Cyflyrau cronig 'yn rhoi pwysau sylweddol ar y gwasanaeth iechyd'
- Cyhoeddwyd
Mae'r cynnydd yn nifer y bobl sydd â chyflyrau cronig yn "fygythiad sylweddol i ba mor gynaliadwy fydd y gwasanaeth iechyd yng Nghymru yn y dyfodol", yn ôl un o bwyllgorau'r Senedd.
Mae bron i hanner oedolion Cymru yn byw â chyflyrau cronig, ond does yna ddim cymorth ar gael bob tro i sicrhau bod unigolion yn medru ymdopi a mwynhau cyfnodau hir o iechyd.
Hyfforddi rhagor o nyrsys arbenigol, gwella darpariaeth gofal iechyd meddwl a gwella ymwybyddiaeth y cyhoedd ynglŷn â'r ystod eang o wasanaethau gofal iechyd sydd ar gael yw rhai o argymhellion y pwyllgor iechyd a gofal cymdeithasol.
Dywedodd Llywodraeth Cymru y byddai'n craffu'n fanwl ar gasgliadau'r pwyllgor cyn ymateb ymhellach.
- Cyhoeddwyd10 Gorffennaf 2023
- Cyhoeddwyd25 Mehefin 2023
- Cyhoeddwyd30 Mawrth 2019
Mae Angharad Lloyd, o Flaenffos, yn dweud bod cael diagnosis o barlys ymledol, neu MS, yn "ryddhad" ar ôl blynyddoedd o ansicrwydd.
Mae Ms Lloyd ymhlith bron i 50% o oedolion yng Nghymru sy'n byw â chyflwr cronig, gyda nifer yn datblygu mwy nag un salwch ar hyd eu hoes.
Mae hi'n dweud ei bod hi wedi aros dros chwe blynedd am ddiagnosis.
"Ges i ddim byd o'r symptomau mwyaf amlwg," meddai.
"Odd e' just yn mynd yn raddol o un rhan o'r corff i'r llall. O'n i'n torri'r croen cyn bo' fi'n sylwi bo' fi'n mynd yn agos i'r croen gyda chyllell, a byddwn i'n llosgi fy llaw cyn i fi sylwi.
"O'n i ar y brinc o gael problemau iechyd meddwl i ddweud y gwir."
Wedi blynyddoedd o apwyntiadau, fe dderbyniodd hi ddiagnosis MS.
Edrych ar ffordd o fyw pobl
Wrth i'r GIG wynebu pwysau mawr o fewn gofal cynradd, mae adroddiad gan bwyllgor iechyd a gofal cymdeithasol y Senedd yn dweud bod angen ail-ystyried y ffordd mae gofal yn cael ei ddarparu i bobl â chyflyrau cronig.
Fe glywodd y pwyllgor iechyd bod y posibiliad o ddatblygu cyflwr cronig yn ystod canol oed wedi'i "normaleiddio" i nifer o bobl.
"Mae'r syniad eich bod chi'n gweithio ar hyd eich oes, ac wrth i chi heneiddio rydych chi'n datblygu anabledd neu boen gallai fod wedi ei osgoi, yn agwedd sydd angen newid," meddai'r Athro Jim McManus o Iechyd Cyhoeddus Cymru.
Ymhlith yr argymhellion yn yr adroddiad, mae 'na alw am roi rhagor o bwyslais ar sefyllfa'r unigolyn a'i ffordd o fyw, yn hytrach na'r cyflwr yn benodol.
Clywodd y pwyllgor hefyd bod yna duedd yn y GIG i ganolbwyntio'n ormodol ar atebion meddygol yn hytrach na materion eraill sy'n gallu cyfrannu at gyflwr unigolyn, fel ei ffordd o fyw.
Wedi gwrando ar dystiolaeth estynedig o fewn y sector iechyd a gofal, mae pwyllgor y Senedd yn pwysleisio'r angen i ganolbwyntio yn fwy ar anghenion yr unigolyn yn hytrach na'r cyflwr cronig yn unig.
Mae'r adroddiad yn cynnig rhestr hir o argymhellion, gan gynnwys yr angen i wella hyfforddiant i weithwyr meddygol ac ehangu darpariaeth cymorth iechyd meddwl.
Mae 'na alw hefyd i hyfforddi rhagor o nyrsys arbenigol, rhannu ymarfer gorau rhwng clinigwyr, a gwella ymwybyddiaeth ymysg y cyhoedd o'r cymorth sydd ar gael iddyn nhw.
Dywedodd Dr Emma Rees, arbenigwraig yn y maes gofal iechyd ym Mhrifysgol Abertawe: "Gallen ni ddechrau mynd i'r afael â rhai o'r heriau sy'n codi yn yr adroddiad yn syth... pethau fel rhoi mwy o hyfforddiant i staff meddygol a gwella ymwybyddiaeth pobl sydd â chyflyrau cronig ynglŷn â'r cymorth sydd ar gael iddyn nhw.
"Mae'r ffordd rydyn ni'n trefnu ein gweithlu gofal iechyd er mwyn ymateb i'r galw hefyd yn rhywbeth gall ddigwydd yn ystod y tymor byr.
"Ond mae pethau fel sut i ariannu'r newidiadau yma dros gyfnod o amser a sicrhau newid diwylliannol ar draws y gwasanaeth iechyd yn rhywbeth a fydd yn cymryd mwy o amser," ychwanegodd hi.
Mewn datganiad, fe ddywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Rydym yn diolch i'r pwyllgor am ei adroddiad. Fe fyddem yn ystyried yr argymhellion yn fanwl ac yn paratoi ymateb maes o law."
Ychwanegodd Angharad Lloyd fod ymarfer corff cyson yn ei helpu i reoli'r boen.
"Dwi'n lwcus bo' fi wedi gwneud ymarfer corff dros y 12 mlynedd diwethaf.
"Mae wedi bod yn help mawr i fi yn feddyliol ac yn gorfforol.
"Dyna fy pain relief hefyd achos os dwi ddim yn gwneud yr ymarfer corff am dri neu bedwar diwrnod, dwi'n dechrau mynd yn stiff ac mewn poen," meddai.