Cyhuddo dyn wedi gwrthdaro rhwng cefnogwyr pêl-droed

Cefnogwyr tu allan i dafarnFfynhonnell y llun, Welcome2Cardiff
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd grŵp o bobl eu gweld yn taflu poteli y tu allan i dafarn yng Nghaerdydd

  • Cyhoeddwyd

Mae dyn 18 oed, wedi'i gyhuddo yn dilyn gwrthdaro rhwng cefnogwyr pêl-droed ddydd Sadwrn.

Mae Mackenzie Bailey, o dde Sir Gaerloyw, wedi'i gyhuddo o drosedd yn erbyn y drefn gyhoeddus.

Bu swyddogion heddlu arbenigol yn bresennol ger cyffordd Heol Eglwys Fair a Stryd Wood yn y brifddinas cyn y gêm ddarbi rhwng Caerdydd a Bristol City brynhawn Sadwrn.

Fe orffennodd y gêm yn gyfartal gydag un gôl yr un.

Dywed Heddlu De Cymru nad oes neb arall wedi ei arestio.

Mae wedi ei rhyddhau ar fechnïaeth gydag amodau llys.