Dedfrydu aelodau gang am fewnforio gwerth £11m o ganabis i Gymru

Abubakr KhawarFfynhonnell y llun, Athena
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Abubakr Khawar ei ddisgrifio yn ystod yr achos fel pennaeth y grŵp troseddol

  • Cyhoeddwyd

Mae aelodau gang a fewnforiodd gwerth miliynau o bunnau o ganabis o'r Unol Daleithiau i dde Cymru drwy'r post wedi cael eu carcharu.

Cafodd arweinydd y grŵp, Abubakr Khawar, 28 oed o Gaerdydd, ei ddedfrydu i wyth mlynedd dan glo.

Clywodd y llys fod Llu'r Ffiniau wedi canfod 327kg o ganabis gyda gwerth ar y stryd o £11m.

Dywedodd Roger Lewis ar ran yr erlyniad fod gweithredoedd y grŵp "yn enghraifft o fewnforio a chyflenwi cyffuriau ar raddfa ddiwydiannol".

O'r chwith i'r dde; Abdu Husain, Mohammed Hussain, Andrew Pethers a Keiran JonesFfynhonnell y llun, Heddlu De Cymru
Disgrifiad o’r llun,

O'r chwith i'r dde; Abdu Husain, Mohammed Hussain, Andrew Pethers a Keiran Jones

Clywodd y llys fod y gang yn mewnforio canabis gan gyflenwr a oedd yn cael ei adnabod fel Adam Z a oedd yn eu hanfon i'r DU o saith talaith wahanol yn yr Unol Daleithiau.

Roedd parseli wedi'u cuddio fel bocsys o ganhwyllau, yn pwyso kilo'r un ar gyfartaledd, yn cael eu postio i 80 o gyfeiriadau ledled de Cymru.

Clywodd y llys fod y gang yn gwneud elw o rhwng £3,000 a £10,000 y dydd.

Cafodd Mohammed Nural Hussain, 29 o Gaerdydd, ei ddedfrydu i chwe blynedd yn y carchar am chwarae "rhan allweddol" yn y broses o ddosbarthu a storio'r cyffuriau mewn tŷ yn ardal Glan-yr-afon yn y brifddinas.

Dywedodd y Barnwr Eugene Egan fod Hussain wedi sicrhau bod "cogiau'r peiriant yn gweithio" a bod y cyffuriau'n cael eu casglu a'u storio.

Fe glywodd y llys mai'r angen i glirio dyledion ariannol oedd y tu ôl i weithredoedd Hussain.

Pan gafodd ei arestio, daeth swyddogion o hyd i £7,000 mewn arian parod yn ei gartref.

'Edrych yn ffôl nawr'

Mae'r aelodau o'r gang oedd yn derbyn pecynnau drwy'r post wedi cael dedfrydau sylweddol hefyd.

Dywedodd y Barnwr Egan: "Mae'n rhy syml dweud mai'r 'cyfan 'nes i oedd derbyn swm bach o ganabis drwy'r post'.

"Roedd hwn yn fusnes oedd yn cael ei redeg yn dda, yn cael ei drefnu'n dda ac oedd yn gwneud elw mawr."

Clywodd y llys fod 8kg o gyffuriau gyda gwerth stryd o £164,000 wedi cael eu hatal cyn cael eu dosbarthu i Soloman Bertram, 36, o Gaerdydd - a gafodd ei ddedfrydu i 22 mis o garchar.

Cafodd ei recriwtio gan ei gariad, Sophie Jones, oedd hefyd yn aelod o'r gang.

Dywedodd y Barnwr Egan wrth y tad i chwech: "Fe allet ti fod wedi dweud na, ond fe gafodd trachwant y gorau ohonot ti. Roeddet ti'n meddwl bod hwn yn arian hawdd, mae'n rhaid bod hynny'n edrych yn ffôl nawr."

O'r chwith i'r dde; Daniel Marshall, Sophie Jones, Solomon Bertram a Kyle SolowykFfynhonnell y llun, Heddlu De Cymru
Disgrifiad o’r llun,

O'r chwith i'r dde; Daniel Marshall, Sophie Jones, Solomon Bertram a Kyle Solowyk

Fe glywodd y llys hefyd fod Sophie Jones wedi perswadio ei brawd, Keiron Jones, 29, i weithio gyda'r grŵp.

Cafodd gwerth £277,000 o ganabis oedd i fod i gyrraedd ei gyfeiriad yng Nghaerdydd eu hatal gan yr heddlu.

