Rhybudd am stormydd o daranau i'r canolbarth a'r de

Mae'r rhybudd mewn grym ar gyfer rhannau helaeth o ganolbarth a de Cymru a Lloegr
- Cyhoeddwyd
Mae'r Swyddfa Dywydd wedi cyhoeddi rhybudd melyn am stormydd o daranau ar gyfer rhannau o'r canolbarth a'r de dros y penwythnos.
Mae'r rhybudd mewn grym rhwng 09:00 a 18:00 ddydd Sadwrn.
Mae arbenigwyr yn rhybuddio y gallai'r tywydd garw achosi llifogydd a thrafferthion i deithwyr mewn mannau.
Gallai 10-15mm o law ddisgyn mewn cyfnodau cymharol fyr, tra bod 30-40mm yn bosib mewn rhai mannau.
Mae mellt, cenllysg a gwyntoedd cryfion hefyd yn bosib, yn ôl y Swyddfa Dywydd.
Mae'r rhybudd yn berthnasol i'r siroedd canlynol:
Blaenau Gwent
Pen-y-bont ar Ogwr
Caerffili
Caerdydd
Sir Gaerfyrddin
Merthyr Tudful
Sir Fynwy
Castell-nedd Port Talbot
Powys
Rhondda Cynon Taf
Abertawe
Torfaen
Bro Morgannwg