Gofal: Galw am sicrhau nad ydy pobl fregus ar eu colled

Mae rheolwr Cartref Gofal Plas Gwyn yn Llanrhystud, Ceredigion, yn poeni am y sefyllfa
- Cyhoeddwyd
Mae'n rhaid i Lywodraeth Cymru siarad â'r sector gofal i sicrhau nad ydy pobl fregus ar eu colled, yn ôl y Comisiynydd Pobl Hŷn.
Daw hynny ar ôl i reolwr cartref gofal yng Ngheredigion rybuddio am effaith y costau fydd yn codi ym mis Ebrill, gyda chynnydd yn y Cyflog Byw Gwirioneddol a'r bil Yswiriant Gwladol hefyd o bosib.
Dywedodd y Comisiynydd Rhian Bowen-Davies ei bod hi'n "amlwg ein bod ni ar hyn o bryd mewn sefyllfa lle mae'n gwasanaethau ni, gan gynnwys cartrefi gofal, dan bwysau mawr".
Yn ôl Llywodraeth Cymru fe fyddan nhw'n darparu mwy na £6.1bn i awdurdodau lleol yn 2025-26 i ddarparu gwasanaethau allweddol, gan gynnwys gofal cymdeithasol.

Mae Steffan Lewis yn galw am fwy o arian i gartrefi gofal wrth i gostau gynyddu
Mae Steffan Lewis, rheolwr Cartref Gofal Plas Gwyn yn Llanrhystud, Ceredigion, yn poeni.
"Mae'r Real Living Wage yn codi eto i'r staff, sydd yn grêt gan ein bod ni am i'r staff ennill mwy am y gwaith da maen nhw'n ei wneud, ond mae'n rhaid iddo gael ei adlewyrchu yn y ffioedd.
"Mae holl gostau rhedeg y cartref yn codi eto ym mis Ebrill - nid dim ond y Real Living Wage - felly mae'n rhaid sicrhau ein bod ni'n cael ein talu digon a bod y ffioedd 'dyn ni'n cael ein talu bob mis yn mynd lan hefyd."
Cynnydd mewn costau
Daeth i'r amlwg fis diwethaf y bydd £30m ychwanegol yn cael ei roi tuag at ofal cymdeithasol yng nghyllideb Llywodraeth Cymru.
Daw hyn yn dilyn trafodaethau rhwng y Blaid Lafur a'r Democratiaid Rhyddfrydol.
Ond pryder y sector yw'r cynnydd mewn costau - y Cyflog Byw Gwirioneddol, sef yr isafswm tâl sy'n cael ei awgrymu gan y Living Wage Foundation yn seiliedig ar gostau byw, ac mae'n bosib y bydd cynnydd yn y bil Yswiriant Gwladol hefyd.

Mae'r Comisiynydd Pobl Hŷn, Rhian Bowen-Davies yn galw am fwy o drafod rhwng y llywodraeth a'r sector gofal
Yn ôl Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru, Rhian Bowen-Davies: "Wrth feddwl am y cynnydd sydd yn mynd i ddod o fis Ebrill ymlaen, mae wir galw ar Lywodraeth Cymru i siarad gyda'r sector."
Dywedodd bod angen gwneud hynny er mwyn "sicrhau dyfodol y sector a bod y bobl fregus sy'n derbyn y gwasanaethau yma ddim yn colli allan".
- Cyhoeddwyd30 Medi 2024
- Cyhoeddwyd6 Hydref 2024
Mae Llywodraeth Cymru'n dweud eu bod wedi rhoi arian ers tair blynedd i sicrhau bod gweithwyr gofal cymdeithasol yn cael o leiaf y Cyflog Byw Gwirioneddol.
Dywedodd llefarydd: "Yn 2025-26, byddwn yn darparu mwy na £6.1bn i awdurdodau lleol i ddarparu gwasanaethau allweddol, gan gynnwys gofal cymdeithasol.
"Mae hyn yn gynnydd o 4.5%, neu £262m, o'i gymharu â'r flwyddyn bresennol.
"Bydd £30m ychwanegol ar gael hefyd i helpu'r maes gofal cymdeithasol i dargedu oedi wrth ryddhau cleifion o'r ysbyty ac i ddarparu mwy o ofal a chymorth mewn cymunedau lleol."
Ychwanegon nhw eu bod yn cydnabod y pryderon am yswiriant gwladol, ond nad yw'r maes hwnnw wedi'i ddatganoli.
Mae Trysorlys Llywodraeth y DU wedi cael cais am ymateb.