Cymro 'wedi rhybuddio Palas Buckingham am Al Fayed'
- Cyhoeddwyd
Mae cyn-bennaeth uned gwarchod y teulu brenhinol gyda Heddlu'r Met yn dweud iddo rybuddio'r palas am y gŵr busnes Mohamed Al Fayed yn y 1990au.
Ers iddo farw'r llynedd, mae dros 200 o ferched wedi cyhuddo cyn-berchennog siop Harrods o dreisio neu ymosod yn rhywiol.
Yn ôl Dai Davies, fu'n gyfrifol am warchod aelodau'r teulu brenhinol rhwng 1994 a 1998, roedd yn ymwybodol fod gan Al Fayed "enw drwg".
Dywed ei fod wedi rhybuddio swyddogion y teulu brenhinol ei fod yn destun ymchwiliad gan yr heddlu ar fater arall.
Wrth siarad â Newyddion S4C, dywedodd Mr Davies fod ganddo bryderon am yr ymchwiliad gwreiddiol i honiadau o gam-drin rhywiol a wnaed yn erbyn Al Fayed, a phenderfyniad Gwasanaeth Erlyn y Goron i beidio â'i erlyn.
Dywedodd llefarydd ar ran Heddlu'r Met fod "pob honiad" wedi bod yn destun ymchwiliad ond "nad oedd modd cyflwyno cyhuddiadau".
Fe wnaeth Mr Davies gwrdd ag Al Fayed ar un achlysur yn Harrods, gan ei ddisgrifio fel dyn "sleezy" ac "arrogant".
"Y sïon fel oeddwn i’n deall oedd bod o'n licio merched ifanc oedd yn gweithio yn Harrods, a bod o wedi twtshiad nhw inappropriately," meddai.
Yn ôl Dai Davies mi wnaeth o gysylltu gyda swyddogion y teulu brenhinol i godi pryderon wedi i uned troseddau difrifol y Met ymchwilio i Mohamed Al Fayed am dorri mewn i flwch cudd gŵr busnes arall - Tiny Rowland - oedd yn cael ei gadw yn Harrods.
Fe arweiniodd yr honiadau hyn at Al Fayed ac eraill yn cael eu harestio ym mis Mawrth 1998, ond ni chafodd ei gyhuddo.
'Y frenhines yn ymwybodol'
Ym 1997 fe aeth y Dywysoges Diana ar wyliau gydag Al Fayed i St Tropez, gan fynd â’r tywysogion William a Harry gyda hi.
"Roedd gen i bryderon bod o [Al Fayed] yn destun ymchwiliad a bod hi [Tywysoges Diana] yn mynd â'r bechgyn ar wylia' gyda dyn oedd yn ddrwg," dywedodd Dai Davies.
Wrth godi pryderon, dywedodd Mr Davies i un o swyddogion y Palas ddod nôl ato gan ddweud fod y "frenhines yn ymwybodol".
Dywedodd iddo beidio codi pryderon penodol am yr honiadau o gamymddwyn rhywiol ar y pryd gan nad oedd ganddo unrhyw dystiolaeth, ac nad oedd merched wedi gwneud honiadau'n gyhoeddus eto.
Dywedodd Palas Buckingham na fyddan nhw'n ymateb i'r sylwadau hyn.
Fe wnaeth Gwasanaeth Erlyn y Goron ystyried ddwywaith erlyn Al Fayed, ond gan ddod i'r casgliad nad oedd digon o dystiolaeth.
Yn ôl Mr Davies mae angen codi cwestiynau am yr hyn ddigwyddodd, gan ddweud y gallai hynny ddigwydd ar ffurf ymchwiliad cyhoeddus.
"Dwi ddim yn deall pam 'naeth y CPS ddim chargio fo," meddai.
"Dwi isio gofyn pwy oedd yn gyfrifol, pwy 'naeth weld tystiolaeth y merched a pham nad oedd 'na ddigon o evidence i proceedio.
"Mae 'na gwestiynau mawr i'r CPS achos dwi'n clywed yn rhy aml yn fy marn i, 'there's not enough evidence'.
"Dwi eisiau gweld y merched yn cael justice. 'Di o ddim ots pa ffordd ac os [ymchwiliad cyhoeddus] ma'n cymryd i hynny ddigwydd...”
'Pob honiad yn destun ymchwiliad'
Dywedodd Heddlu'r Met eu bod yn ymwybodol o nifer o honiadau a wnaed dros y blynyddoedd yn erbyn Mohamed Al Fayed.
"Roedd pob un o'r honiadau hyn yn destun ymchwiliad a phan yn addas cawsom gyngor gan Wasanaeth Erlyn y Goron," meddai llefarydd.
"Ni chafodd unrhyw gyhuddiadau eu cyflwyno wedi'r ymchwiliadau hyn.
"Fel gydag unrhyw ymchwiliad, os daw rhagor o dystiolaeth i'r fei mi fyddwn yn asesu ac yn ymchwilio os oes angen."
Dywedodd y Met eu bod yn annog unrhyw un sy'n honni i Al Fayed eu cam-drin i gysylltu â swyddogion.
'Dim digon i sicrhau erlyniad'
Wrth ymateb dywedodd Gwasanaeth Erlyn y Goron fod nifer y merched sy'n gwneud mwy o honiadau yn “bryderus iawn”.
“Fe ddaeth erlynwyr i gasgliad nôl yn 2008 a 2015 ar ôl edrych ar yr holl dystiolaeth nad oedd digon i sicrhau erlyniad a ni chafodd unrhyw gyhuddiadau eu cyflwyno," meddai llefarydd.
“Rydym yn gweithio er mwyn creu darlun cyflawn o’r holl honiadau ac rydym eisiau sicrhau’r cyhoedd ein bod am weld cyfiawnder yn y nifer uchaf posib o achosion o gam-drin rhywiol a thrais."