Oriel atgofion: Jim Parc Nest yn 90
- Cyhoeddwyd
Dathlodd y Prifardd T. James Jones - neu Jim Parc Nest - ei ben-blwydd yn 90 oed ddechau Ebrill.
Yma, mae'r bardd, sy'n wreiddiol o Gastellnewydd Emlyn, wedi bod yn edrych drwy hen luniau a hel atgofion am rai o gyfnodau arwyddocaol ei fywyd.
Fferm Parc Nest
Ges i fy ngeni a'n magu yn y tŷ 'na. Atgofion hyfryd.
Jim Parc Nest o'dd fy enw pan o'n i'n yr ysgol – fel mae pobl yn cael eu henwi yn naturiol, yn enwedig gyda ffermydd. Dyna pam 'nes i fabwysiadu fe wedyn ymhen blynyddoedd fel enw barddol.
Mae'n rhyfedd, o'n i'n sôn wrth fy mrodyr yn ddiweddar; dyw'r enw Nest ddim wedi ei gadw. Mae 'na gartref gofal yng Nghastellnewydd, Glyn Nest, ond 'sdim un tŷ arall yn dwyn yr enw Nest. Mae hi'n ffigwr pwysig iawn yn hanes Cymru, felly mae un yn falch fod yr enw wedi parhau.
Mam-gu a Tad-cu
'Da Tad-cu a Mam-gu o'n ni'n byw. Ffarm ar stad oedd hi – tenantiaid oedden nhw – ond roedd hi'n ffarm gyfleus i'r dref. Wedyn fe ddechreuodd e fusnes gwerthu llaeth yn y dre'. 'Wi wedi clywed dros y blynyddoedd, unrhyw jwg oedd yn dod i'r drws, o’dd e’n llenwi'r jwg... doedd dim mesur...! Felly oedd e'n eitha' poblogaidd, ac roedd ambell un yn dod â jwg go fawr!
Treuliodd Mam-gu y rhan fwyaf o'i harddegau yng Nghaerfyrddin, er mai o Ben-y-bont Fawr, ger Llanfyllin oedd ei thad, oedd yn weinidog yn Heol Awst Caerfyrddin. 'Wi'n gog mewn gwirionedd, ar ochr fy nhad...
Fuodd Mam-gu byw nes ei bod hi'n 89, ac yn ddylanwad mawr arnon ni fel teulu - roedd gymaint o straeon ganddi.
Un o'r cerddi cynta ysgrifennes i oedd pan y buodd hi farw, pan o'n i tua 20 oed. O'n i ddim wedi gweld corff erioed o'r blaen, ac o'dd hi'n hen arfer bryd 'ny i’r corff fod yn agored yn y parlwr am ddyddiau. O'n i'n mynd i lawr bob bore ac yn edrych arni wedi marw. O'dd e'n gyfnod rhyfedd iawn, ga'th e ddylanwad arna i.
'Y Tri Hyn'
'Wi’n hoff iawn o'r llun yma. Fi a John Gwilym, cyn bod Aled, yn cerdded ar ein ffordd i'r ysgol Sul. 'Na chi lun.
'Yn ni yn agos iawn erioed. 'Wi wastad yn eu defnyddio nhw fel golygyddion; yn gofyn eu barn nhw, ac maen nhw'n gofyn fy marn bach i ambell waith.
O'n ni'n cystadlu fel adroddwyr yn erbyn ein gilydd, ond hyd y gwn i, 'so ni wedi cystadlu'n llenyddol yn erbyn ein gilydd. Yn ein tro 'yn ni wedi bod wrthi.
Mae stori; Llio, merch Manon, mas am fwyd, ac o'n i newydd ennill Cadair Llanrwst, a glywodd Llio rhyw bedwar yn fy nhrafod i rownd y bwrdd. 'Maen nhw’n ennill yn aml...' meddai rhywun, a meddai un arall, 'helpu ei gilydd maen nhw...'!
Ges i englyn gan John i ddathlu’r 90. Es i a Manon mas am bryd o fwyd pen-blwydd gydag Aled a Betsan, ac o'n i'n dweud wrtho 'wi di cael englyn gan John, mae’n un da eleni’.
Wrth y ford, rhoddodd e gerdyn i mi... pedwar englyn! Dim chware!
Dylanwad Dylan Thomas
Mae dylanwad Dylan Thomas yn drwm iawn arna i, ers darllen Under Milk Wood pan gafodd hi ei chyhoeddi gynta', a mwynhau.
A'r argraff o'n i'n ei chael wrth ddarllen oedd fod y cymeriadau 'ma i gyd, oni bai am ddau neu dri, yn siarad Cymraeg; dyna’r teimlad o’n i’n ei gael wrth ddarllen eu Saesneg nhw.
Ges i’r cyfle i fod yn Llais Cynta/First Voice yn y perfformiadau cyntaf yn Nhalacharn ar ôl i Dylan farw yn 1958.
