Galw am gefnogi sefydliadau Cymreig bro'r Eisteddfod

Y cynghorydd Marc Jones oedd un o sylfaenwyr Saith Seren
- Cyhoeddwyd
Mae yna alw ar bobl sydd yn mynychu'r Brifwyl yn Wrecsam eleni i gefnogi sefydliadau Cymreig y ddinas er mwyn eu gwarchod at y dyfodol.
Cafodd tafarn Saith Seren ei sefydlu yn dilyn yr Eisteddfod ddiwethaf yn Wrecsam nôl yn 2011.
Ond yn ôl Marc Jones, aelod o fwrdd tafarn a chanolfan gymunedol Saith Seren, "dydi o ddim wedi bod yn hawdd o gwbl" i gynnal y lleoliad ers hynny.
Bydd yr Eisteddfod eleni yn ardal Is-y-coed yn y ddinas ar dir amaethyddol ger yr ystâd ddiwydiannol.

Mae tafarn a chanolfan gymunedol Saith Seren yn ganolbwynt i'r Gymraeg yn ninas Wrecsam
Dywedodd Marc Jones, un o sylfaenwyr Saith Seren, eu bod "just about yn llwyddo".
"Un o'r pethau 'da ni'n gofyn amdano yn y Steddfod yma, ydi os ydi pobl yn meddwl bod nhw isio i Saith Seren barhau, bod nhw'n gwneud cyfraniad... mae hwnna'n cadw ni i fynd a bod yn onest.
"'Da ni 10 milltir o'r ffin yn fa'ma, 'da ni yn ganol dref, mae 'na lot o lefydd eraill i fynd i yfed a chymdeithasu, felly mae'n struggle, mae'n dipyn o gamp bo ni yma o hyd.
"Ond 'da ni isio bod yma tan mae'r Steddfod nesa yn dod i Wrecsam."
Er yr heriau, mae Mr Jones o'r farn bod sefydliadau fel Saith Seren yn hollbwysig.
"'Dwi'n meddwl fod o wedi profi ei hun dros yr 14 o flynyddoedd ers i ni gael yr Eisteddfod ac ers i ni sefydlu, ac mae wedi profi fel canolbwynt i bobl sydd eisiau cymdeithasu yn y Gymraeg."

Mae arwyddion wedi eu gosod o amgylch y ddinas ar drothwy yr Eisteddfod eleni
Ychwanegodd: "Beth sydd yn fy nharo, bob man 'dw i'n mynd, mi wna i ffendio Gymry Cymraeg ond yn aml iawn mae nhw'n gudd.
"Gobeithio bod yr Eisteddfod yn mynd i ddod â nhw allan a bod nhw'n teimlo bod nhw'n gallu gwneud mwy neu falla bod nhw efo Cymraeg rhydlyd, wedi bod drwy'r system addysg a ddim wedi ddefnyddio fo, a bod hwn yn rhoi hwb iddyn nhw.
"Neu bod nhw'n ddysgwyr a bod hyn yn rhoi hwb iddyn nhw i weld sut fath o gyfoeth a diwylliant sydd gennym ni yn yr Eisteddfod.
"'Dw i wirioneddol yn gobeithio neith pobl dreulio ychydig bach o amser unai gyda'r nos neu yn ystod y dydd [yn y ddinas], mi fydd 'na groeso iddyn nhw yma. Gewch chi groeso go iawn yn Wrecsam.
'Gwych ar gyfer y gymuned'
Fel rhan o'r gwaith trefnu, mae nifer o grwpiau wedi cael eu sefydlu i groesawu'r Eisteddfod i'r ardal.
Mae Sheila Birkhead yn rhan o prosiect harddu'r ardal, gyda'r grŵp yn dod at ei gilydd i wau blodau.
"Nes i weld ar y cyfryngau cymdeithasol bod nhw am wau a 'dw i'n gallu gwau, felly nes i feddwl 'dyna be wnai'. Es i i'r siop i gael y patrwm ac wedyn mynd adra a dechrau ar y gwaith.
"Dwi mor falch o weld [yr arddangosfa], dwi'n meddwl fod o'n edrych mor hardd... dwi reit prowd bod mwy nag un o'r blodau dwi wedi gwau yn fan'ma.
"'Da ni'n falch ofnadwy bod yr Eisteddfod yn dod yma, mae wedi bod yn beth gwych ar gyfer y gymuned yma, wedi dod â ni gyd at ein gilydd, 'da ni wedi neud llwyth o ffrindiau newydd."

