Dynes wedi marw ar ôl gwrthdrawiad yn y gogledd

Ffordd ConwyFfynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Bu farw dynes ddiwrnod ar ôl gwrthdrawiad ym Mae Colwyn ddydd Mercher

  • Cyhoeddwyd

Mae dynes wedi marw yn dilyn gwrthdrawiad ym Mae Colwyn.

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i wrthdrawiad un cerbyd ar Ffordd Conwy yn yr ardal West End am 13:00 ddydd Mercher.

Roedd y gwrthdrawiad yn ymwneud â fan Peugeot Partner brown.

Cafodd dynes yn ei 70au ei chludo mewn ambiwlans awyr i Ysbyty Glan Clwyd gydag anafiadau difrifol ond bu farw ddydd Iau.

Mae'r gyrrwr, dyn yn ei 70au, mewn cyflwr sefydlog yn Ysbyty Glan Clwyd.

Dywedodd y Sarsiant Emlyn Hughes o’r Uned Plismona’r Ffyrdd: “Mae ein meddyliau’n parhau gyda theulu a ffrindiau’r ddynes ar yr amser anodd hwn.

“Mae’r ymchwiliad ar y gweill, ac rwy’n gofyn i unrhyw dystion neu unrhyw un a allai fod wedi bod yn teithio yn y cyffiniau ac a allai fod wedi dal symudiadau’r cerbyd ar y dash cam cyn y gwrthdrawiad i ddod ymlaen.

“Hoffwn ddiolch i bawb sydd eisoes wedi cysylltu â ni.”

Pynciau cysylltiedig