O'n i wedi ennill yn y Genedlaethol – 'adrodd' oedd yr enw bryd hynny – a Gwyndy Evans yn cysylltu a gofyn a fyddai diddordeb gen i i gael y rhan. 'Nes i fwynhau’n fawr iawn.
Wedyn, fe ddaeth y syniad wedyn; Gwyndy Evans eto ofynnodd i fi a fyddai gen i ddiddordeb mewn cyfieithu Under Milk Wood, a daeth Dan y Wenallt yn y diwedd yn 1967.
Mae erthygl mewn dwy ran ar fin cael ei chyhoeddi gen i yn Barddas. O'dd dim sôn ble oedd tad a mam Dylan Thomas wedi cael eu claddu, a fues i ati'n gwneud ymchwil.
'Nes i ddeall fod tad Mam-gu yn weinidog ar dad Dylan, ac roedd hi'n ei 'nabod yn dda... y pethe allen i fod wedi eu holi! O'n i o fewn trwch blewyn i gael lot o hanes 'da hi am ei dad e, ond o'n i ddim yn sylweddoli'r cysylltiad.
Jon Dressel, cyfaill mynwesol
Cymro wedi ei eni yn America oedd Jon Dressel, ond oedd wedi dysgu Cymraeg. Yng Ngholeg y Drindod ddes i ei 'nabod e, pan oedden ni'n dau yn darlithio, ac o'dd e'n dod â chriw o America draw bob blwyddyn.
Dyna ni, mewn rhyw dafarn un noson yn cael y syniad – 'jiw, beth am i ni gystadlu yn y Steddfod?'.
Mentron ni gystadlu yn Eisteddfod Caernarfon yn 1979, o dan y testun Siom. O'dd y beirniaid yn unfryd fod y gyfres Ianws yn ennill, ond pan agoron nhw’r amlen, roedd dau enw...
O'dd 'na reol, wrth gystadlu, rhaid i'r 'cystadleuydd neu’r cystadleuwyr' roi eu henwau priodol o dan sêl. Gan bod nhw yn y lluosog, cymeron ni fod ganddon ni hawl i wneud cywaith. Ond roedd awdurdodau'r Steddfod ddim yn gallu taclo dau ben i gael un goron – roedd hi’n broblem iddyn nhw! Chelon ni mo’r goron.
Roedden ni'n rhannu'r un pen-blwydd yn union, ac mi gefais i'r newyddion drwg iddo farw ddiwrnod ar ôl ei benblwydd yn 90.
Dyma fe yn ei dafarn yn St Louis, Missouri - hanner y dafarn ag addurniadau Almaenig, oherwydd ei wreiddiau ar ochr ei dad, a'r hanner arall yn Gymreig gan fod ei fam o Lanelli.
Helbul y ddwy Goron
Coron Abergwaun i ddechrau. O'n i wedi cael llythyr gan drefnydd yr Eisteddfod, Idris Evans yn dweud mod i wedi ennill a'r neges ‘cofia dod i fesur dy ben’. O’n i’n meddwl mai tynnu coes o’dd e, ac es i ddim.
A phan driodd yr Archdderwydd, WJ Gruffydd, roi’r Goron am fy mhen i, doedd hi ddim yn ffitio o gwbl – roedd fy mhen i rhy fawr.
Pan ddaeth yr ail Goron yn 1988, ges i lythyr eto... gyda’r llinell wedi ei thanlinellu. Ac fe es i tro ‘ny. O’n i’n gorfod mynd yn dawel bach ar fore Sadwrn y Steddfod i swyddfa Idris, a fe'n cloi'r drws tu ôl i mi.
Triais i'r Goron, ac roedd hi rhy fach, ond roedd y sgriw oedd yn agor y goron yn y cefn er mwyn ei ehangu hi yn fach iawn iawn... Dyma Idris yn mynd mas o’r stafell, a ddaeth e nôl gyda screwdriver go fawr, a diawch fe neidiodd y sgriw mas o dan y ddesg, a ffilon ni ffeindio hi!
O'dd y ddau ohonon ni o dan y ddesg yn chwilio amdani. Edrychon ni ar ein gilydd, a chael pwl o chwerthin afreolus!
Dim ond dau ddiwrnod oedd i fynd, a gorfodd e hala'r Goron yn ôl at y gwneuthurwr ac ymddiheuro ein bod ni wedi colli'r sgriw!
Ond yn y diwedd roedd hi'n ffitio'n neis yn y seremoni...
'Cyfrinach' y Gadair gyntaf
Wedyn daeth Cadair yn 2007.
O'dd y prif feirniad, Jâms Niclas, yn gymeriad a hanner. Fe ddes i i'w 'nabod yn dda iawn, oherwydd fod ei ferch yn byw gyferbyn â ni ym Mhontcanna.
Rhyw ddeufis cyn yr Eisteddfod, dwi'n cofio fe'n troi ata i: 'So chi wedi ennill y Gadair?' medde fe. 'Mae’n bryd i chi wneud'.