Wrth ei ddedfrydu i 26 mis o garchar, dywedodd y barnwr: "Dechreuais di gymryd rhan ar gais dy chwaer... Roedd gen ti broblem cyffuriau."

Bydd Sophie Jones, 32, yn cael ei dedfrydu fis nesaf.

Fe gafodd pum pecyn eu hanfon i gartref Steven Munroe, 45 o Gaerdydd, ond dim ond un a gyrhaeddodd, cafodd y pedwar arall eu hatal gan swyddogion.

Cafodd Munroe ei garcharu am 32 mis.

Clywodd y llys fod tua 2kg o ganabis wedi ei anfon i ddau eiddo oedd yn cael eu defnyddio gan Kyle Solowyk, 29 o'r Barri.

Gwrthododd ddarparu'r PIN ar gyfer ei ffôn pan gafodd ei arestio, ac mae ganddo euogfarn flaenorol am ladrad yn 2015.

Fe dreuliodd naw mlynedd mewn Sefydliad Troseddwyr Ifanc pan yn iau, a dydd Iau fe gafodd ei ddedfrydu i 34 mis yn y carchar.

Sean Montgomery a Steven MunroeFfynhonnell y llun, Heddlu De Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Cafwyd Sean Montgomery (chwith) a Steven Munroe yn euog o gynllwynio i fewnforio a chyflenwi cyffuriau

Ar ôl cael ei ddisgrifio fel aelod dibynadwy o'r gang, fe anfonodd yr arweinydd Abubakr Khawar, Sean Montgomery i swyddfa ddidoli'r Post Brenhinol ar Ffordd Holton yn Y Barri.

Ei dasg oedd trio dod o hyd i ddeg parsel o gyffuriau coll a oedd yn gyfrifol am golled o £60,000.

Clywodd y llys fod Khawar a'i gyflenwr o'r Unol Daleithiau, Adam Z, yn mynd yn fwyfwy rhwystredig gyda nifer y parseli oedd yn diflannu.

Ond mewn gwirionedd, dim diflannu oedden nhw, yr heddlu a swyddogion Llu'r Ffiniau oedd yn eu hatal.

Fe dynnodd Sean Montgomery luniau ohono'i hun yn eistedd yn ei gar gyda chanabis gwerth tua £20,000 ar ei lin.

Mae gan Montgomery euogfarnau blaenorol hefyd am gyflenwi cyffuriau categori A a'u cael yn ei feddiant, a chafodd ei garcharu am dair blynedd a chwe mis.

Cafodd Andrew Pethers, 36 o Laneirwg, Caerdydd ei ddisgrifio fel aelod dibynadwy o'r gang hefyd.

Chwaraeodd ran allweddol yn y gadwyn gyflenwi, ac roedd yn gyfrifol am roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r arweinydd am ddosbarthiad y cyffuriau.

Cafodd 3.2kg o ganabis gradd uchel eu hatal cyn iddo gyrraedd ei gartref, a chafodd ei garcharu am dair blynedd.

Mae aelod arall o'r gang, Daniel Marshall, 40 o Ferthyr Tudful, yn wynebu 32 mis o garchar.

Cafodd Abdu Husain, 29 oed o Gaerdydd, ei ddisgrifio fel rhywun "dibynadwy ac allweddol i'r gadwyn gyflenwi" ei garcharu am chwe blynedd.

'Rhaid i chi dderbyn y canlyniadau'

Dywedodd Barnwr Llys y Goron Caerdydd, Eugene Egan, fod pob aelod o'r grŵp wedi cymryd risgiau mawr "gyda'u llygaid ar agor".

"Roedd eich cymhelliad yn ariannol, ac rwy'n meiddio dweud eich bod wedi mwynhau'r arian," meddai.

Ychwanegodd fod pob un ohonyn nhw "wedi colli".

"Fe gymeroch chi'r risg, mae'n rhaid i chi nawr dderbyn y canlyniadau."

Mewn datganiad fe ddywedodd Heddlu De Cymru fod y gang wedi ceisio "osgoi cymryd cyfrifoldeb am eu hymddygiad drwy wneud newidiadau rheolaidd i'w patrymau dosbarthu, ond fe gafon nhw eu dal.

Ychwanegodd y llu fod yr "achos hwn yn dangos ymrwymiad Gwasanaeth Erlyn y Goron i atal gangiau cyflenwi cyffuriau ac erlyn y rhai sy'n gyfrifol am droseddau difrifol o'r fath".

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig