'Torcalon' talu am wyliau carafán sydd ddim yn bodoli
- Cyhoeddwyd
Mae sgamwyr yn defnyddio Facebook i dargedu pobl sy'n chwilio am wyliau carafán ac yn eu twyllo'n ariannol.
Talodd Ann Crofts, 53, flaendal o £75 ar gyfer gwyliau carafán yng Ngheinewydd, yng Ngheredigion ac yna darganfod bod ei manylion wedi cael eu defnyddio i sefydlu cyfrif siopa.
Ac fe dalodd merch 17 oed flaendal o £240 i rywun oedd yn hysbysebu gwyliau carafán dim ond i gyrraedd y safle carafanau a chael gwybod nad oedd y garafán yn bodoli.
Dywedodd llefarydd ar ran Meta, sy'n berchen ar Facebook, nad ydyn nhw'n caniatáu gweithgareddau twyllodrus a'u bod yn "ymchwilio i'r cyfrifon a ddaeth i'n sylw".
Dywedodd arbenigwyr ar ran Which Consumer fod y mathau hyn o sgamiau yn "hynod o gyffredin", gan ychwanegu y dylai’r heddlu, y llywodraeth a Facebook wneud mwy i amddiffyn pobl.
Amheuaeth 'bod rhywbeth ddim yn iawn'
Dywedodd Ms Crofts, o Bontypridd, ei bod wedi ei thargedu ar ôl iddi bostio neges ar un o dudalennau cymunedol Facebook yn dweud ei bod yn chwilio am le i aros yng ngorllewin Cymru.
Fe wnaeth person ei hateb gan honni ei bod yn berchen ar garafán ar safle sy'n eiddo i gwmni gwyliau Haven, a dechreuodd Ms Crofts drafod ei llogi gyda nhw drwy neges uniongyrchol.
Ond unwaith iddi ganfod ei bod wedi'i thwyllo fe wnaeth perchennog y garafán a hysbysebwyd ei blocio ac fe wnaeth hi hysbysu Facebook o'r dwyll.
"Rwy'n byw yn China ac ond yn dod adref ychydig fisoedd y flwyddyn. Roeddwn i eisiau treulio amser gyda fy nheulu," meddai.
"Roedd 'na rywbeth yn dweud wrthai bod rhywbeth ddim yn iawn."
Yn sgil teimlad y gallai'r gwyliau fod yn sgam, edrychodd Ms Crofts ar wefan Haven yn uniongyrchol a gweld nad oedd proffil y person yn cyfateb â pherchennog cofrestredig y garafán.
"Fe anfonodd hi gofnod perchnogaeth ata' i ond roedd yr enw yn aneglur," meddai.
Dywedodd Ms Crofts fod y sgamiwr wedi mynd ati i ddefnyddio ei henw, ei chyfeiriad a'i dyddiad geni i sefydlu cerdyn siopa gyda chwmni Next.
Wedi iddi amau bod y cyfan yn dwyll dywed bod y gwerthwr wedi ei blocio a bod hi yna wedi cael trafferth hysbysu Facebook o'r hyn oedd wedi digwydd.
"Wnaeth Facebook ddim ymateb," meddai. "Dylai'r cyfryngau cymdeithasol gymryd cyfrfioldeb ond ar yr un pryd roeddwn i wedi credu yr hyn roeddwn wedi'i weld."
Un arall sydd wedi ei thwyllo yw Rebecca - nid ei henw iawn.
Fe dalodd flaendal o £240 i rywun oedd yn hysbysebu gwyliau carafán ym Mharc Carafanau Trecco ym Mhorthcawl.
Ond, pan gyrhaeddodd y safle dywedwyd wrthi nad oedd y garafán a archebodd yn bodoli.
"Pan ffoniais i'r heddlu, fe wnaethon nhw gymryd fy manylion a'r holl wybodaeth oedd gen i, ond dywedon nhw nad oedd llawer y gallent ei wneud, gan y gallai'r sawl a'n twyllodd fod unrhyw le yn y byd.
"Dyw hi ddim wedi bod yn gyfnod hawdd i ni fel teulu, felly roedd colli'r arian yma yn dorcalon i ni. Roedden ni angen yr arian ar gyfer yr haf."
Dywedodd llefarydd ar ran Trecco Bay: “Rydym yn pryderu am yr hysbysebion sgam hyn ac yn cydymdeimlo ag unrhyw un sydd wedi cael eu heffeithio.
"Mae’r hysbysebion hyn yn ymwneud ag archebion preifat, yn hytrach na’n platfformau archebu, a byddem bob amser yn annog unrhyw un sydd am aros yn y parc i archebu’n ddiogel yn uniongyrchol drwy ein gwefan neu drwy un o’n partneriaid dibynadwy."
Mae cwmni Haven wedi cael cais i ymateb.
Yn ôl y gyfreithwraig Lisa Webb, un o arbenigwyr cwmni Which, mae angen bod yn wyliadwrus am y canlynol:
Mae bargeinion rhad yn aml yn rhy dda i fod yn wir - mae sgamwyr yn ceisio tanbrisio prisiau;
Pwysau a theimlad o banig i dalu erbyn dyddiad penodol;
Proffiliau newydd eu creu, heb lawer o ffrindiau Facebook;
Nid yw enw'r banc yn cyfateb i'r proffil;
Peidiwch â defnyddio PayPal ffrindiau a theulu;
Ceisiwch ddefnyddio sianeli swyddogol, nid Facebook Marketplace.
Mae Lisa Webb yn credu y dylai Meta fynd i'r afael â chyfrifon amheus, gan nad yw'r dulliau presennol yn gweithio.
Gyda llywodraeth newydd mewn grym, dywed bod hi'n bwysig bod yna weinidog twyll "a fydd yn sicrhau bod gorchfygu twyll yn flaenoriaeth".
'Peidiwch talu am ddim byd heb ei weld'
Dywedodd llefarydd ar ran Meta: "Nid ydym yn caniatáu gweithgarwch twyllodrus ar ein platfformau ac rydym yn ymchwilio i’r cyfrifon sydd wedi dod i’n sylw.
"Mae Facebook Marketplace yn wasanaeth cyfarfod a chasglu lleol felly nid ydym yn delio gyda'r taliadau na chludo, ac rydym yn cynghori defnyddwyr i beidio byth â thalu am rywbeth nes eu bod yn ei weld yn bersonol.
"Rydym yn buddsoddi’n barhaus mewn dulliau amddiffyn yn erbyn twyll i bobl sy’n defnyddio ein platfformau.
"Rydym yn annog ein defnyddwyr i adrodd am weithgaredd fel hyn i ni a’r heddlu, fel y gallwn weithredu.”