Plaid Cymru yn colli hen sedd Llinos Medi AS ar Gyngor Môn

Kenneth Pritchard HughesFfynhonnell y llun, Cyngor Sir Ynys Môn
Disgrifiad o’r llun,

Yr aelod annibynnol, Kenneth Pritchard Hughes gafodd ei ethol i gynrychioli ward Talybolion

  • Cyhoeddwyd

Mae Plaid Cymru wedi colli cyn-sedd yr Aelod Seneddol Llinos Medi ar Gyngor Môn.

Cafodd yr aelod annibynnol, Kenneth Pritchard Hughes ei ethol ddydd Iau i gynrychioli ward Talybolion.

Cafodd is-etholiad ei gynnal wedi i'r cynghorydd blaenorol, Llinos Medi gael ei hethol yn AS newydd Ynys Môn yn yr etholiad cyffredinol ym mis Gorffennaf.

Yn dilyn hynny, gadawodd ei rôl fel cynghorydd ac arweinydd Cyngor Ynys Môn.

Disgrifiad o’r llun,

Gadawodd Llinos Medi ei rôl gyda Chyngor Môn wedi iddi gael ei hethol yn Aelod Seneddol ym mis Gorffennaf

Fe enillodd y Cynghorydd Pritchard Hughes - sydd eisoes wedi cynrychioli'r awdurdod lleol yn y gorffennol - yr is-etholiad, gyda 678 o bleidleisiau.

Ymgeisydd Plaid Cymru, Dafydd Arthur Williams ddaeth yn ail, gyda 518 o bleidleisiau.

Mae ward Talybolion yn cynrychioli gogledd orllewin Ynys Môn, sy'n cynnwys pentrefi Llannerchymedd, Rhosgoch, Llanddeusant a Llanfaethlu.