Llosgi pont gerdded boblogaidd i gostio miloedd i'r cyngor

Y bompren rhwng Lôn Cob Bach a Phont SolomonFfynhonnell y llun, Cyngor Gwynedd
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd rhan sylweddol o bompren rhwng Lôn Cob Bach a Phont Solomon ym Mhwllheli ei llosgi

  • Cyhoeddwyd

Mae cymuned yng Ngwynedd yn "siomedig ofnadwy" ar ôl i bont gerdded boblogaidd gau yn dilyn amheuon am losgi bwriadol.

Cafodd rhan sylweddol o'r llwybr pren rhwng Lôn Cob Bach a Phont Solomon ym Mhwllheli ei llosgi nos Fercher, 23 Hydref.

Oherwydd y pryder am ddiogelwch y strwythur mae’r cyngor wedi cau'r llwybr dros dro.

Roedd gwaith atgyweirio wedi'i gwblhau ar y bont yn ddiweddar, ond mae Heddlu'r Gogledd yn amcangyfrif bod cost y difrod rhwng £5,000 a £10,000.

Mae'r heddlu'n apelio am unrhyw un a oedd yn yr ardal rhwng 20:00 a 22:00 i gysylltu â nhw.

'Pobl wedi gwylltio'

Dywedodd y cynghorydd lleol Hefin Underwood fod dicter yn y gymuned ar ôl i'r bont losgi.

"Mae'r gymuned yn siomedig ofnadwy, yn fwy na hynna - mae lot wedi gwylltio i ddweud y gwir," meddai wrth Cymru Fyw.

"Mae'r bont yn boblogaidd dros ben. Ti'n gallu torri ar draws lle mae natur, lle mae hwyaid ac adar, ac mae pobl yn licio mynd â'u plant bach yna i weld y pethau 'ma yn lle fod nhw'n cerdded lawr lôn tarmac.

"Heb ddim amheuaeth, fyswn i'n d'eud fod o hefyd yn atyniad da i'r dre. Mae'n cael ei ddefnyddio gan bobl yn ddyddiol, gan lot o rieni a'i plant ac fel shortcut braf trwy'r dref.

"Mi fysa unrhyw gymuned yn siomedig dros ben i golli rhywbeth fel hyn."

Ffynhonnell y llun, Cyngor Gwynedd
Disgrifiad o’r llun,

“Yn dilyn gwaith atgyweirio diweddar, mae yna ddefnydd da wedi ei weld ohoni," meddai Gerwyn Jones, Pennaeth Cynorthwyol Adran Amgylchedd Cyngor Gwynedd

Ychwanegodd y cynghorydd fod "dim amheuaeth mai fandaliaeth oedd o".

"I be fysa rhywun isio gwneud ffasiwn beth, fedra'i ddim deall.

"Maen nhw'n lwcus wnaethon nhw ddim llosgi eu hunain hefyd, oedd hi'n wenfflam go iawn ac mae'n edrych i fi bod petrol neu rywbeth wedi'i ddefnyddio gan ei fod yn noson reit wlyb.

"Mae pres mor brin gan y cynghorau 'ma 'wan. Neith o gostio miloedd i'r bont gael ei hailwneud - lle ma'r cyngor am gael hynna?"

'Loes calon gweld y difrod'

Dywedodd Gerwyn Jones, Pennaeth Cynorthwyol Adran Amgylchedd Cyngor Gwynedd: “Mae’r bont droed yma ym Mhwllheli yn hynod boblogaidd gyda thrigolion lleol ac yn cynnig cyfle i fwynhau amgylchedd a byd natur tafliad carreg o ganol y dref.

“Er fod yna fandaliaeth wedi ei brofi i’r bont dros y blynyddoedd, yn dilyn gwaith atgyweirio diweddar, mae yna ddefnydd da wedi ei weld ohoni.

“Mae’n bryderus iawn felly fod y strwythur wedi gorfod ei gau dros-dro ar ôl y tân yma, ac mae’n loes calon gweld y difrod sydd wedi ei achosi.

“Yn ogystal â’r anhwylustod fod rhaid cau y bont dros dro, mi fydd yna gostau sylweddol i’r Cyngor er mwyn gallu atgyweirio’r strwythur – mewn cyfnod lle mae cyllid yn brin, mae hyn yn gost di-angen.

“Mae’n siomedig bod ymddygiad lleiafrif bach iawn yn difetha mwynhad pobl o’r bompren.

"Rydym yn erfyn ar y rhai sy’n gyfrifol i barchu eiddo cyhoeddus ac i feddwl am effaith eu hymddygiad ar y gymuned leol, ac i unrhyw un sydd â gwybodaeth am y mater i gysylltu gyda Heddlu Gogledd Cymru.”