Meddwlgarwch yn y Gymraeg i daclo straen
- Cyhoeddwyd
Mae wythnos gyntaf mis Tachwedd pob blwyddyn yn wythnos ryngwladol ymwybyddiaeth straen.
Mae'r wythnos yn rhoi cyhoeddusrwydd a chodi phroffil effaith straen ar bobl a theuluoedd.
Un sy'n gweithio i leihau straen mewn unigolion drwy gynnig gwersi meddwlgarwch drwy gyfrwng y Gymraeg yw Sion Jones.
Dyma ei hanes a sut wnaeth droi ei gefn ar yrfa yn y cyfryngau ar ôl gweld y galw am gyrsiau yn y Gymraeg.
Hyfforddi yn India
Mae Sion yn wreiddiol o Aberystwyth ond bellach yn byw yn Stroud, Sir Caerloyw.
Mae wedi bod yn myfyrio a chymryd rhan mewn gweithgareddau yoga ers ei fod yn 18 oed.
Cafodd gyfnod yn gweithio i S4C fel Swyddog Rheoli Cynnwys cyn penderfynu nad oedd eisiau parhau i weithio yn y maes cyfryngau.
"Roeddwn wedi bod yn gweithio i S4C a phan oeddwn yn 26 nes i benderfynu symud i India am bedwar mis.
"Roeddwn yn gweithio mewn maes ble roedd 'na lot o straen a phwysau gwaith felly roeddwn yn myfyrio yn ddyddiol.
"Nes i benderfynu yn y diwedd nad oedd y math yma o waith yn addas i mi a phenderfynu symud i India am gyfnod.
"Roeddwn eisiau hyfforddi’n iawn mewn yoga ac un o'r llefydd gorau i wneud hynny yw yn Ashram yn Kerala," meddai.
Mae gan Sion gysylltiad teuluol ag India; roedd ei hen dad-cu yn arfer pregethu yno yn y 1920au.
Wedi cyfnod yn hyfforddi'n India daeth Sion yn ôl i Brydain a symud i fyw i Lerpwl.
Yn Lerpwl roedd yn cynnal dosbarthiadau yoga a meddwlgarwch yn y Saesneg a phan ddaeth y cyfnod clo roedd yn rhaid iddo addasu o wersi wyneb yn wyneb i rai arlein.
Sylwodd yn eithaf cyflym nad oedd llawer o sesiynau drwy gyfrwng y Gymraeg yn cael eu cynnig.
"Roeddwn wedi sylwi nad oedd gwersi Cymraeg unrhyw le, felly dyma fi yn mynd at i gynnig cyrsiau a gwersi meddwlgarwch ar-lein," meddai.
"Mae sesiynau meddwlgarwch yn cynnig myfyrdodau gwahanol pob dydd.
"Os yw pobl yn teimlo straen neu ddiffyg cwsg yna mae'r ymarferion yma wedi'u cynllunio i geisio gwella'r sefyllfa," meddai.
Rheoli gor-bryder
Mae unrhyw wersi meddwlgarwch hefyd yn canolbwyntio ar reoli gor-bryder a straen.
Mae'r ffocws ar sut i fynd ati i ymlacio'n haws a sut i ymdopi gyda'ch meddyliau.
Un sydd wedi gweld budd mawr o allu gwneud sesiynau meddwlgarwch drwy gyfrwng y Gymraeg yw Angharad Williams.
"Dwi'n teimlo ei bod yn fuddiol bod cwrs o’r fath ar gael drwy gyfrwng y Gymraeg i hybu meddwlgarwch.
"Yn bersonol dwi wedi gwerthfawrogi’r cwrs gan fy mod i’n gweld hi’n haws ymlacio yn fy mamiaith," meddai.
Wrth gymharu yoga a meddwlgarwch, dywedodd Sion fod yoga'n fwy am y symudiadau i rannau o'ch corff, tra bod meddwlgarwch yn eich dysgu i chi hyfforddi eich hun ar sut i ganolbwyntio ar y presennol.
Mae hefyd yn cynnwys ffyrdd ar sut i fyfyrio a chyfri'r nifer o weithiau rydych yn anadlu.
"Mae'n eithriadol o fuddiol os ydych yn teimlo dan straen neu'n byw bywyd prysur ac eisiau amser i gamu'n ôl ac ymlacio," meddai.
"Mae cymaint o bwyslais y dyddiau hyn ar iechyd meddwl a rheoli gor-bryder a straen.
"Gall myfyrdod dyddiol hyd at chwarter awr wneud byd o wahaniaeth i unigolyn."
"Roedd hi'n bwysig i mi allu cyflwyno'r math yma o ddisgyblaeth yn y Gymraeg. Dwi'n dod o Aber ac mae'n ffordd i mi allu cadw mewn cysylltiad â Chymru a chael defnyddio'r Gymraeg tra dwi'n byw yn Lloegr.
"Ers gwneud sesiynau yn y Gymraeg dwi wedi synnu gweld fod cymaint o alw.
"Dwi wrth fy modd yn gallu gwneud hyn y Gymraeg a gweld yr effaith bositif mae'n ei gael ar unigolion," meddai.
Pynciau cysylltiedig
Hefyd o ddiddordeb:
- Cyhoeddwyd19 Hydref 2024
- Cyhoeddwyd1 Chwefror 2023