Pump peth difyr am yr Archdderwydd newydd Mererid Hopwood

  • Cyhoeddwyd

Fe fydd yr Archdderwydd newydd yn dechrau yn ei rôl ar 27 Ebrill - dim ond yr ail fenyw i wneud y swydd.

Felly wrth i'r Athro Mererid Hopwood dderbyn yr awenau gan yr Archdderwydd presennol, Myrddin ap Dafydd, yn seremoni cyhoeddi'r Eisteddfod yn Wrecsam dyma gyfle i wybod ychydig mwy amdani.

Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
Disgrifiad o’r llun,

Yr Athro Mererid Hopwood

1. Allan o 35 Archdderwydd, dim ond yr ail fenyw i wneud y swydd ydi Mererid Hopwood - ond fu bron iddi fod y gyntaf.

David Griffiths, neu Clwydfardd, oedd y cyntaf i ddal y teitl yn 1876. Roedd yn rhaid disgwyl 137 o flynyddoedd i gael menyw fel Archdderwydd - sef Christine James, yn 2013.

A nawr - 11 mlynedd yn ddiweddarach - mae ail fenyw yn y swydd.

Ond fe gafodd Mererid Hopwood ei henwebu yn ôl yn 2009.

Eglurodd wrth Cymru Fyw: “Ar ôl deall bod Jim Parc Nest wedi ei enwebu hefyd, tynnais fy enw yn ôl bryd hynny.

"Wn i ddim yn hollol beth oedd yn wahanol y tro yma. A minnau bellach yn fam-gu, efallai bod y llais sy’n dweud ‘pam lai!?’ ac ‘amdani!’ yn siarad yn uwch.”

Ffynhonnell y llun, FfotoNant
Disgrifiad o’r llun,

Jim Parc Nest - yr Archdderwydd rhwng 2009-2013 - yn cael ei dywys i gael ei gadeirio yn 2019 gan Myrddin ap Dafydd, sy'n trosglwyddo'r awenau eleni

2. Pan oedd hi'n iau, roedd hi’n chwarae i Gerddorfa Ieuenctid Cymru... a band pop

Y sielo oedd ei hofferyn ac aeth ar daith gyda Cherddorfa Ieuenctid De Morgannwg i Stuttgart - gefeilldref Caerdydd, lle’r oedd hi’n byw. Tydi hi ddim yn chwarae bellach ond yn breuddwydio am ail-afael ynddi ar ôl iddi ymddeol.

Roedd hi hefyd mewn band pop pan oedd hi yn yr ysgol, fel yr eglurodd wrth Cymru Fyw:

“Roedd tipyn o bawb mewn ‘grŵp pop’ yn y dyddiau hynny. Mae llun yn rhywle o Mari Emlyn, fy ffrind ysgol, a minnau’n dal tlws ‘record arian’ ar faes Eisteddfod yr Urdd - chofia’ i ddim yn union ymhle.

“Ond mae gen i gof fy mod i’n canu’r gitâr fas ar y sail ansicr fy mod i’n medru canu’r sielo (?!) ac rwy bron yn siŵr mai ‘Octopws’ oedd enw’r band. Aeth chwech ohonom ni wedyn o Ysgol Llanhari i greu grŵp, wedi ein hysbrydoli gan ‘Sidan’.

“Mae arna’ i ofn nad oeddem ni yn yr un gynghrair â’n harwresau - ac mae gen i gof o gyfweliad ar Sosban, rhaglen radio Richard Rees, a phawb yn siarad dros ei gilydd.”

Mae’n rhaid bod cerddoriaeth yn y gwaed: roedd ei mab Llewelyn yn y band Bromas ac eleni bu'n cystadlu yn Cân i Gymru gyda’r gân Mêl. Mae un o’i merched - Hanna - yn chwarae’r sielo... sef hen un Mererid.

Disgrifiad o’r llun,

Dr Llewelyn Hopwood, mab yr Archddewydd newydd, gyda Bromas yn 2015

3. Mae ‘Mererid Hopwood’ yn un ateb i sawl cwestiwn bosib mewn cwis am yr Eisteddfod Genedlaethol.

Pwy oedd y ferch gyntaf i ennill y Gadair yn yr Eisteddfod Genedlaethol? Mererid Hopwood.

Pwy ydi’r unig ferch i ennill y Gadair a’r Goron yn yr Eisteddfod Genedlaethol? Mererid Hopwood.

Pwy ydi’r unig ferch i ennill Y Fedal Ryddiaith, y Goron a'r Gadair yn yr Eisteddfod Genedlaethol? Ia, Mererid Hopwood.

Enillodd y gwobrau i gyd mewn wyth mlynedd: y Gadair yn 2001, y Goron yn 2003 a’r Fedal Ryddiaith yn 2008. Mae’r nofel enillodd y Fedal Ryddiaith - sef O Ran - yn llyfr gosod TGAU.

Disgrifiad,

Mererid Hopwood yn cael ei chadeirio yn Eisteddfod Genedlaethol Dinbych 2001

4. Mae hi’n dipyn o ieithydd.

Mae’n amlwg o’i llwyddiant yn yr Eisteddfod bod ganddi afael go dda ar y Gymraeg, ond Almaeneg a Sbaeneg oedd ei phwnc gradd.

Astudiodd yn Aberystwyth cyn mynd ymlaen i wneud doethuriaeth yng Ngholeg y Brifysgol, Llundain.

Roedd hi’n darlithio am gyfnod yn y Gymraeg ac ieithoedd modern ym Mhrifysgol Abertawe, yna’n ddarlithydd yng Ngholeg y Drindod Caerfyrddin ac ers 2020 mae hi’n Athro'r Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd ym Mhrifysgol Aberystwyth.

5. Mae’n hoffi cychod a choryglau

Er iddi gael ei magu yng Nghaerdydd, mae ei theulu o Bontiago, Sir Benfro - felly does ryfedd bod heli’r môr yn ei gwaed. Ac mae’n edrych ymlaen at antur eleni.

“Mae cwch bach pysgota wedi bod yn y teulu ers cyn cof,” meddai. “Roedd gan fy hen dad-cu, John y Gof, gwch bach ar draeth Porthsychan, Pencaer, ac roedd mynd mas ar y môr i bysgota yn ‘Glas y Dorlan’, cwch fy nhad ac Wncwl Jac, yn antur bob haf slawer dydd.

“Ond eleni, rwy’n edrych ymlaen at gael mynd mas ar afon Tywi mewn corwgl am y tro cyntaf erioed.”