Y chwilio'n parhau am fachgen 17 oed yn y Fenai
- Cyhoeddwyd
Mae'r gwasanaethau brys yn dal i chwilio'r Fenai am fachgen 17 oed a aeth i'r dŵr ddydd Gwener.
Er gwaetha'r gwaith chwilio gan sawl asiantaeth dros y penwythnos, ni chafodd y bachgen ei ddarganfod.
Roedd yn gwisgo jîns a hwdi porffor, yn ôl Heddlu Gogledd Cymru.
Bydd dronau arbenigol yn parhau i chwilio amdano drwy gydol yr wythnos, meddai'r llu.
Fe fydd swyddogion arbenigol ac asiantaethau eraill yn cefnogi'r ymdrech pan fydd y llanw a’r tywydd yn caniatáu.
'Rhowch wybod i ni ar unwaith'
Dywedodd y Prif Arolygydd Stephen Pawson: “Mae fy meddyliau’n parhau gyda theulu’r bachgen ar yr amser anodd hwn.
“Mae ein swyddogion yn parhau i roi cymorth iddynt ac yn eu diweddaru’n rheolaidd ar ein hymchwiliad.
“Rydym yn diolch i’r gymuned am eu cefnogaeth barhaus ac yn parhau i annog aelodau’r cyhoedd i roi gwybod i ni ar unwaith os ydyn nhw'n gweld rhywbeth.
“Rwy’n deall bod aelodau’r gymuned yn awyddus i gynorthwyo gyda’r gwaith chwilio.
"Byddwn yn annog gwirfoddolwyr i ystyried peryglon yr arfordir ac amodau tywydd cyfnewidiol yn ofalus wrth wneud hynny, er mwyn sicrhau nad oes unrhyw un yn cael ei niweidio.”