Mae criw o bobl wedi bod yn gwau blodau fel rhan o'r paratoadau ar gyfer yr Eisteddfod eleni
Carys Williams yw un o'r rhai sydd wedi bod yn rhedeg y prosiect yn Tŷ Pawb, Wrecsam.
"Natho ni gael syniad i gael pawb at ei gilydd i greu prosiect cymunedol yn defnyddio darnau bach o ddefnydd oedd ganddyn nhw ar ôl," meddai.
"'Da ni wedi bod yn sôn am y Goron a'r Gadair hefyd, yn Tŷ Pawb ei hun mae 'na gymaint o bobl rŵan sy'n gyffrous at yr Eisteddfod.
"Mi fydd yr arddangosfa fyny drwy gydol yr Eisteddfod ac wedyn mi fydd yn cael ei ail ddefnyddio mewn dathliadau eraill dros y flwyddyn."
Dywedodd Ms Williams fod y ymweliad yr Eisteddfod wedi creu prosiectau newydd, a'r gobaith ydi y bydd rheiny yn parhau yn y dyfodol.
"Mae wedi bod yn hyfryd cael pawb at ei gilydd i greu un prosiect... drwy ddod fyny efo'r syniad yma bod angen i bawb ddod at ei gilydd i ddathlu a gallu creu cysylltiadau newydd hefyd, i wneud prosiectau fel hyn yn y dyfodol lly.
Heb os, mae'r clwb pêl-droed yn Wrecsam wedi cael sylw cynyddol yn y blynyddoedd diwethaf.
Mae Huw Birkhead sy'n diwtor Cymraeg yn y clwb, swydd sy'n cael ei hariannu gan y ganolfan genedlaethol dysgu Cymraeg, yn gyffrous am gael cydweithio gyda'r Brifwyl.
"Mae'r hanes, iaith a diwylliant yn bwysig i'r perchnogion newydd, ac yn rhywbeth mae'r clwb a'r perchnogion wir wedi dangos ymroddiad tuag ato.
"Maen nhw'n gweld y pwysigrwydd i'r staff gael y cyfle i ddysgu yr iaith os mae nhw isio, ond hefyd yn help i ddefnyddio'r iaith o amgylch y lle, i ddangos sut mae'n rhywbeth unigryw i ni fel clwb yma."

