Tîm pêl-rwyd i dynnu 'Caerdydd' o'u henw a chwarae gemau yn Lerpwl

Khanyisa Chawane yn chwarae i Dreigiau CaerdyddFfynhonnell y llun, Getty Images
  • Cyhoeddwyd

Bydd tîm pêl-rwyd Dreigiau Caerdydd yn newid eu henw a chwarae gemau yn Lerpwl, yn ogystal â'r brifddinas, y tymor nesaf.

Roedd y tîm yn arfer cael ei adnabod fel LexisNexis Dreigiau Caerdydd, ond maen nhw wedi penderfynu tynnu 'Caerdydd' o'u henw.

Fel rhan o'r newid bydd y tîm hefyd yn chwarae eu gemau cartref yn yr M&S Bank Arena yn Lerpwl, yn ogystal â'r House of Sport yng Nghaerdydd.

Mae'r Dreigiau yn un o chwe thîm yng nghynghrair yr NSL fydd yn chwarae gemau cartref mewn mwy nag un lleoliad, ond nhw yw'r unig rai fydd yn chwarae gartref mewn dwy wlad wahanol.

Fe wnaeth y Dreigiau enwi eu carfan ar gyfer y tymor sydd i ddod fis diwethaf, er gwaethaf ansicrwydd ariannol.

Fe wnaeth y tîm o Gymru orffen ar waelod yr NSL y tymor diwethaf - gan ennill dim ond dwy o'u 14 gêm - ac mae cwestiynau wedi bod ynghylch cyllid y clwb.

Cafodd adran chwaraeon BBC Cymru wybod bod y clwb wedi dweud wrth chwaraewyr ar ôl y tymor diwethaf ei bod yn bosib na fyddai modd iddyn nhw barhau pe na bai'r clwb yn sicrhau'r cyllid angenrheidiol.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig