Diwygio gofal cymdeithasol yng Nghymru yn 'rhy araf'

Mae perchnogion cartrefi gofal yn dweud y byddai cael Cynllun Gofal Cenedlaethol yn dileu'r anghydraddoldebau cyllid rhwng cynghorau
- Cyhoeddwyd
Dyw diwygio gofal cymdeithasol yng Nghymru ddim yn symud yn ddigon cyflym oherwydd nad yw gweinidogion "eisiau gwneud penderfyniadau am arian", yn ôl un arbenigwr.
Ysgrifennodd yr Athro Gerry Holtham adroddiad saith mlynedd yn ôl, a awgrymodd y gallai gofal cymdeithasol i bobl hŷn gael ei ariannu drwy godi treth incwm yng Nghymru.
Mae perchnogion cartrefi gofal yn dweud y byddai cael Cynllun Gofal Cenedlaethol yn dileu'r anghydraddoldebau cyllid rhwng cynghorau.
Dywed Llywodraeth Cymru eu bod eisoes yn gweithio ar greu cynllun cenedlaethol, ond bod angen dod o hyd i ateb ar sut i'w ariannu.

"Dydyn nhw ddim eisiau gwneud y penderfyniadau am arian," meddai'r Athro Gerald Holtham am wleidyddion
Mae costau gofal cymdeithasol yn uchel, ac yn cael eu talu naill ai gan y preswylydd neu gan y cyngor lleol.
Mae gweinidogion am gael gwared ar y system hon, a sefydlu Gwasanaeth Gofal Cenedlaethol.
Fel y Gwasanaeth Iechyd, byddai'n rhad ac am ddim. Ond sut y byddai gwasanaeth mor ddrud yn cael ei ariannu a'i drefnu?
Bron i ddegawd yn ôl, gofynnodd Llywodraeth Cymru i'r Athro Gerry Holtham ymchwilio i gyllid gofal cymdeithasol.

Yn 2018, cyflwynodd gynllun a fyddai'n gweld pobl yng Nghymru yn talu rhwng 1% a 3% yn ychwanegol mewn treth incwm, yn dibynnu ar oedran, i ariannu gofal cymdeithasol.
Ond dywed yr Athro Holtham nad oes llawer wedi digwydd ers hynny oherwydd bod gwleidyddion yn rhy ofnus i fynd i'r afael â'r mater.
"Dydyn nhw ddim eisiau gwneud y penderfyniadau am arian. Ar hyn o bryd mae yna fath o ffobia sydd gan wleidyddion democrataidd ynglŷn â chodi trethi.
"Os ydych chi'n dweud wrth y cyhoedd 'edrychwch, fe fydd yn rhaid i ni dalu'r dreth yma neu fe fydd y sefyllfa bresennol yn parhau neu'n gwaethygu', dwi ddim mor siŵr na fyddai'r cyhoedd yn cytuno i hynny, ond dwi'n meddwl bod yn rhaid i chi fod yn ddigon dewr i gael y sgwrs yna."

Ar hyn o bryd mae costau gofal cymdeithasol yn cael eu talu naill ai gan y preswylydd neu gan y cyngor lleol
Mae'r Alban a Lloegr wedi cael problemau tebyg i Gymru gyda sefydlu Gwasanaeth Gofal Cenedlaethol.
Ym mis Ionawr, fe wnaeth Llywodraeth yr Alban roi'r gorau i'w cynlluniau oherwydd diffyg cefnogaeth, a chwestiynau ar sut y byddai'n cael ei ariannu.
Yn Lloegr, mae Llywodraeth y DU wedi sefydlu comisiwn i ddechrau ymchwilio i gyllid ar gyfer Gwasanaeth Gofal Cenedlaethol, ond ni fydd yn adrodd yn ôl cyn 2028.

"Mae yna wahaniaethau cyflog rhwng byrddau iechyd a llywodraeth leol," meddai'r Cynghorydd Jane Gebbie
Mae'r Cynghorydd Jane Gebbie yn gyfrifol am wasanaethau cymdeithasol ym Mhen-y-bont ar Ogwr, ac mae'n siarad ar ran cynghorau Cymru ar ofal cymdeithasol, drwy Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru.
Mae hi'n dweud na all newid ddod yn ddigon buan, ac y gallai Cymru gael Gwasanaeth Gofal Cenedlaethol yn llawer cynt, pe bai'r cwestiwn ariannol yn cael ei daclo.
"Rwy'n meddwl y gallai gael ei wneud mewn cwpl o flynyddoedd… 'wi ddim yn meddwl bod ni'n gwybod o ble mae'r arian yn mynd i ddod.
"Mae Llywodraeth Cymru yn gwybod bod y galw ar ein gwasanaethau yn cynyddu. Mae yna wahaniaethau cyflog rhwng byrddau iechyd a llywodraeth leol.
"Dyna fater arall y bydd yn rhaid iddynt ei ddatrys cyn y gallwn gael unrhyw fath o Wasanaeth Gofal Cenedlaethol."

"Mae'n broblem sy'n rhy anodd ei thrin," meddai Mario Kreft
Mae Mario Kreft, sy'n gadeirydd Fforwm Gofal Cymru, y grŵp ymbarél sy'n siarad ar ran y sector, yn dweud ei fod eisiau gweld newid.
Mae am weld y taliadau gwahanol sy'n cael eu codi ar draws cynghorau Cymru yn cael eu cysoni fel y byddai pawb yn talu'r un peth, gan gael gwared ar y 'loteri cod post' mewn gofal.
Mae'n croesawu'r cynllun ar gyfer gwasanaeth cenedlaethol, ond yn cwestiynu pa mor hir y dylai hyn gymryd.
"Ry'n ni wedi gweld cymaint o gomisiynau brenhinol ac yn y blaen am ofal cymdeithasol, ond mae bob amser yn ymddangos fel pe bai'n cyrraedd y pwynt lle ma' nhw'n ei wthio'n ôl neu ddweud ei fod yn rhy ddrud.
"Mae'n broblem sy'n rhy anodd ei thrin."
- Cyhoeddwyd30 Medi 2019
- Cyhoeddwyd3 Mawrth
- Cyhoeddwyd6 Hydref 2024
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Ein nod hirdymor yw creu Gwasanaeth Gofal Cenedlaethol i Gymru.
"Rydym eisoes wedi lansio ein Swyddfa Genedlaethol ar gyfer Gofal a Chymorth sy'n gweithio gyda'r sector ac yn cyflawni yn erbyn ein Cynllun Gweithredu Cychwynnol cyhoeddedig, sef cam cyntaf cynllun 10 mlynedd.
"Byddai ein gweledigaeth ar gyfer Gwasanaeth Gofal Cenedlaethol yng Nghymru yn gweld system sy'n darparu gofal o ansawdd rhagorol, sy'n cefnogi gwaith deniadol a gwerth chweil, ac sydd wedi'i hintegreiddio'n agos â'r GIG a'r sector cyhoeddus ehangach.
"Mae angen i gynlluniau uchelgeisiol fel y rhain fodoli o fewn cyd-destun system ariannu cynaliadwy sy'n cefnogi ein sector gofal cymdeithasol ac yn ei alluogi i ffynnu.
"Mae'r sector gofal cymdeithasol yn ganolog i gefnogi pobl, ac mae datblygu Gwasanaeth Gofal Cenedlaethol yng Nghymru yn dangos ein hymrwymiad i ddarparu gwasanaethau gofal a chymorth rhagorol."
Ymateb y pleidiau
Dywedodd Mabon ap Gwynfor AS, llefarydd Plaid Cymru dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol: "Ers yn rhy hir, mae Llywodraeth Lafur Cymru wedi methu â mynd i'r afael â'r pwysau ym maes gofal cymdeithasol - ac mae hynny wedi arwain at wasanaeth iechyd sydd ar ei liniau.
"O ystyried maint y mater, ac os ydym am fynd i'r afael â'r broblem yn iawn, yna mae angen cyllid teg ar frys i fuddsoddi mewn gwasanaethau cyhoeddus ac i gyflawni polisïau sy'n diwallu anghenion Cymru."
Dywedodd James Evans AS, Ysgrifennydd Cysgodol y Ceidwadwyr dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol: "Nid oes angen i Lywodraeth Cymru roi ei dwylo'n ddyfnach ym mhocedi pobl i drwsio gofal cymdeithasol.
"Yn lle codi trethi, dylid gael gwared ar brosiectau diangen.
"Mae yna filiynau o bunnoedd y gellid eu harbed pe bai Llafur â'r ewyllys gwleidyddol i wneud hynny."