'Cam gwag fyddai codi ysbyty newydd yn y gorllewin'

Dr Dewi Evans
Disgrifiad o’r llun,

Cam gwag fyddai codi ysbyty newydd ym marn y cyn-ymgynghorydd plant blaenllaw, Dr Dewi Evans

  • Cyhoeddwyd

Mae meddyg blaenllaw yng ngorllewin Cymru yn dweud fod angen canslo pob cynllun i godi ysbyty newydd sbon yn yr ardal.

Wrth siarad â rhaglen Newyddion S4C, dywedodd Dr Dewi Evans bod y syniad o ddatblygu ysbyty ar safle newydd naill ai yn Sanclêr neu Hendy-Gwyn ar Daf yn "nonsens lwyr", gan feirniadu gallu rheolwyr y bwrdd.

Yr wythnos ddiwethaf, fe ddatgelodd Prif Weithredwr Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda na fydd ysbyty'n cael ei godi yn yr ardal am o leiaf ddegawd, gan siomi nifer yn yr ardal.

Mewn ymateb fe ddywedodd y bwrdd iechyd eu bod yn "glynu wrth argymhellion gwariant y Trysorlys", gan sicrhau bod y Gwasanaeth Iechyd yn gwneud y gorau o arian cyhoeddus.

"Dyna'r unig reswm am gael yr ysbyty newydd fel rhyw fath o vanity project i'r rheolwyr," meddai'r cyn-ymgynghorydd plant, Dr Dewi Evans.

"Fydd e ddim er lles y cleifion, fydd e ddim yn lles i'r staff sy'n gweithio yna."

Fe ddywedodd bod y "syniad o'r cychwyn cynta' yn nonsens lwyr", gan ychwanegu y dylid "nid jyst dileu neu ohirio ond canslo'r peth".

Disgrifiad o’r llun,

Mae pryderon ers tro am adeilad Ysbyty Glangwili, yng Nghaerfyrddin

Yn ôl Phil Kloer, prif weithredwr newydd Bwrdd Iechyd Hywel Dda, fydd ysbyty newydd i orllewin Cymru o bosib ddim yn cael ei adeiladu am o leiaf 10 mlynedd ac "o bosib yn hirach".

Roedd ysbyty newydd i fod wedi cael ei adeiladu erbyn 2029, gyda dau safle posib eisoes wedi cael eu clustnodi - un yn Sanclêr ac un yn Hendy-gwyn ar Daf.

Mae pryderon wedi eu codi ynghylch adeilad Ysbyty Glangwili, lle mae gofal brys yn cael ei ddarparu ar hyn o bryd i gleifion yng ngorllewin Cymru.

'Diffyg gweledigaeth a threfn ers degawdau'

Beirniadu arweinyddiaeth a gweledigaeth rheolwyr y bwrdd iechyd mae'r Dr Dewi Evans.

"Ma' 'na gwestiynau yn ymwneud â'r bobl sy'n rhedeg Hywel Dda. Mae'r holl beth yn hollol ddi-doreth," meddai.

"Mae'r diffyg gweledigaeth a diffyg trefn o ran datblygiadau wedi bod ers degawdau."

Ond yn ôl un o aelodau Senedd yr ardal mae yna angen am ysbyty newydd a fyddai'n dod ag amryw o fanteision i'r gorllewin.

Disgrifiad o’r llun,

Mae'r AS Cefin Campbell yn credu bod wir angen codi ysbyty newydd yn yr ardal

"Mae angen yn y rhan hon o Gymru ysbyty newydd sy'n gallu rhoi y cyfleoedd ymchwil arbennig sy'n mynd i ddenu clinigwyr ac arbenigwyr i'r ardal yma i weithio," meddai Cefin Campbell, AS Plaid Cymru.

"Ond hefyd sy'n gallu cynnig cyfarpar a'r defnydd o dechnoleg sydd ddim ar gael yn Nglangwili a Llwynhelyg.

"Mae'n llawer mwy anodd addasu hen adeilad i fod yr hyn ddyle fe fod i anghenion yr oes fodern."

Dywed Bwrdd Iechyd Hywel Dda eu bod yn "glynu wrth argymhellion gwariant y Trysorlys" gan sicrhau bod y gwasanaeth iechyd yn gwneud y gorau o arian cyhoeddus.

Mae yna fanteision hefyd, ychwanegodd, o "edrych yn gyson ar ein strategaeth" sy'n cynnwys edrych ar ddarpariaeth gwasanaethau "cyn edrych ar ddatblygu ysbyty newydd".

Pynciau cysylltiedig