwydd i nwyddau'r gorffennol.
"Mae ffôn heddiw yn medru gwneud mwy na chanolfan gyfrifiadurol oedd ganddon ni yn y '60au.
"Roedd maint cof y cyfrifiadur ym maes awyr Heathrow yn 512KB (512,000 beit), ac rwyf yn sicr bod eich ffôn symudol yn llawer mwy - efallai 32GB (32,000,000,000 beit); y naill yn gofyn ystafell enfawr a'r llall yn nythu yn eich poced."
Gwaith papur a phensil
Yn wahanol i'r hyn fasech chi'n ei ddychmygu o rywun sydd wedi treulio'r rhan fwyaf o'i yrfa ym myd cyfrifiaduron, ar bapur mae Richard yn gweithio, a dydi gadgets fel ffonau clyfar a chyfrifiaduron o fawr ddim diddordeb iddo. Y rhesymeg sy'n ei ddiddori, yn hytrach na'r cynnyrch terfynol, meddai.
"Fy niddordeb i oedd ysgrifennu'r rhaglenni, yn hytrach na chwarae efo'r caledwedd.
"O'n i'n cael menthyg cyfrifiadur o'r gwaith pan o'n i eisiau, ond ches i ddim un fy hun tan tua pum mlynedd yn ôl.
"I mi y broses o greu sydd yn ddiddorol; wedi ysgrifennu darn o feddalwedd (gwaith papur a phensil) roedd gennyf ysgrifenyddes i fewnbynnu'r egin raglen i'r cyfrifiadur ac roedd criw o bobl yn arbrofi'r rhaglen ac yn sicrhau ei bod yn gweithio'n gywir. Os nad oedd, roedd rhaid datrys y broblem a chywiro'r rhaglen - gwaith papur a phensil eto - wedyn ailadrodd tan oedd pawb yn hapus.
"Wedi cyrraedd y nod, colli diddordeb ac ymlaen at yr her nesaf..."