Plaid Cymru yn ail-greu llun 1992
- Cyhoeddwyd
Ddydd Llun wedi'r etholiad cyffredinol ac mae Aelodau Seneddol o bob plaid ar eu ffordd i Lundain, rhai am y tro cyntaf fel aelodau etholedig.
Nôl yn 1992 roedd Plaid Cymru wedi torri tir newydd - dyma'r flwyddyn gyntaf i'r Blaid ennill pedair sedd yn San Steffan.
Roedd Cynog Dafis yn ymuno gydag Ieuan Wyn Jones, Elfyn Llwyd a Dafydd Wigley yn San Steffan fel Aelod Seneddol newydd dros Geredigion a Gogledd Penfro, fel yr oedd yr etholaeth yn cael ei galw ar y pryd.
Un oedd yno gyda'i gamera'r diwrnod hwnnw ym mis Mai 1992 oedd y ffotograffydd Arwyn 'Herald' Roberts.
Mae'r llun enwog o'r pedwar aelod yn dal eu breichiau yn uchel yn dilyn eu buddugoliaeth wedi cael ei ail-greu yn Llundain tu allan i Balas Westminster.
Ond yn wahanol iawn y tro hwn, am y tro cyntaf yn hanes y Blaid bydd tair menyw yn dal eu breichiau yn uchel.
Yn ymuno gyda Ben Lake a Liz Saville-Roberts yn San Steffan bydd yr Aelod Seneddol newydd dros Ynys Môn, Llinos Medi ac AS newydd Caerfyrddin, Ann Davies, a fydd yn croesi trothwy San Steffan am y tro cyntaf.
Un sy'n gyfarwydd iawn â'r daith i Lundain yw Liz Saville-Roberts, a gafodd ei hail-ethol gyda mwyafrif cyfforddus yn etholaeth Dwyfor Meirionydd.
Mae hi'n Aelod Seneddol ers 2015. Hi oedd y fenyw gyntaf i gynrychioli'r Blaid yn San Steffan, a daeth yn Aelod Seneddol yn dilyn ymddeoliad Elfyn Llwyd, sydd yn un o'r pedwar yn y llun gwreiddiol o 1992.
Wrth iddi deithio ar drên i lawr i Lundain, dywedodd wrth BBC Cymru Fyw: "Dwi'n falch iawn y bydd yna bedwar Aelod Seneddol a bod cynrychiolaeth Cymru i fyny.
"Nôl yn 2015 fi oedd y ferch gyntaf i gael ei hethol ar ran y Blaid i San Steffan, ac mae gweld Llinos ac Ann yn ymuno gyda fi a Ben Lake yn wych.
"Mae gan Ann brofiad gwleidyddol ar ôl bod ar gabinet Cyngor Sir Gar a Llinos wedyn wedi bod yn arweinydd Cyngor Môn am flynyddoedd.
"Mae'r ddwy yn dod â phrofiad cyfoethog i San Steffan."
Mae Llinos Medi ychydig llai cyfarwydd gyda'r daith i Lundain.
Yn arweinydd Cyngor Môn ers saith mlynedd, roedd 'na deimlad "chwerwfelys" ei bod hi'n gorfod camu i ffwrdd o'r swydd yr oedd hi wir wrth ei bodd yn ei chyflawni, meddai.
"Mae'n brofiad rhyfedd bod ar y trên yma bore 'ma, doeddwn heb baratoi fy hun i ennill yr etholiad o gwbl," meddai.
"Mae'r ffaith fod 'na dair merch rŵan yn Aelodau Seneddol yn dangos sut mae'r Blaid wedi bod yn meithrin merched ers blynyddoedd.
"Maen nhw mor gefnogol, yn enwedig i mi fel mam sengl sy'n dod yn Aelod Seneddol am y tro cyntaf."
Wrth drafod y profiad o fod yn fam sengl ac Aelod Seneddol ar y cyd, roedd Llinos yn pwysleisio ei bod wedi cael sgwrs o ddifri gyda'i theulu cyn iddi benderfynu sefyll yn yr etholiad.
"Roedd o'n benderfyniad mawr, 'naethon ni sgwrsio am amser hir fel teulu, ac roedd pawb mor gefnogol, felly dwi'n ddiolchgar iawn iddyn nhw," meddai.
Mae cael ail-greu llun mor eiconig yn Llundain yn brofiad balch iawn i arweinydd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth.
Roedd yntau hefyd ar y trên i lawr i Lundain, ac roedd yn disgrifio ei falchder yn dilyn canlyniadau'r Blaid yn yr etholiad.
"Dwi wrth fy modd fod gennym ni dîm mor gryf yn San Steffan.
"Dwi'n teimlo balchder mawr fel arweinydd Plaid Cymru ac y bydd y dair, Liz, Llinos ac Ann gyda Ben yn San Steffan yn lleisiau cryf dros Gymru."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd5 Gorffennaf
- Cyhoeddwyd5 Gorffennaf