Cwestiynau am ymddangosiad afanc gwyllt yn un o afonydd Cymru

Yr afanc gwyllt gafodd ei ddarganfod yn Afon Dyfi gan gamerâu teledu
- Cyhoeddwyd
Mae afanc (beaver) wedi cael ei ffilmio yn y gwyllt mewn afon yng nghanolbarth Cymru.
Ond mae yna gwestiynau ynglŷn â sut wnaeth y creadur gyrraedd yno.
Cafodd afancod eu hela i ddifodiant ym Mhrydain bron i 500 mlynedd yn ôl.
Ond ym mis Mawrth 2021 cafodd dau afanc eu rhyddhau i gorlan gaeedig dan drwydded am y tro cyntaf yng Nghymru.
Maen nhw wedi cael eu hail-gyflwyno'n llwyddiannus yn yr Alban ac yn Lloegr.
Yng Nghymru mae elusennau bywyd gwyllt yn galw ar i afancod gael eu rhyddhau i'n hafonydd.
Ond mae yna bryderon y gallai hynny gael effaith niweidiol ar dir amaethyddol ffrwythlon ac achosi rhagor o lifogydd.

Roedd Iolo Williams yn teimlo "llawenydd anferthol" ar ôl gweld yr afanc
Tra'n ffilmio cyfres Iolo's River Valleys ar gyfer BBC Cymru, daeth y naturiaethwr a'r cyflwynydd Iolo Williams a'i griw ar draws yr afanc gwyllt ar lannau Afon Dyfi ger Machynlleth.
"Dwi wedi gweld ambell i beth sydd wedi fy syfrdanu i, ond does dim yn dod yn agos at weld afanc yn y gwyllt," meddai.
"Mae'n ddarganfyddiad mawr iawn," meddai. "Mae'n dangos bod afancod yn byw yn y gwyllt yng Nghymru, o leia' mewn un afon.
"I fi mae'n gysylltiad gyda'r tywysogion Cymreig.
"Mae pobl fel Gerallt Gymro wedi sgwennu am weld yr afanc ar Afon Teifi ac mae hynny ganrifoedd yn ôl. Felly mae'n gysylltiad gyda'n cyndeidiau ni."
Ychwanegodd mai darganfod afanc yn y gwyllt yng Nghymru ydy'r "darganfyddiad gorau i ni ei wneud erioed".
Mwy nag un afanc
Ond mae cwestiynau'n parhau ynglŷn â sut gyrhaeddodd yr afanc Afon Dyfi.
Mae gwarchodfa gerllaw wedi cadarnhau nad un o'u hafancod nhw sydd wedi dianc.
Yn ôl arbenigwyr nid dyma'r unig afanc, gydag adroddiadau bod rhagor o afancod wedi penderfynu taw Afon Dyfi yw'r lle i wneud cartref.
"Ar yr achlysur yma ni'n gwybod taw un teulu sydd yma," meddai Alicia Leow-Dyke o'r Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt.
"Ni'n gwybod bod 'na fwy nag un afanc - mae 'na dystiolaeth bod rhai wedi bod yn bridio ar yr afon, ac mae afancod bach wedi eu gweld ar yr afon dros y blynyddoedd."

Afanc yn nofio yn Afon Dyfi tra'n cael ei ffilmio
Yn ôl Dr Robert Needham, o Ymddiriedolaeth yr Afancod, fe allai ailgyflwyno afancod i'n hafonydd gael buddion sylweddol.
"Mae afancod yn cael eu cyfeirio at fel peirianyddion yr ecosystem," meddai.
Dywedodd fod eu gwaith yn adeiladu argaeau, adeiladu cartrefi a thwrio camlesi yn creu cynefinoedd i anifeiliaid eraill, ac felly yn cynyddu bioamrywiaeth.
"Maen nhw'n ailadeiladu ein gwlyptiroedd sydd wedi eu colli," ychwanegodd.
"Maen nhw'n gallu lleihau achosion o lifogydd gyda'r argaeau maen nhw'n creu. Yn dal dŵr yn ôl a'i ryddhau yn araf."
'Effaith negyddol'
Ond mae yna bryderon am effaith rhyddhau afancod i'r gwyllt.
Yng Nghymru mae'n drosedd rhyddhau afancod i'r gwyllt heb drwydded, hyd yn oed mewn gwarchodfeydd.
Cyfoeth Naturiol Cymru sy'n gyfrifol am roi trwyddedau - maen nhw'n ystyried effaith llifogydd, lledaeniad afiechydon, tir cyfagos a'r effaith ar isadeiledd fel ffyrdd a rheilffyrdd.

Afanc gwyllt ar lannau Afon Dyfi tra'n cael ei ffilmio
Mae Llywydd NFU Cymru, Aled Jones, o'r farn bod angen gwneud mwy o waith cyn ystyried rhyddhau afancod i'r gwyllt.
"Yn syml, mae 'na broblemau," meddai.
"Mae yna achosion lle gallai glannau afonydd ddisgyn, effaith llifogydd yn enwedig ar dir amaethyddol da. Felly mae angen ystyried hynny."

Mae Aled Jones o NFU Cymru yn poeni am effaith afancod gwyllt ar dir ffermio da
Ychwanegodd: "Mae rheolaeth yn hanfodol. Dy'n ni ddim yn gallu cael sefyllfa lle mae busnesau amaethyddol yn cael eu heffeithio yn negyddol.
"Felly mae'n rhaid cael y mesurau rheoli mewn lle oherwydd 'da ni'n siarad am fywoliaeth pobl.
"Mae'n rhaid i ni gofio mai dyma yw bywyd ffermwyr, ac mae unrhyw beth sy'n cael effaith negyddol ar hynny, os ydyn nhw'n colli cnydau oherwydd llifogydd, wel pwy sy'n digolledi'r ffermwyr?
"Dwi'n credu mai ein hymateb ni yw, peidio rhyddhau afancod gwyllt ar hyn o bryd, tan fod 'na asesiad go iawn."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd4 o ddyddiau yn ôl
- Cyhoeddwyd30 Mawrth 2021