Ysgewyll lleol ar fwydlen Nadolig cartrefi gofal Sir Gâr
- Cyhoeddwyd
Fe fydd llysiau lleol ar y fwydlen mewn cartrefi gofal ar hyd a lled Sir Gâr y Nadolig hwn.
Mae ysgewyll, neu sbrowts, sydd wedi eu tyfu ar fferm Bremenda Isaf, Llanarthne wedi eu dosbarthu i bob cartref gofal y cyngor ar gyfer eu gweini ddydd Nadolig.
Fe gafodd yr ysgewyll eu plannu yn y gwanwyn ar fferm y cyngor fel rhan o gynllun i ddarparu bwyd lleol i'r plât cyhoeddus gan leihau'r gadwyn gyflenwi.
Mae hwn yn rhan brosiect datblygu Bwyd Sir Gâr, sy'n edrych ar sut yr ydyn ni'n cynhyrchu, gwerthu, hyrwyddo a bwyta bwyd lleol a chynaliadwy.
Dywed y cynghorydd Carys Jones - aelod cabinet Cyngor Sir Caerfyrddin dros faterion gwledig - bod y "cynllun yn hynod bwysig."
"Mae gyda ni'r modd fan hyn i ddelifro bwyd iach sy' wedi ei gynhyrchu mewn ffordd iach i bobl hŷn a phobl iau yn y gymuned mewn ysgolion a chartrefi preswyl," meddai.
Dulliau ffermio natur gyfeillgar sy'n cael eu defnyddio ar Bremenda isaf, ac ar dir y fferm mae amrywiaeth o lysiau sydd yn cael eu tyfu cyn cyrraedd prydau bwyd lleol.
Dywed Lowri Johnston o 'Bwyd Sir Gâr' fod "sbrowts yn lysieuyn sy' fel marmite, rhai yn eu caru a rhai ddim, ond ma' nhw llawn maeth, ac yn cael eu tyfu yn organig fan hyn."
Mae'r sbrowts wedi eu cyflwyno i gartrefi gofal y cyngor gan gynnwys y Plas yn Felinfoel ger Llanelli.
Mae rhai o'r preswylwyr yn edrych 'mlaen at eu cinio Nadolig ond hefyd yn edrych nôl ar giniawau 'Dolig eu plentyndod.
Mae'r dull o'u coginio yn bwysig i Edgar Williams: "Dim mwy na phedair muned mewn dŵr berw, does neb am fwyta sbrowts sy' wedi eu gor goginio ac yn feddal!"
Dyw Ethne Phillips ddim yn or hoff o'r ysgewyll, "o'n i byth yn lico sbrowts, ond fi lico nhw ambell waith nawr... os oes rhaid!"
Traddodiadau'r ysgewyll
Fel rhan o waith ymgysylltu Bwyd Sir Gâr, aeth yr hanesydd bwyd Carwyn Graves mewn i un o gartrefi gofal y cyngor, i siarad am hanes bwyd a ffermio'r ardal.
"Fe glywsom ni fod traddodiad o dynnu'r ysgewyll oddi ar y goes a gadael i'r goes sychu mas, a defnyddio hwnnw wedyn fel ffon gerdded yn y flwyddyn newydd."
Ond yn ogystal ag edrych nôl mae'r gwaith hefyd yn edrych i'r dyfodol er mwyn hyrwyddo cynhyrchu a chyflenwi bwyd iach, a lleol.