Ateb y Galw: Jac Northfield

- Cyhoeddwyd
Mae o'n wyneb cyfarwydd ar Hansh bellach ond cyn hynny roedd yn actio rôl Iesu Grist ifanc ar y gyfres gomedi Dim Byd.
Yn fwy diweddar bu'n cyflwyno ar raglen Ifan Davies ar BBC Radio Cymru ac yn actio yn y ddrama Gwagle, wnaeth o hefyd ei gyd-sgwennu.
Ond heddiw mae Jac Northfield yn Ateb y Galw.
Beth yw eich atgof cyntaf?
Cael fy ngwthio yn y pram pan yn fabi ac yn edrych i fyny ar yr haul yn disgleirio trwy'r dail. O'n i yn eitha' rhamantus oed yna hyd yn oed!
Beth yw eich hoff le yng Nghymru a pham?
Dwi'n siŵr bod o'n rhywle ma' pawb sy'n dod o Gaernarfon yn ateb i'r cwestiwn yma: Caernarfon. Mae ganddon ni bob dim yna - y môr; ti'n gweld y mynyddoedd; pobl ddifyr a pybs da!
Beth yw'r noson orau i chi ei chael erioed?

Jac a Mari ar eu dêt cyntaf
Dêt cynta' fi a fy mhartner Mari yng Nghaerdydd. Noson 'da ni'n trio ailfyw bob tro 'da ni'n mynd allan ond ma coctêls mor ddrud rwan.
Disgrifiwch eich hun mewn tri gair.
Cogydd, Swnllyd, Gwirion.
Pa ddigwyddiad yn eich bywyd sydd o hyd yn gwneud i chi wenu neu chwerthin wrth feddwl 'nôl?
Mae 'na gymaint ohonyn nhw. Fy mrawd bach Twm yn cael ei eni pan o'n i yn 12 oed yn un, ond un mwy diweddar ydi cael y cyfle i sgwennu ac actio mewn peilot comedi o'r enw Gwagle hefo fy ffrind gora', Gwion Ifan sydd ar gael i'w weld ar BBC iPlayer ac YouTube. Shameless plug yn fana!

Gwion Ifan, Glain Llwyd, Jac a Gwenno Fôn ar set ffilmio Gwagle
Beth oedd y digwyddiad a gododd y mwyaf o gywilydd arnoch chi erioed?
Es i i brifysgol Caerdydd ac yn ystod wythnos y glas mae 'na rwbath o'r enw Crôl Teulu yn cymryd lle ac mae'r petha' ma'r freshers bach yn gorfod yfed a bwyta yn hollol afiach.
Pan o'n i yn y drydedd flwyddyn, nes i chwydu jysd yn gweld y freshers yn yfed concoction o lefrith, dŵr cocos a bwyd ci ymysg petha hyd yn oed mwy doji. Dwi'n enwog am fod hefo 'stumog chwerthinllyd o wan, ac mi on i yn chwydu yng ngardd gefn rhyw dŷ. Ma' jysd meddwl am y noson yna yn troi fy stumog i!
Pryd oedd y tro diwethaf i chi grio?
Pan nes i wylio'r ffilm Sophie's Choice yn ddiweddar. Does 'na ddim angen i fi fynd i unrhyw fanylion.
Oes gennych chi unrhyw arferion drwg?
Dwi'n fêpio (hwnna ydi'r term?!) ond yn trio rhoi'r gora' iddi.
Beth yw eich hoff lyfr, ffilm, albwm neu bodlediad a pham?
Yr albym Definitely Maybe gan y band 'ma o Fanceinion o'r enw Oasis. Ma' bob cân arni yn fy atgoffa o fy mlwyddyn gynta' yn coleg er ei bod wedi cael ei rhyddhau bron i 25 mlynedd cyn hynny. Ma hi'n albym timeless.
Byw neu farw, gyda phwy fyddech chi’n cael diod a pham?

Jim Bowen, y comediwr aeth yn ei flaen i gyflwyno Bullseye
Jim Bowen, cyflwynydd y gyfres deledu o'r 80au, Bullseye.
'Nath gwylio penodau o Bullseye helpu fi trwy'r cyfnod clo - dim am eu bod yn dda, ond am eu bod yn anhygoel o wael. Mor wael, mi oeddan nhw yn well nag unrhyw gyfres gomedi. Ond ers hynny, mae gen i soft spot am 'rhen Jim ac mae ganddo fo gefndir mor ddifyr.
Dywedwch rywbeth amdanoch chi eich hun nad oes yna lawer o bobl yn ei wybod.
Dwi'n poeni am bob dim. Pob. Dim.
Os fysa hi'n bosib ennill cyflog am boeni, fyswn i ar glawr blaen Forbes.
Ar eich diwrnod olaf ar y blaned, beth fyddech chi’n ei wneud?
Rhoi go ar yrru JCB. Fysa'r byd yn chwythu i fyny o fy nghwmpas a dyna lle fyswn i yn gwisgo hi-viz a hard hat yn diggio tyllau.
Pa lun sy’n bwysig i chi a pham?

Jac a Twm
Un ohono fi a fy mrawd bach Twm ar wylia'. Mae 'na 12 mlynedd rhyngthom ni, felly am hir iawn, mi o'n i yn unig blentyn. Rwan mae gen i partner in crime!
Petasech chi’n gallu bod yn rhywun arall am ddiwrnod, pwy fyddai ef/hi?
Sori, ond neb. Dwi'n hapus iawn hefo pwy ydw i.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Hefyd o ddiddordeb:
- Cyhoeddwyd6 o ddyddiau yn ôl
- Cyhoeddwyd13 Ionawr