Sarah Lianne Lewis yn ennill Medal y Cyfansoddwr yn Eisteddfod Wrecsam

Sarah Lianne Lewis yw enillydd Medal y Cyfansoddwr Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam
- Cyhoeddwyd
Mae Sarah Lianne Lewis wedi ennill Medal y Cyfansoddwr yn Eisteddfod Wrecsam.
Mewn seremoni arbennig nos Sadwrn, cododd y pafiliwn ar eu traed i gymeradwyo'r cyfansoddwr buddugol am ei darn 'Cysgodion Bywiog'.
I gydnabod canmlwyddiant ers geni Islwyn Ffowc Elis, un o feibion amlycaf ardal Wrecsam, thema Medal y Cyfansoddwr eleni oedd Cymru Fydd.
Dywedodd un o'r beirniaid, Richard Baker, bod darn Sarah yn "theatrig iawn gyda naratif cryf, ac mae'r ddeialog yn eglur iawn rhwng y deunydd sydd yn cynrychioli'r galar, a'r deunydd sydd yn cynrychioli'r gobaith."
- Cyhoeddwyd10 awr yn ôl
- Cyhoeddwyd1 diwrnod yn ôl
- Cyhoeddwyd15 awr yn ôl
Mae Medal y Cyfansoddwr eleni yn cael ei gyflwyno i'r cyfansoddwr mwyaf addawol ar gyfer cyfansoddiad i ensemble siambr gan ddefnyddio delweddau o Rondda Cynon Taf fel ysbrydoliaeth.
Roedd trefnwyr yr Eisteddfod am i artistiaid gyflwyno syniadau ar sut y gallent ymateb drwy gerddoriaeth i nofel ffuglen-wyddonol epig Islwyn Ffowc Elis: 'Wythnos yng Nghymru Fydd'.
Roedd Sarah Lianne Lewis yn un o dri chyfansoddwr oedd wedi gweithio gyda cherddorion proffesiynol ar gyfer perfformiad cyntaf o'i ddarn buddugol. Y ddau arall oedd Jonathan Guy ac Owain Gruffydd Roberts.
Cafodd darnau'r tri chyfansoddwr eu perfformio yn y Pafiliwn gan Simmy Singh (ffidl), David Shaw (ffidl/fiola) a Garwyn Linnell (sielo).
Y beirniad oedd Richard Baker, Lleuwen Steffan a Graeme Park.
'Anodd iawn i ddod i benderfyniad'
Dywedodd Richard Baker nad oedd penderfyniad y beirniad yn hawdd a bod y tri chyfansoddwr wedi gwneud gwaith arbennig.
Yn ei feirniadaeth dywedodd: "Yn unol â neges y nofel, mae pob cyfansoddwr yn edrych i'r dyfodol gyda gobaith. Ond hefyd: yn gyson ceir yma rhyw ymdeimlad o bryder sydd yn gwasgu ar y gobaith hwn.
"Yr her oedd gallu cyfleu'r cysyniad yma trwy gyfrwng cerddoriaeth offerynnol, a dylid canmol y tri ohonyn nhw am eu huchelgais.
"Roedd yn anodd iawn i ddod i benderfyniad. Doeddwn i ddim yn gyfan gwbl gytûn a dweud y gwir. Yn y diwedd, mater o chwaeth bersonol oedd yn ein harwain."
Pwy yw'r enillydd?
Yn wreiddiol o Geredigion, astudiodd Sarah Lianne Lewis ym Mhrifysgol Caerdydd gan ennill gradd BA (Anrh) mewn Cerddoriaeth a Hanes ac MA mewn Cyfansoddi.
Ers hynny mae ei cherddoriaeth wedi'i pherfformio yn Ewrop, Canada ac Awstralia, wedi'i darlledu ar sawl gorsaf radio yn y DU ac Ewrop, ac wedi'i chynnwys mewn nifer o wyliau dramor.
Fel cyfansoddwraig ac unawdydd, mae'n cynnal gweithdai mewn ysgolion, gan ganolbwyntio ar feithrin creadigrwydd a chyfansoddi yn yr ystafell ddosbarth, yn ogystal â chynnal dosbarthiadau meistr lleisiol i gerddorion amatur.
Yn ogystal â'r fedal derbyniodd Sarah wobr ariannol o £750.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.