Meddygon teulu yn derbyn cynnig tâl 'sylweddol well'

Mae'r cynnig diweddaraf yn well o lawer na'r un gafodd ei gynnig ym mis Rhagfyr, yn ôl BMA Cymru
- Cyhoeddwyd
Mae'r corff sy'n cynrychioli meddygon teulu yng Nghymru'n dweud eu bod wedi derbyn cynnig codiad cyflog diweddaraf Llywodraeth Cymru.
Fe bleidleisiodd aelodau BMA Cymru yn erbyn derbyn y cynnig gwreiddiol ym mis Rhagfyr, ond mae cynnig "sylweddol well" yn dod â'r codiad i'r un lefel â'r 6% sy'n cael ei argymell gan gorff adolygu tâl meddygon a deintyddion.
Mae'r llywodraeth am roi swm untro o £23m yn ychwanegol ar gyfer setliad eleni, sy'n dod â'r cyfanswm ar gyfer 2024/25 i £52.1m.
Fe fydd hynny, meddai'r BMA, "yn helpu meddygon teulu i ddarparu gwasanaethau hanfodol i'w cymunedau, gan roi mwy o sefydlogrwydd i feddygfeydd, cleifion a staff".
Dywedodd yr Ysgrifennydd Iechyd Jeremy Miles ei fod yn "falch o gyhoeddi y byddwn yn buddsoddi £52.1m ym maes meddygaeth deulu eleni".
Problemau i barhau, er y setliad
Mae'r cynnig, yn ôl datganiad BMA Cymru, yn "sicrhau tâl teg" i holl aelodau staff meddygfeydd, gan gynnwys y partneriaid a'r meddygon teulu cyflogedig, mewn cyfnod o "amgylchiadau heriol".
Ond gan groesawu cynnig diweddaraf y llywodraeth, fe rybuddiodd cadeirydd eu pwyllgor meddygon Cymreig, Dr Gareth Oelmann, na fydd y setliad "yn datrys pob problem".
Mae disgwyl "costau amhosib eu hosgoi" ar ddechrau'r flwyddyn ariannol newydd, meddai, ond mae cytundeb eleni yn "sylfaen gadarn" ar gyfer y trafodaethau ynghylch setliad 2025/26.