Galw am drethu ymwelwyr wrth ragweld mwy yn sgil newid hinsawdd
- Cyhoeddwyd
Mae 'na alw ar i Lywodraeth Cymru sefydlu system o drethu twristiaid yn sgil rhybuddion y bydd nifer yr ymwelwyr â'r wlad yn cynyddu yn sgil newid hinsawdd.
Yn Y Bala mae busnesau a phobl leol yn dweud bod angen mwy o gefnogaeth ariannol er mwyn sicrhau bod modd ymdopi â'r niferoedd sy'n ymweld â'r ardal.
Fe ddaw'r rhybudd wrth i adroddiad gan y Comisiwn Ewropeaidd ragweld y gall cynhesu byd eang gael effaith sylweddol ar nifer y twristiaid sy'n dewis teithio i Gymru.
Yn ôl Llywodraeth Cymru mae "trafodaethau helaeth wedi'u cynnal" i "gyflwyno ardoll ymwelwyr i gefnogi twristiaeth gynaliadwy", gan ychwanegu y bydd deddfwriaeth ddrafft yn cael ei chyflwyno i'r Senedd ar gyfer craffu yr hydref hwn.
Yn ardal Y Bala, mae tywydd braf yn rhoi hwb i fusnesau lleol sy'n dibynnu ar dwristiaid yn ystod gwyliau'r haf.
"Mae’r penwythnosau yn ofnadwy o brysur," meddai Arwel Morris, warden Llyn Tegid ar ran Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri.
"Dwi’n siŵr bod ni gyd yn yr ardal yma yn ymwybodol bod y tywydd yn braf a bod hi’n eithriadol o brysur yma."
Yn ôl Arwel, roedd wardeiniaid wedi troi cannoedd o geir i ffwrdd o'r meysydd parcio y penwythnos diwethaf, a hynny oherwydd bod yr ardal yn llawn.
Er i Arwel groesawu pobl i'r ardal, mae'n enwi sbwriel, barbeciws a cheir ymhlith y "problemau" sy'n effeithio ar yr ardal.
"Mae’n cymryd oriau bob diwrnod i ni glirio'n meysydd parcio ni."
Mae adroddiad y Comisiwn Ewropeaidd yn awgrymu y gall Cymru weld nifer sylweddol o dwristiaid dros y blynyddoedd nesaf os ydy cynhesu byd eang yn parhau.
Yr awgrym yw y bydd gorllewin Cymru yn gweld twf o bron i 16%, wrth i bobl droi eu cefnau ar wledydd fel Groeg yn sgil y tymheredd.
Mae ystadegau gan Croeso Cymru yn awgrymu bod nifer yr ymwelwyr o'r Almaen, er enghraifft, wedi dyblu rhwng 2022 a 2023.
Mae nifer y llongau mordaith sy'n ymweld â Chymru wedi cynyddu i 97 eleni, sef 25% fwy na llynedd.
- Cyhoeddwyd13 Awst
- Cyhoeddwyd16 Gorffennaf
Ymhlith y miloedd sydd wedi dewis Cymru eleni yn lle tir mawr Ewrop mae Amelia a Fabian o Baris, a'u tri o blant.
‘’Mae’n well gennym ni’r tywydd yma," meddai Fabian.
"Mae’n rhy boeth ym Mharis yn yr haf."
Yn ôl Amelia mae'r tywydd yng Nghymru wedi bod "yn berffaith" i'r teulu.
"Cyn i ni ddod roedden ni’n poeni am gael glaw yn ystod ein gwyliau ond mae’n neis a ddim yn boeth."
Yn ôl y cynghorydd Alan Jones Evans, sy’n cynrychioli Llanuwchllyn a Llangywer, mae nifer y bobl sy'n ymweld â'r ardal yn cael effaith ar y trigolion yn lleol.
"Tydi byw yn Llangywer drwy’r haf ddim yn jôc i’r trigolion," meddai.
"Mae eu bywydau nhw yn cael eu llesteirio’n llwyr gan y pwysau ar y ffordd gul."
Ychwanegodd bod angen arian ar awdurdodau lleol er mwyn ymateb i'r sefyllfa.
"Mae dwysedd twristiaeth wedi dyblu ers adeg Covid ac mae gallu awdurdodau lleol i ymateb i’r newid yma wedi cael ei ddifetha yn llwyr," meddai.
"Mae 'na le i edrych o ddifri' ar dreth dwristiaeth.
"Mae 'na lot o atebion a phosibiliadau ond mae angen cyllideb a’r ewyllys gwleidyddol."
Mae Gwyn Sion Ifan, cadeirydd Grŵp Busnesau’r Bala, hefyd o'r farn ei bod yn "hen bryd symud ymlaen" gyda threth ar dwristiaid.
"Mae’n digwydd mewn digon o wledydd trwy Ewrop," meddai.
"Mi fydd hwnna wedyn yn rhoi mwy o adnoddau i’n awdurdodau ni i fedru dygymod â’r ffasiwn niferoedd sydd yn dod."
Mewn ymateb fe ddywedodd Llywodraeth Cymru: "Mae gan Gymru gymaint i'w gynnig i ymwelwyr, ac mae twristiaeth yn hanfodol i'n heconomi.
"Ry'n ni am wneud yn siŵr ein bod yn gwireddu'r potensial hwnnw gan sicrhau cydbwysedd cynaliadwy rhwng cymunedau, busnesau, tirweddau, ac ymwelwyr."
Ychwanegodd y llywodraeth bod "trafodaethau helaeth wedi'u cynnal â'r diwydiant twristiaeth, awdurdodau lleol, a sefydliadau eraill ar gynigion i gyflwyno ardoll ymwelwyr i gefnogi twristiaeth gynaliadwy".