Arestio dau ddyn ar ôl canfod corff dynes yn Abertawe

Cafodd Leanne Williams ei chanfod yn farw yn ei chartref brynhawn Iau
- Cyhoeddwyd
Mae dau ddyn wedi cael eu harestio ar ôl i gorff dynes 47 oed gael ei ddarganfod yn ei chartref yn Abertawe.
Cafodd Heddlu'r De eu galw i eiddo ar Ffordd Gomer yn ardal Townhill, Abertawe am tua 14:00 ddydd Iau.
Cafodd Leanne Williams ei darganfod yn farw ac roedd wedi dioddef anafiadau fyddai'n awgrymu y gallai fod rhywun wedi ymosod arni, meddai swyddogion.
Mae'r ddau ddyn yn cael eu cadw yn y ddalfa ac mae ymchwiliadau'r heddlu yn parhau.
Heddlu 'ddim yn chwilio am unrhyw un arall'
Dywedodd y ditectif uwch-arolygydd Mark O'Shea eu bod yn ceisio deall beth oedd symudiadau Ms Williams rhwng 18:00 ddydd Llun, Chwefror 24 a phrynhawn Iau.
"Mae'r newyddion ofnadwy yma wedi syfrdanu'r gymuned leol, ac wrth gwrs wedi llorio ei theulu - sydd yn derbyn cefnogaeth gan swyddogion arbenigol," meddai.
"Mae yna dim o swyddogion sy'n gweithio yn ddiflino fel rhan o'r ymchwiliad yma a gallaf gadarnhau bod dau ddyn yn y ddalfa mewn cysylltiad â'r digwyddiad yma, ac nad ydyn ni'n chwilio am unrhyw un arall ar hyn o bryd."
Mae'r heddlu yn apelio ar unrhyw un sydd â gwybodaeth neu luniau fideo all fod o ddefnydd i'r ymchwiliad i gysylltu â nhw.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd2 Mawrth