Tatŵio a helpu i godi hyder ar ôl canser

Ffion Haf HughesFfynhonnell y llun, Ffion Haf Hughes
  • Cyhoeddwyd

Yn ystod salwch ei mam y sylwodd Ffion Haf Hughes ar fwlch yn y driniaeth oedd yn cael ei gynnig i’r cleifion oedd, fel ei mam, yn diodde o ganser – sef help a chefnogaeth gyda’u hyder.

Dyma mae hi’n ceisio ei roi yn ôl i bobl sydd wedi mynd drwy salwch, drwy ei swydd fel tatŵydd parafeddygol a’i gwaith elusennol.

Codi hyder

Pan oedd Ffion yn gweithio gyda chleifion ar ddiwedd eu bywyd yn ystod ei hastudiaethau seicotherapi celf, sylwodd fod rhywbeth ddim yn cael ei gynnig i’r cleifion, meddai.

“Roedden nhw angen help efo’u hyder, a hwnna oedd y gwasanaeth pigmentation ar ôl canser y fron, ac eyebrows a gwallt a ballu... pob dim oedd yn helpu hyder. Ar yr adeg, o’n i ar ganol agor stiwdio tatŵ, oedd hyn yn rhywbeth naturiol i mi 'neud.”

Ffynhonnell y llun, Ffion Haf Hughes
Disgrifiad o’r llun,

Mae Ffion yn teithio'r byd yn hyfforddi meddygon ac arbenigwyr sut i wneud y gwaith tatŵio parafeddygol

Hyfforddodd mewn micropigmentology, ac mae Ffion bellach yn cynnig gwasanaeth tatŵio parafeddygol, sydd yn cynnwys ail-greu yr areola i gleifion sydd wedi gorfod cael codi eu bron, cuddio creithiau a llosgiadau, a hyd yn oed tatŵio ewinedd traed coll.

Ynghyd â gwneud y gwaith yma o’i stiwdio yn Nghaernarfon, mae Ffion hefyd yn teithio’r byd yn hyfforddi meddygon ac arbenigwyr eraill i wneud y gwaith trawsnewidiol yma.

Ffynhonnell y llun, Ffion Haf Hughes
Disgrifiad o’r llun,

Ar ôl i fronnau gael eu hail-greu, mae Ffion yn medru tatŵio areola realistig ar y fron

Siarad ar ran cleifion

Ond elfen arall sydd yn mynd law-yn-llaw â’r gwaith tatŵio, ydi ei gwaith elusennol, eglurodd ar Dros Ginio ar BBC Radio Cymru.

Cafodd ei hysbrydoli gan beth a welodd pan oedd ei mam, Judith, yn ddifrifol wael yn yr ysbyty gyda chanser.

“Nes i dreulio lot o amser yn Ysbyty Glan Clwyd yn yr uned maxillofacial efo pobl oedd 'di cael surgery difrifol ar eu hwynebau, a’u cyrff, neu radiotherapi ar eu bronnau.

“A 'nath ‘na rywbeth jyst clicio; bod ‘na wasanaeth yn gorfod dechrau cael ei gynnig fel cyfathrebiad rhyngddo fi a’r doctoriaid, i helpu’r merched a’r dynion i gael eu hyder a’u hyder corfforol nhw’n ôl.”

Yn anffodus, bu farw ei mam, ond mae ei henw yn parhau yn enw elusen Ffion – Judith’s Trust – sydd yn gweithio fel eiriolwyr i gleifion i gael mwy o ofal, ar ôl i’r gofal meddygol a’r triniaethau ddod i ben.

Mae Ffion wedi gweld ei hun gymaint mae cynyddu hyder yn helpu rhywun pan mae’n nhw’n sâl, a pha mor anodd yw hi i geisio ffeindio’r person oeddech chi cyn salwch.

Ffynhonnell y llun, Ffion Haf Hughes
Disgrifiad o’r llun,

Mae gwaith tatŵio parafeddygol Ffion yn cynnwys ewinedd traed coll ac areola ar ôl ail-greu'r fron

Adfer beth sydd wedi ei golli

Mae Ffion a’i thîm yn gweithio’n aml gyda phobl sydd wedi colli bron ar ôl cael canser.

Weithiau, er fod bron wedi cael ei ail-greu, dydi rhywun ddim yn teimlo yn union fel oedden nhw cynt, eglura. Dyna mae Ffion eisiau ei helpu, gan gau’r bwlch rhwng y bobl sydd angen cymorth, a’r rhai sy’n gallu eu helpu.

“Y rhan fwyaf o’r gwaith 'da ni’n ei neud ydi gwarchod merched sydd wedi cael canser y fron. ‘Da ni ddim jyst yn helpu iddyn nhw gael reconstruction o’r fron ar ôl iddyn nhw gael eu referrio, ond 'da ni hefyd yn gweithio fel swydd advocacy ar eu rhan nhw, lle ‘da ni’n gwrando ar broblemau, sut 'da ni’n gallu eu helpu nhw nôl fewn i fywyd arferol ar ôl canser.

Ffynhonnell y llun, Ffion Haf Hughes
Disgrifiad o’r llun,

Mae Ffion Haf Hughes yn gweithio o'i stiwdio yng Nghaernarfon

“'Da ni fel elusen yn cynnig gwasanaethau emosiynol, cwnselwyr, nyrsus, arbenigwyr wellbeing, arbenigwyr croen; lot o wahanol bobl sy’n medru helpu merched i gael eu hunain nôl ar eu traed ac i gael eu hunan-hyder yn ôl.

“Achos mae canser yn gallu tynnu i ffwrdd, dim jest y fron, ond hyder, perthnasau... ‘Da ni fel hwb yn trio helpu y ferch neu’r dyn i gael eu bywydau nôl yn llwyddiannus a lot mwy llawn.”

Mae Ffion yn edrych ymlaen at sesiwn dynnu lluniau ar gyfer calendr ym mis Tachwedd gyda rhai o’r merched mae hi wedi eu helpu a rhoi triniaethau iddyn nhw dros y blynyddoedd, a fydd yn gyfle i gael y criw ynghyd am sgwrs.

“Bydd o’n ddiwrnod llawn crio, llawn chwerthin. Pwrpas yr elusen ydi i adeiladu cymuned sydd wedi bod drwy’r un peth, i gefnogi ei gilydd, ac yn rhywle saff i ddŵad i siarad am y math yma o driniaeth, a rhannu profiadau.”

Pynciau cysylltiedig