Ddes i o'na yn gwybod ei fod e wedi dweud wrtha i... o'dd e wedi 'nabod fy ngwaith i. O'dd e'n ysu am gael dweud wrtha i.
Rhyw fis wedyn daeth y llythyr.
Dydd Llun oedd y Coroni, a tua amser cinio dyma Tudur Dylan yn dod ar fy nhraws i ar y Maes, ac aeth â fi i ryw gornel: 'Fi sydd wedi ennill y Goron', meddai. O'n i'n mynd i ddweud wrtho? 'Nes i benderfynu peidio...
Dydd Gwener, 'nes i benderfynu mynd ar ei ôl amser cinio... 'dere 'ma, mae gen i rywbeth i ddweud wrthot ti...!' O'dd e’n corcan chwerthin!
Parch i'r Archdderwydd
O'dd 'na ŵr o Hwngari wedi dod i ryw gynhadledd yn Llanystumdwy, ac ofynnodd e i fi am lifft achos o'dd e'n mynd i aros gyda ffrind ym Mlaenrhondda. O'dd e ffili credu ei fod e’n cael lifft 'da'r Archdderwydd.
Dyma ni'n stopio i gael petrol, ac o'dd e methu credu... 'the Archdruid paying for his petrol?!'. O’dd e'n credu y dylai’r Archdderwydd gael petrol am ddim ble bynnag oedd e yng Nghymru. Fel rhyw dduw!
Ddaethon ni'n ffrindiau, a rhoddodd e wahoddiad i ni fynd i Hwngari, mewn cyngerdd mawr o waith y cyfansoddwr Karl Jenkins. Ges i hefyd fynd i Batagonia i'r 'Steddfod yno, fel yr Archdderwydd.
Jim a Manon
Ry' ni'n briod ers 25 mlynedd.
Fel mae'n digwydd, o'n i wedi chwarae rhan Kitchener Davies, ei thad, yn Sŵn y Gwynt Sy’n Chwythu. O'n i'n 18 ac roedd hi tua 8 oed, ac mae Manon yn cofio gwrando arna i yn chwarae ei thad yn y Rhondda.
Roedd Mair, ei mam, yn y gynulleidfa hefyd, ac roedd hi'n llefen y glaw. Roedd e'n brofiad rhyfedd iddyn nhw.
O'n i ar Fwrdd yr Orsedd, ac mae un o'r cyfarfodydd yn digwydd fis Ebrill. Hywel Wyn Edwards oedd y trefnydd, a phwy welais i yn y coridor, yn hollol ddamweiniol, oedd un o feirniaid y Fedal Ryddiaith, Hazel Walford Davies, yn rhoi ffolder drwchus iddo.
A 'nabyddais i'r lliw, ffolder melyn, ac o'n i'n gwybod mai nofel Manon oedd hi. 'Wedais i ddim wrth Manon, 'wedais i ddim wrth neb – gadwes e i fy hunan.
O'dd e'n brofiad arbennig.
Y genhedlaeth nesaf
Mae gennym ni saith ŵyr: Mathew, Daniel, Joseff, Martha, Gruffudd, Dyddgu a Hopcyn. Mae'r llun yma o fy mharti pen-blwydd yn 80.
Y drws tu ôl i ni yw drws Ysgol Gynradd Castellnewydd – y drws es i drwyddi ar fy niwrnod cynta yn bum mlwydd oed i'r ysgol. Roedd hi’n hyfryd cael fy wyrion o nghwmpas i.
Cadair 2019
Ar ôl hapusrwydd a gorfoledd ennill y Gadair ar y dydd Gwener, dydd Sadwrn gafodd Manon bwl a gorfod mynd i'r ysbyty. Roedd hi wedi cael clot ar yr ysgyfaint a fuodd hi mewn gofal dwys am ryw bedwar diwrnod.
Dyna atgof diflas Llanrwst. Ond roedd ennill y Gadair yn hyfryd iawn.
Dyma fi'n digwydd gofyn i Elen y trefnydd, allai rhywun gario'r Gadair yn ôl i Gaerdydd; mae hi'n eitha mawr. Ond trwy lwc, roedd Tegid fy mab hyna' i wedi dod â'i fan gyda fe, a ffeindion nhw le yn y fan i’w chario nôl!
Dathlu'r 90
O'dd Mam yn torri'r gyfraith bob bore... o'dd hi'n mynd mas i’r 'cooler', lle roedd godrad neithiwr yn y churns a’r llaeth wedi setlo, ac o'dd hi’n dod â chwpan o’r tŷ ac yn codi'r hufen ac yn ei roi ar fy corn flakes i... falle mai i hwnna ddylen i ddiolch.
Teimlad od yw troi'n 90, 'wi ffili credu. 'Wi 'di bod yn lwcus iawn... gwraig dda, 'chwel!
Dwi 'di cael bywyd hapus; alla i ddim achwyn. A dwi'n dal i 'sgrifennu, diolch i'r drefn.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd18 Ionawr 2019
- Cyhoeddwyd5 Mai 2021
- Cyhoeddwyd26 Mawrth