Medal i gofio cyfraniad arbennig R Alun Evans

R Alun Evans ar lwyfan y pafiliwnFfynhonnell y llun, Aled Llywelyn/Athena Pictures
Disgrifiad o’r llun,

Am flynyddoedd roedd R Alun Evans yn wyneb cyfarwydd ar lwyfan Pafiliwn yr Eisteddfod Genedlaethol

  • Cyhoeddwyd

Fe fydd yr Eisteddfod Genedlaethol eleni yn dra gwahanol i deulu'r diweddar R Alun Evans - hon fydd y Brifwyl gyntaf heb y "gŵr a gyfrannodd gymaint" i'w holl weithgareddau.

Roedd R Alun, a fu farw ddiwedd Awst 2023, yn ddarlledwr ac yn awdur blaenllaw ac hefyd yn ffigwr hynod o amlwg o fewn llywodraethiant yr Eisteddfod Genedlaethol.

Fe ymgymerodd â sawl rôl allweddol. Bu'n arweinydd llwyfan, yn aelod a chadeirydd Cyngor yr Eisteddfod, yn llywydd y Llys ac ef oedd cadeirydd cyntaf Bwrdd Rheoli'r Eisteddfod gan arwain y sefydliad drwy gyfnod pwysig o newid ac esblygu.

Roedd hefyd yn un o ychydig gymrodyr yr Eisteddfod - anrhydedd a gafodd am oes o wasanaeth.

Gwobrwyo cymwynaswyr bro

Ddydd Llun cyn seremoni'r Coroni bydd cyfle i gofio amdano ar lwyfan y Brifwyl ac yn ystod y digwyddiad bydd yna gyhoeddiad am wobr arbennig er cof amdano.

"Ry'n ni'n hynod o falch bod yr Eisteddfod wedi penderfynu anrhydeddu fy nhad a'n dewis ni fel teulu - mam yn arbennig - yw bod y fedal goffa yn gwobrwyo cymwynaswyr bro," meddai Betsan Powys, ei ferch, wrth siarad â Cymru Fyw.

"Bydd y wobr yn cydnabod cyfraniad mewn bro i fywyd a diwylliant Cymru."

Disgrifiad o’r llun,

R Alun Evans oedd Llywydd y Brifwyl ym Meifod yn 2015

"Roedd yr Eisteddfod mor bwysig i dad. Fe fethodd fynd i Eisteddfod Llŷn ac Eifionydd ond bu'n gwylio'r cyfan o adref ychydig ddyddiau cyn ei farwolaeth," ychwanegodd Betsan.

"Ar Fedal R Alun bydd llun o dad a chwpled gan fy mrawd, Rhys - ac fe fydd yn cael ei rhoi am y tro cyntaf yn Eisteddfod Wrecsam 2025.

"Roedd yr Eisteddfod mor bwysig i 'nhad. Roedd cyswllt wedi bod gydag e â'r Brifwyl gydol ei oes, o'r amser pan oedd yn gwerthu hufen iâ ar y maes yn fachgen ifanc.

"Ry'n ni fel teulu yn edrych ymlaen at y digwyddiad ddydd Llun - a bydd mam, sydd mor falch o'r wobr, yn gwylio o adref am bod ei hiechyd hithau bellach yn fregus."

Disgrifiad o’r llun,

"Roedd R Alun yn arweinydd naturiol ac yn fodern ei weledigaeth," medd Betsan Moses

"Roedd yn hael iawn gyda'i amser ac roedd cyngor R Alun wastad yn werth ei gael," meddai Betsan Moses, Prif Weithredwr yr Eisteddfod Genedlaethol.

"Roedd yn arweinydd naturiol, yn fodern ei weledigaeth, yn gweld dyfodol yr Eisteddfod yn glir, ac yn rhannu o'i brofiad a'i syniadau gyda ni tan y diwedd."