Pwy yw Mimi Xu?

mimiFfynhonnell y llun, Getty Images
  • Cyhoeddwyd

Un o ddigwyddiadau chwaraeon mwyaf poblogaidd yr haf yw Pencampwriaethau Wimbledon yn ne-orllewin Llundain.

Mae'n un o bedair prif gystadleuaeth y byd tenis, ac yn cael ei hystyried gan lawer fel y brif bencampwriaeth.

Eleni, bydd Cymraes ifanc yn gwneud ei hymddangosiad cyntaf ym Mhencampwriaeth y Menywod, a hynny wedi iddi serennu yn yr adrannau iau.

Siaradodd Cymru Fyw gyda Mimi Xu o Abertawe am ei chefndir, a'i gobeithion ar gyfer ei gyrfa.

“Mae fy rhieni’n dod o China, ond ges i fy ngeni yng Nghymru," meddai Mimi.

"Fy nghlwb tenis cyntaf oedd Clwb Tenis a Sboncen Abertawe. Yna pan o’n i tua chwe mlwydd oed es i i Ganolfan Tenis Abertawe, cyn symud i Loughborough.”

Mae Mimi'n cael ei hystyried gan ddilynwyr tenis fel merch all fod yn wir-seren y dyfodol, gyda'r potensial i gyrraedd brig y gamp.

Dewis tenis dros nofio

Mae Mimi'n 16 oed ers mis Hydref, ond fe ddechreuodd chwarae tenis yn ifanc iawn.

“Dechreuais chware tenis pan o’n i tua tair oed, ond dechreuais chware mewn twrnameintiau pan o’n i tua saith.

"Roeddwn i'n arfer nofio lot, ond ‘nes i erioed ei fwynhau e gymaint â thenis, felly unwaith y daeth tenis yn flaenoriaeth ‘nes i roi’r gorau i nofio."

Ffynhonnell y llun, Mimi Xu
Disgrifiad o’r llun,

Mimi yn ferch ifanc gyda raced denis yn ei llaw

'Fy arwyr'

Roedd 'na ddau chwaraewr a oedd yn ysbrydoliaeth arbennig i Mimi tra roedd hi'n dechrau chwarae.

“Pan o’n i’n iau fy arwyr oedd Andy Murray a Roger Federer. O’n i’n hoffi angerdd Murray a pha mor galed oedd e’n ymladd ar y cwrt tenis, a pha mor hyfryd yr oedd Federer yn symud gan wneud i’r gêm edrych mor ddiymdrech.

“Fy hoff uchafbwynt o chwarae Junior Wimbledon yn bendant yw fy muddugoliaeth gyntaf yno. Doedd yr awyrgylch, y nerfau a’r adrenalin ddim byd tebyg i rywbeth o’n i wedi ei brofi o’r blaen - roedd e’n deimlad anhygoel."

Ffynhonnell y llun, Mimi Xu
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Mimi hefyd yn rhagori gyda'r ffidl ac yn canu'r piano

Gan ei bod mor ifanc mae'n rhaid i Mimi gyfuno ei gyrfa thenis gyda'i gwaith ysgol. Mae hi'n mwynhau astudio ond fe all fod yn her ar brydiau.

“Rwy'n mwynhau astudio yn fawr, felly rwy'n treulio cryn dipyn o fy amser rhydd yn gwneud gwaith ysgol, felly dydw i ddim yn cael e’n rhy anodd i ffeindio balans.

"Ond yn ystod twrnameintiau, yn enwedig os oes gen i match day hir mae e’n gallu bod yn anoddach i ddal fyny efo’r gwaith."

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Mimi ei geni yn Abertawe ar 2 Hydref, 2007

Dechreuodd Mimi chwarae tenis yn dilyn annogaeth gan gymodgion, ac mae gan ei mam gefndir mewn athletau.

“Dwi’n unig blentyn ac mewn gwirionedd dechreuais chwarae tenis oherwydd fy nghymdogion, ac mae'n debyg i mi ddechrau chwarae mwy ar ôl trip ysgol.

"Roedd fy mam yn sbrintiwr ac yn gwneud y naid hir pan oedd hi'n iau, ond doedd fy nhad ddim yn cymryd rhan mewn unrhyw chwaraeon o gwbl."

Chwifio'r Ddraig Goch

Er ei bod bellach yn byw a hyfforddi yn Lloegr ac yn teithio'r byd yn chwarae, mae Mimi'n falch iawn o'i gwreiddiau.

“Mae hi bob amser yn anrhydedd cael chwarae dan faner Cymru, a dwi’n hynod ddiolchgar am yr holl gefnogaeth rydw i wedi’i gael ar hyd fy nhaith. Mi fydda i wastad yn cofio chwarae yn ail rownd Junior Wimbledon ar Cwrt 12.

"Roeddwn i'n eitha' nerfus gan mai hwn oedd y cwrt mwyaf i mi chwarae arno erioed gyda torf eitha' mawr, ond nath rhywun yno weiddi 'Come on Wales!'... ‘nath hwnna fy helpu i ymlacio i mewn i'r gêm!"

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mimi'n cystadlu yn Junior Wimbledon

Felly, beth yw gobeithion Mimi ar gyfer Pencampwriaethau Wimbledon eleni?

“Rwy'n gwybod bod pawb yn dweud hyn, ond dwi’n trio cymryd hi un gêm ar y tro. Yn amlwg, byddwn wrth fy modd yn ennill yr holl beth! Ond fy mhrif ffocws yw cymryd popeth fel y daw hi a thrio amsugno bob eiliad i fewn!

“Cam nesa’ fy ngyrfa yw datblygu fy gêm i fy helpu a trio sefydlu fy hun ar tour y menywod, tra hefyd yn cymysgu mewn rhai twrnameintiau iau.”

Pynciau cysylltiedig