Marwolaeth dyn yn y gogledd 'ddim yn un amheus'

Rhan o Stryd King George, ShottonFfynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i gyfeiriad ar Stryd King George, Shotton nos Fawrth

  • Cyhoeddwyd

Mae Heddlu Gogledd Cymru'n dweud nad yw achos dyn a fu farw yn Sir Y Fflint yn cael ei drin fel un amheus erbyn hyn.

Fe gafodd y gwasanaethau brys eu galw i gyfeiriad ar Stryd King George yn Shotton tua 19:20 nos Fawrth yn dilyn adroddiad bod dyn wedi marw yno.

Fe gafodd dyn 45 oed ei arestio ar amheuaeth o lofruddiaeth ond mae bellach wedi cael ei ryddhau wedi i'r heddlu gynnal mwy o ymholiadau.

Dywed y llu na fydd unrhyw gamau pellach yn erbyn y dyn.

Pynciau cysylltiedig