Prawf iechyd yn 'loteri cod post' i bobl ag anableddau dysgu
- Cyhoeddwyd
“Allwch chi ddim rhesymu gyda Griff, achos dyw’r dealltwriaeth ddim yna a gallith o ddim dweud sut mae o’n teimlo am bethau chwaith - mae’n anodd.”
Mae Gruffydd Cai, sydd â syndrom Down ac awtistiaeth, yn cael asesiad iechyd blynyddol sy’n “hanfodol”, yn ôl ei rieni Sioned a Robert Edge.
Mae’r profion i bobl ag anableddau dysgu wedi bod ar gael yng Nghymru ers blynyddoedd - ond nid ym mhobman, ac mae’r nifer sy’n eu cael wedi gostwng.
Dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod wedi ymrwymo i wella ansawdd y profion a chynyddu’r nifer sy’n manteisio arnyn nhw.
Mae Griff, 30, yn byw mewn tŷ gwarchod a gofal gyda thri arall yn Rhondda Cynon Taf.
Pan yn fabi cafodd lawdriniaethau ar ei lygaid a’i galon, a bellach mae cael unrhyw driniaethau neu frechiadau yn peri gofid iddo.
Mae’n brofiad anodd iddo gael brechiadau Covid a ffliw, meddai ei fam Sioned.
“Mae’n gorfod cael tîm rheoli ymddygiad, sy’n swnio’n ofnadwy, i ddod i gefnogi fo, i’w helpu o, i gynnal o drwy’r profiad o gael brechiadau,” ychwanegodd.
“Mae o’n gweld meddyg yn dod, mae’n gwybod bod rhywbeth yn mynd i gael ei 'neud nad ydy o'n licio, sy’n mynd i fod yn annymunol ac o bosib sy'n mynd i frifo.”
Mae ymchwil yn dangos gall y profion iechyd wella hirhoedledd pobl ag anghenion dysgu - yn arbennig pobl sydd ag awtistiaeth neu syndrom Down.
Mae Dr Catrin Elis Williams yn feddyg teulu ym Mangor ac mae gan ei mab Daniel, 23, awtistiaeth heb leferydd.
Mae meddygfa Catrin yn cynnig yr asesiad blynyddol i unigolion ag anableddau dysgu, ond dywedodd ei fod yn ddewisol i feddygfeydd eu cynnig.
'Dylai fod ar gael i bawb'
“Ar hyn o bryd mae o’n teimlo braidd fod o fel loteri cod post i bobl efo anableddau dysgu allu cael yr asesiadau blynyddol yma, sydd mor hollbwysig," meddai.
“Fy nheimlad i ydy y dyle fo fod ar gael i bawb, bod o’n rhywbeth y dylie pob meddygfa gynnig, a gobeithio bydd hynny’n rhywbeth fydd yn newid.
“Mae’n bwysig yn y grŵp yma o bobl bo’ ni’n chwilio am broblemau.
"Mae’n fodd o sgrinio - sgrinio cyffredinol - i wneud yn siŵr dydy pethau ddim yn cael eu methu.
"Mae’n anodd iddyn nhw gyfathrebu, mae’n anodd iddyn nhw wybod ydy’r broblem ella sydd ganddyn nhw’n beryg ai peidio.
“Os oes angen i rhywun efo anabledd dysgu fynd i’r ysbyty, mae’n gallu bod yn brofiad ofnadwy o anodd iddyn nhw - llawer mwy anodd na fasa fo i rywun arall.”
Mae Simon Rose o Anabledd Dysgu Cymru yn dweud bod angen codi ymwybyddiaeth am yr asesiadau.
“Does dim digon o bobl yn gwybod am y gwiriadau iechyd blynyddol, ond ma' nhw’n bwysig bo' pawb yn mynd i’w cael," meddai.
“Ma' rhai meddygon ddim yn gwybod sut i siarad ac ysgrifennu’n glir at bobl ag anableddau dysgu, felly mae’n bwysig i gyfathrebu yn glir gyda pawb fel bo' nhw’n deall."
Dau gynllun peilot
Yn ôl Llywodraeth Cymru mae dau gynllun peilot wedi bod yn edrych ar ffyrdd o oresgyn rhai o'r rhwystrau i gynnal yr apwyntiadau, sydd tua awr o hyd.
Dywedodd llefarydd eu bod wedi “ymrwymo i wella ansawdd y profion iechyd i bobl ag anableddau dysgu a chynyddu’r nifer sy’n manteisio arnyn nhw".
“Rydyn ni wedi darparu dros £1m i fyrddau iechyd dros dair blynedd at y diben yma."
Dywedodd hefyd bod y llywodraeth yn gobeithio y bydd y ddau gynllun yn “llywio dyfodol y gwasanaeth yma, gan archwilio’r defnydd o system ddigidol well”.