Gwobr i brosiect sy'n gwarchod siarcod prin Pen Llŷn
- Cyhoeddwyd
Mae prosiect i ddiogelu siarcod Pen Llŷn wedi ennill gwobr am ei waith i geisio amddiffyn rhywogaethau prin.
Ers 2021 mae SIARC, dolen allanol (Sharks Inspiring Action and Research with Communities) wedi bod yn ceisio cynyddu dealltwriaeth pobl am y siarcod prin sy’n byw oddi ar arfordir Cymru.
Mae dros 25 rhywogaeth o siarcod a morgathod yn byw oddi ar arfordir Cymru, ond mae sawl un dan fygythiad difrifol.
Mae'r prosiect ar y cyd rhwng Cymdeithas Sŵolegol Llundain a Chyfoeth Naturiol Cymru bellach wedi ennill gwobr Prosiect y Flwyddyn drwy Gymru yng Ngwobrau’r Loteri.
Mae’r môr o amgylch arfordir Cymru yn llawn bywyd gwyllt, ac yn gartref i 27 rhywogaeth o siarcod a morgathod.
Mae pedair o’r rhain – y maelgi, morgi glas, morgath drwynfain a’r forgath las – mewn perygl difrifol o ddiflannu.
Maen nhw wedi’u cofrestru ar Restr Goch yr Undeb Rhyngwladol dros Rywogaethau Natur (IUCN) o Rywogaethau Dan Fygythiad, sef y categori uchaf cyn eu bod wedi diflannu’n llwyr o’r gwyllt.
Ymchwil mewn dwy ardal gadwraeth
Er bod prosiect SIARC yn ceisio diogelu’r siarcod a’r morgathod prin o gwmpas Cymru gyfan, mae’r gwaith ymchwil sy’n cael ei gynnal yn canolbwyntio ar ddwy ardal gadwraeth arbennig, un ym Mhen Llŷn a’r llall ym Mae Caerfyrddin.
Mae’r ymchwil yn cynnwys arolygon DNA amgylcheddol, gan helpu gwyddonwyr ym Mhrifysgol Bangor i ddysgu mwy am y rhywogaethau siarcod a morgathod sy’n bresennol o fewn yr ardaloedd hyn.
Gyda help pysgotwyr, cymunedau, ymchwilwyr a gwyddonwyr, mae’r ymchwil yn llenwi’r bylchau data allweddol ar gyfer chwe rhywogaeth o siarcod a morgathod.
Dros y ddwy flynedd ddiwethaf, mae pysgotwyr lleol ym Mhen Llŷn wedi helpu gwyddonwyr i osod systemau ffilmio tanddwr, ac mae 66 o rywogaethau pysgod wedi cael eu ffilmio, gan gynnwys pump o deulu’r siarcod a morgathod.
Hyd yn hyn, mae tua 200 awr o ffilmiau wedi cael eu huwchlwytho ar wefan Cymdeithas Sŵolegol Llundain, dolen allanol, er mwyn eu helpu i adeiladu darlun o’r amrywiaeth o rywogaethau ar draws y DU.
Er mwyn gweld hefyd pa rywogaethau sy’n bridio allan yn y môr, mae cannoedd o wirfoddolwyr wedi bod yn cribo arfordir Cymru yn casglu casys wyau’r siarcod a morgathod.
Addysgu’r genhedlaeth nesaf
Mae’r prosiect hefyd wedi bod yn addysgu dros 3,000 o aelodau’r cyhoedd a 600 o blant ysgol Cymru, drwy gynnal gweithdai, sesiynau ‘cwrdd â’r Gwyddonwyr’, a gwneud argraffiad 3D o fodelau siarcod gyda Phrifysgol Abertawe.
Y bwriad yw ceisio ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf o gadwraethwyr.
Mae Gwobrau'r Loteri Genedlaethol yn cael eu cynnal bob blwyddyn i ganfod pobl a sefydliadau ysbrydoledig ar draws y DU sydd wedi gwneud pethau anhygoel gydag arian y Loteri.
Roedd prosiect SIARC wedi curo 3,780 o sefydliadau eraill i gipio gwobr Cymru mewn pleidlais gyhoeddus.
Prosiect yn 'ysbrydoli ac addysgu'
Bu Iolo Williams, Is-lywydd yr Ymddiriedolaethau Bywyd Gwyllt, yn ymweld â Phrosiect SIARC ym Mhwllheli i gyflwyno eu tlws.
Dywedodd: “Mae ein dyfroedd morol yn rhan allweddol bwysig o’n hecosystem felly mae’n wych gweld mentrau fel hyn yn chwarae rôl mor hanfodol wrth ddiogelu’r rhywogaethau prin hyn gan ysbrydoli ac addysgu pobl o bob oed am y creaduriaid unigryw amrywiol sy’n byw oddi ar arfordiroedd Cymru.
“Mae’n gwbl allweddol i oroesiad ein bywyd gwyllt a’n cynefinoedd yn y dyfodol oherwydd dim ond trwy addysgu, cysylltu ac ail-gysylltu pobl gyda natur y gallwn annog stiwardiaeth well o’n moroedd a gwyrdroi’r dirywiad mewn bioamrywiaeth," ychwanegodd.
Cafodd Jake Davies, Arbenigwr Technegol Prosiect SIARC, ei fagu ar Benrhyn Llŷn ac mae wedi bod yn gweithio ochr yn ochr â physgotwyr i ganfod y mannau gorau i sefydlu’r camerâu tanddwr.
Dywedodd Jake: “Mae wedi bod yn bleser pur i weithio gyda chymunedau, gwirfoddolwyr a physgotwyr gwych ynghyd â grŵp anhygoel o bartneriaid ledled Cymru ers i ni gael ein lansio.
“Mae ennill y wobr hon yn anhygoel ac rwyf wrth fy modd i allu chwarae rhan wrth ddod â’r byd tanddwr hwn i mewn i gartrefi pobl ac ysgolion, gan alluogi cymunedau i gymryd rhan mwy yn eu hamgylchedd morol lleol."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd17 Awst 2022
- Cyhoeddwyd2 Ionawr 2023