Ateb y Galw: Katie Phillips

- Cyhoeddwyd
A hithau newydd fod yn dymor Merthyr Tudful ar BBC Cymru, un o drigolion ifanc y dref sy'n Ateb y Galw i ni yr wythnos yma.
Mae Katie Phillips yn siaradwr Cymraeg cenhedlaeth gyntaf o Ferthyr ac mae hi newydd gael ei phenodi'n Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Gwleidyddol gyda Chymdeithas yr Iaith.
Dewch i'w hadnabod hi'n well.
Beth yw eich atgof cyntaf?
Mae'n debyg mai o fy nhad yn dweud straeon amser gwely i mi. Bob nos roedd e'n creu straeon lan ac yn fy nghael i mewn ffitiau o chwerthin!

Katie yn ferch ifanc gyda'i thad
Beth yw eich hoff le yng Nghymru a pham?
Abertawe yn bendant! Symudais i yno ar gyfer y brifysgol a byw yno am bron i saith mlynedd. Does dim lle fel Abertawe. Mae'n dal llawer o atgofion anhygoel i mi a bydd e wastad yn teimlo fel cartref i mi.
Mae cymaint o draethau prydferth yna i ddewis ohonynt, ac er fy mod wedi gweld llawer o draethau ar fy nheithiau, gallaf ddweud yn onest ein bod ni yn ffodus i gael rhai o draethau harddaf y byd!

Un o draethau ardal Abertawe, lle sy'n agos at galon Katie
Beth yw'r noson orau i chi ei chael erioed?
Syllu ar y sêr ar Ynys K'gari pan oeddwn i'n teithio Awstralia ar ben fy hun.
Yn gorwedd ar y traeth gyda ffrindiau newydd yn gwylio'r sêr mwyaf anhygoel i mi erioed eu gweld yn fy mywyd, roeddwn i'n teimlo mor ffodus i fod yn fyw!

Y sêr i'w gweld yn glir o Ynys K'gari yn Awstralia
Disgrifiwch eich hun mewn tri gair.
Creadigol, prysur, chwareus.
Pa ddigwyddiad yn eich bywyd sydd o hyd yn gwneud i chi wenu neu chwerthin wrth feddwl 'nôl?
Dechreuad i bob trip solo dwi 'di bod ar. Does dim byd yn cymharu â'r teimlad o fod ar awyren yn llawn cyffro am y daith sydd o'm blaen.
Rydw i wedi cael cymaint o hwyl, twf personol a gwneud ffrindiau oes o deithio ar fy mhen fy hun!

I Katie, does dim byd yn cymharu gyda'r gwefr o deithio'r byd
Beth oedd y digwyddiad a gododd y mwyaf o gywilydd arnoch chi erioed?
Gallaf fod ychydig yn naïf ac yn lletchwith felly mae yna ddigon o adegau cywilyddus i mi...
Pan oeddwn i yn byw yn Bali, fe wnes i daro fy meic wrth seiclo ar lwybr prysur gyda thwristiaid a oedd yn stopio'n sydyn.
Fel arfer pan fydd pobl yn cael eu rhwymo yn Bali, mae hynny oherwydd eu bod nhw wedi bod mewn damwain beic modur, felly yn anffodus, roeddwn i'n edrych fel un o'r rheiny. Dwi ddim yn meddwl bod llawer wedi fy nghredu mai damwain seiclo oedd o!

Katie yn Bali, Indonesia
Pryd oedd y tro diwethaf i chi grio?
Wythnos diwethaf yn gwylio Doctor Who compilations ar TikTok… o'r 10fed Doctor, i fod yn benodol!
Oes gennych chi unrhyw arferion drwg?
Oes! Gormod! Gallaf fod yn eithaf byrbwyll a dweud ie wrth bob cyfle, sydd weithiau yn arwain fi at bethau anhygoel, ond ar adegau eraill mae'n arwain ataf i'n llosgi allan a balans banc sydd ddim mor iachus!

Mae Katie'n berson sy'n dueddol o ddweud 'ie' i bob cyfle
Beth yw eich hoff lyfr, ffilm, albwm neu bodlediad a pham?
One Day gan David Nicholls. Dw i wrth fy modd â rhamant sy'n llosgi'n araf, ac rwy'n hoffi sut mae'r llyfr hwn yn archwilio cymhlethdod perthnasoedd a datblygiad cymeriadau.
Mae diffygion ac amherffeithrwydd y cymeriadau yn gwneud iddyn nhw deimlo'n real ac y gallwch chi uniaethu â nhw.
Byw neu farw, gyda phwy fyddech chi’n cael diod a pham?
Fi'n 'neud i fy hunain edrych fel massive fan girl nawr ond byddai'n rhaid iddo fod yn David Tennant! Ni fyddai fy younger self byth yn maddau i mi pe bawn i'n dewis rhywun arall.

Hoffai Katie, sy'n ffan enfawr o Doctor Who, fynd am ddiod gyda'r actor David Tennant
Dywedwch rywbeth amdanoch chi eich hun nad oes yna lawer o bobl yn ei wybod.
Es i i Ysgol DJ fel rhan o Gymdeithas DJ Prifysgol Abertawe pan oeddwn i'n gwneud fy ngradd meistr. Felly nawr dwi'n certified bedroom DJ…

Katie ar y decs
Ar eich diwrnod olaf ar y blaned, beth fyddech chi’n ei wneud?
Byddwn i'n treulio'r diwrnod yn ymlacio ar draeth trofannol ac yn nofio yn y môr. Rwy'n hapusaf pan fydda i'n teimlo'r haul ar fy nghroen ac yn nofio yn y môr.

Un o draethau hardd ynys Komodo yn Indonesia
Pa lun sy’n bwysig i chi a pham?
Llun o fi ar ôl gorffen cwrs 200 awr hyfforddiant athrawon ioga yn Bali a derbyn fy nhystysgrif. Roedd yn ychydig o wythnosau heriol ond gwobrwyol ac roeddwn i mor falch ohonof fy hun!

Katie'n derbyn ei thystysgrif ar ôl cwblhau cwrs ioga yn Bali
Petasech chi’n gallu bod yn rhywun arall am ddiwrnod, pwy fyddai ef/hi?
Florence Pugh - eicon!
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol, neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Hefyd o ddiddordeb:
- Cyhoeddwyd13 Ionawr
- Cyhoeddwyd9 Mehefin
- Cyhoeddwyd19 Mai