Ailagor theatr yn Abertawe fu'n lwyfan i Charlie Chaplin
- Cyhoeddwyd
Bydd theatr yn Abertawe a oedd yn wynebu cael ei dymchwel yn ailagor ym mis Medi yn dilyn prosiect gwerth £10m.
Fe berfformiodd sêr enwog fel Charlie Chaplin ac Anthony Hopkins yn Theatr y Palas a gafodd ei hagor ym 1888.
Ar ôl cael ei adael yn wag am dros 15 mlynedd, bydd yr adeilad rhestredig Gradd II yn agor fel caffi, swyddfeydd a gofod i ddigwyddiadau.
Dros y degawdau mae’r adeilad wedi ei ddefnyddio fel neuadd gerddoriaeth, neuadd bingo ac, yn fwyaf diweddar, fel clwb nos.
Fe brynodd Cyngor Abertawe'r adeilad yn 2020 - ddyddiau'n unig ar ôl ymosodiad posib o losgi bwriadol.
Dywedodd arweinydd y cyngor, Rob Stewart, fod yr adeilad yn “bwysig ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol a hanes Abertawe".
Yn ei hanterth fe wnaeth perfformwyr fel Morecambe a Wise, a Laurel a Hardy ymddangos ar lwyfan Theatr y Palas.
Mae llawer o nodweddion gwreiddiol y theatr wedi’u hadfer, gan gynnwys y bwa o amgylch y llwyfan a’r brics coch gwreiddiol y tu allan.
Bydd Tramshed Tech yn prydlesu'r adeilad, a dywed pennaeth datblygu'r cwmni eu bod wedi gweithio’n agos gyda’r adeiladwyr "i gynnal cymaint o’r nodweddion gwreiddiol ag y gallwn."
“Gyda’r llen dân oedd yma’n wreiddiol," medd Rich Harries, "rydyn ni’n gweithio gydag artistiaid lleol i geisio gwneud rhywfaint o waith celf allan o’r llen honno, ac mae’r system pwli ar gyfer y llen yn cael ei hadfer."
Ond ni ddaeth y gwaith adfywio heb heriau.
“Y peth mwyaf diddorol rydyn ni wedi’i ddarganfod yw ffynnon yn y seler, felly fe ddaeth a hynny â'i drafferthion ei hun i’r gwaith, ond mae’r adeiladwyr wedi gwneud gwaith da iawn,” meddai Mr Harries.
Mae gan Tramshed Tech swyddfeydd yng Nghaerdydd, Casnewydd a’r Barri.
Theatr y Palas yn Abertawe fydd eu chweched swyddfa yn ne Cymru.
'Ehangu ar y talent sydd yma'
Dywedodd Gwenno Jones, pennaeth cymunedol y cwmni, bod gweithio gyda busnesau yn Abertawe yn “hollbwysig”.
“Mae’r swyddfeydd cydweithio, y digwyddiadau a’r siop goffi ar gael i bawb,” meddai.
“'Da' ni eisiau dod â busnesau o Abertawe a thrwy Gymru at ei gilydd, i ehangu ar y talent sydd gyda ni yma.”
Gyda’r nos, fe fydd cyfle i’r llwyfan cael ei ddefnyddio ar gyfer perfformiadau unwaith eto.
Yn ôl Ms Jones, mae’r ymateb wedi bod yn wych.
Dywedodd: “Mae’r ymateb o Abertawe wedi bod yn wych, mor bositif ac mor gyffrous i bobl ddod mewn, a ni methu aros i agor y drysau unwaith eto.”
Mae'r prosiect yn cael ei ariannu gan Gronfa Ddatblygu Ranbarthol Ewrop, Llywodraeth Cymru a Chyngor Abertawe.
Dywedodd arweinydd Cyngor Abertawe, Rob Stewart: “Mae gan yr adeilad lot fawr o hanes ac mae’r gwaith yma yn rhan o’r adfywiad ehangach o ganol dinas Abertawe.
“Mae’n hynod bwysig ein bod ni’n adfer yr adeiladau hyn ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.”
Dywedodd Mr Stewart bod “galw mawr” am fwy o lefydd swyddfa yng nghanol y ddinas.
Ychwanegodd: “Rydym wedi cael uchelgais fel cyngor i gynyddu nifer y swyddfeydd yng nghanol y ddinas, ac ni allwn ni golli’r cyfle i weithio gyda Tramshed Tech i ddod â phartneriaid a busnesau i mewn.
“Ni eisiau cefnogi cwmnïau lleol a rhoi swyddfeydd a chyfleusterau iddynt ehangu eu busnesau.
“Ni ddim eisiau i gwmnïau i adael y ddinas i dyfu eu busnesau, felly mae’r prosiectau hyn yn golygu ein bod yn tyfu cyflogaeth a diwydiannau arloesol yma yn Abertawe.”