Arestio dyn oedd ar restr Most Wanted yr FBI yng ngogledd Cymru
- Cyhoeddwyd
Mae dyn oedd ar restr Most Wanted yr FBI yn yr Unol Daleithiau wedi cael ei arestio yng ngogledd Cymru ddydd Llun.
Cafodd Daniel Andreas San Diego ei arestio yn Sir Conwy, 20 mlynedd ers i ddau fom ffrwydro yn ardal San Francisco, California.
Roedd Heddlu Gogledd Cymru a Heddlu Gwrth-derfysgaeth yn rhan o'r digwyddiad gan yr Asiantaeth Troseddu Cenedlaethol (NCA).
Cadarnhaodd yr FBI bod y dyn wedi ei ganfod mewn eiddo yng nghefn gwlad, ger coedwig.
Dywedodd yr NCA ddydd Mercher ei fod wedi'i ganfod yn ardal Llanrwst, a'u bod yn credu ei fod wedi bod yn byw yno ers "nifer o flynyddoedd", o bosib dan enw arall.
Mae Heddlu'r Gogledd wedi manylu ers hynny y cafodd ei arestio mewn lleoliad diarffordd yn ardal Maenan.
Mae'r FBI wedi bod yn chwilio am y dyn 46 oed ers i fomiau ffrwydro ger swyddfeydd, y cyntaf yn Emeryville yn Awst 2003.
Ym Medi 2003, ffrwydrodd bom arall y tu allan i gwmni yn Pleasanton.
Bellach mae'n wynebu cael ei gludo yn ôl i’r Unol Daleithiau er mwyn wynebu'r cyhuddiadau yn ei erbyn.
Mae Mr San Diego wedi cael ei gysylltu â grŵp hawliau anifeiliaid eithafol yn y gorffennol gan yr FBI.
Dywedodd llefarydd ar ran yr FBI bod arestio'r dyn “yn dangos, waeth pa mor hir mae'n ei gymryd, bydd yr FBI yn dod o hyd i chi".
Ymddangosodd Mr San Diego yn Llys Ynadon Westminster ddydd Mawrth, wrth i'r achos o'i gludo ddechrau, ac fe gafodd ei gadw yn y ddalfa.
Roedd gwobr o $250,000 (£199,000) am wybodaeth oedd yn arwain at ei ganfod.