Mae Huw Birkhead (dde) yn diwtor Cymraeg yng nghlwb pêl-droed Wrecsam
Ychwanegodd: "Dwi'n teimlo bod lot o bobl yn Wrecsam sy'n siarad Cymraeg ac yn falch o'r iaith... dwi'n teimlo dros y 10 mlynedd diwethaf neu fwy mae 'na atgyfodiad wedi bod gyda'r iaith Gymraeg, lot o deuluoedd di-Gymraeg yn anfon eu plant i ysgolion cynradd iaith Gymraeg ac yn falch bod yr iaith gennym yma yn Wrecsam.
"Mae'n gyfle i ni ddathlu gyda'r Eisteddfod yn dod i Wrecsam, a dwi'n siŵr bydd lot o gynnwrf o amgylch y ddinas a phawb yn mwynhau, a gallu dathlu a mwynhau yr iaith a diwylliant Cymru.
"Bydd y clwb yno, bydd pobl yn gallu mynd i brynu crys bydd 'na sesiynau pêl-droed yn mynd ymlaen."
Ond a fydd y perchnogion o Holywood yn mynychu maes yr Eisteddfod eleni?
Dywedodd Mr Birhead: "'Da ni byth yn gwybod be maen nhw'n neud i ddeud y gwir ella fyddan nhw'n troi fyny, dwi ddim yn siŵr. Faswn i'n hoffi dweud, ond nawn ni weld.
'Anoddach i godi arian'
Yn ôl Llinos Roberts, cadeirydd pwyllgor gwaith y Brifwyl eleni, mae 'na gyffro amlwg yn yr ardal.
Dywedodd: "'Da ni wedi bod yn gweithio tuag at yr Eisteddfod yma am ryw ddeunaw mis bellach a mor falch bo ni bron â chyrraedd yna.
"Mae gennym ni dîm arbennig iawn yma yn Wrecsam a'r ardal gyfagos, y pentrefi a'r trefi cyfagos.
"Mae 'na griw mawr ohonom ni wedi bod yn cydweithio, llawer o fwrlwm a chodi ymwybyddiaeth o'r iaith a'r diwylliant a chodi arian hefyd."

"Mae'r byd yn lle gwahanol iawn i beth oedd o pan oedd yr Eisteddfod yma ddiwethaf" - Llinos Roberts
Er fod poblogaeth di-Gymraeg uchel yn Wrecsam, dywedodd Ms Roberts fod twf wedi bod yn y blynyddoedd diwethaf.
"Dwi'n meddwl bod o'n her mewn unrhyw ardal fel hon, 'da ni ar y ffin efo Lloegr fan hyn, ond dwi'n teimlo bod pobl yr ardal hon yn arddel eu hun yn Gymry.
"Oes mae 'na griw bach yn siarad Cymraeg yn yr ardal, ond mae hynny ar ei fyny hefyd, mae 'na fwy o ysgolion Cymraeg yn yr ardal nag oedd 'na pan oedd yr Eisteddfod yma ddiwethaf, ac mae 'na lawer iawn mwy yn dysgu'r iaith hefyd."
Gyda tharged o £400,000 wedi'i osod eleni, dywedodd Ms Roberts fod casglu arian yn anoddach erbyn hyn.
"Mae 'na lot o bethau wedi digwydd, mae'r byd yn lle gwahanol iawn i beth oedd o pan oedd yr Eisteddfod yma ddiwethaf... Mae o yn anoddach i godi arian yn y byd sydd ohoni ar hyn o bryd.
"'Da ni heb gyrraedd y targed eto, 'da ni dal i barhau i anelu i gyrraedd y targed yna, mae 'na dal weithgareddau yn digwydd... mae 'na gynlluniau ar gyfer wythnos nesaf, felly 'da ni dal i fynd."

Betsan Moses yn Eisteddfod Genedlaethol Rhondda Cynon Taf y llynedd
Dywedodd Betsan Moses, Prif Weithredwr yr Eisteddfod Genedlaethol, ar Dros Frecwast fod y pwyllgor gwaith wedi gwneud gwaith "arwrol" yn codi ymwybyddiaeth o'r digwyddiad.
"Dyna beth sy'n bwysig mewn gwirionedd pan ry' ni'n mynd i ardal – y gwahaniaeth o bobl yn clywed y Gymraeg, yn gallu defnyddio'r Gymraeg sy' 'da nhw ac yn gallu dysgu mwy am yr iaith a'r diwylliant," meddai Ms Moses.
"O ran bod wrth y ffin, wrth gwrs mi oedd 'na ddyhead mawr i ddod â'r Eisteddfod 'nôl, fel bo' ni'n gallu rhoi chwistrelliad arall o ymwybyddiaeth."
Ychwanegodd fod y Maes eleni yn edrych yn "odidog" ac y bydd hi'n "hwylus iawn i bawb fynd a dod" yno.
Bydd yr Eisteddfod yn cael ei chynnal ar gyrion y ddinas o 2-9 Awst.