Arestio dau ar ôl ymosodiad honedig ar fachgen ysgol

Ysgol Uwchradd LlyswyryFfynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd y digwyddiad ei ddisgrifio fel un "difrifol" gan bennaeth Ysgol Uwchradd Llyswyry

  • Cyhoeddwyd

Mae dau o bobl wedi cael eu harestio yn dilyn ymosodiad honedig ar fachgen ysgol yng Nghasnewydd.

Ddydd Mercher cafodd fideo ei rannu ar y cyfryngau cymdeithasol, oedd yn ymddangos fel petai grŵp o blant yn ymosod ar ddisgybl o Ysgol Uwchradd Llyswyry, tra'i fod yn cael ei ddal gan ddyn.

Dywedodd Heddlu Gwent eu bod wedi arestio dyn 30 oed a bachgen 13 oed mewn cysylltiad â'r digwyddiad, sy'n parhau yn y ddalfa.

Mae'r ddau yn cael eu hamau o achosi anaf corfforol, tra bo'r dyn hefyd yn cael ei amau o achosi cythrwfl (affray).

Fe wnaeth yr heddlu gadarnhau hefyd eu bod yn ymwybodol o honiad arall o ymosodiad yn ymwneud â phlentyn gwahanol yn gynharach yr un diwrnod.

'Digwyddiad difrifol'

Fe wnaeth pennaeth Ysgol Uwchradd Llyswyry, Julia Fitzgerald, yrru neges at rieni ddydd Mercher yn dweud bod "digwyddiad difrifol" wedi bod ar ôl ysgol.

Dywedodd bod ymchwiliad llawn yn cael ei gynnal.

Mae'r heddlu wedi adnabod y person ifanc yn y fideo a gafodd ei rannu ar gyfryngau cymdeithasol, ac mae swyddogion yn "parhau i'w gefnogi wrth i'n hymholiadau barhau," meddai'r prif gwnstabl cynorthwyol, Vicki Townsend.

"Rydym wedi arestio dau mewn cysylltiad â'r digwyddiad, ac mae'r ddau yn parhau yn nalfa'r heddlu ar hyn o bryd," meddai.

Ychwanegodd eu bod hefyd yn ymwybodol o'r achos ar wahân.

"Hoffwn roi sicrwydd i drigolion fod gennym dîm yn gweithio ar yr achos hwn hefyd, ac mae ymholiadau'n parhau ar hyn o bryd," meddai.

Dywedodd eu bod yn "deall ofnau'r cyhoedd yn sgil digwyddiad o'r fath", a'u bod yn ddiolchgar am y wybodaeth sydd wedi cael ei roi i'r heddlu.

Ond rhybuddiodd i bobl beidio a "dyfalu ar gyfryngau cymdeithasol", ac i gysylltu gyda'r heddlu os oes ganddyn nhw wybodaeth.

Pynciau cysylltiedig