O leiaf degawd arall nes y bydd ysbyty newydd yn y gorllewin
- Cyhoeddwyd
Mae prif weithredwr newydd Bwrdd Iechyd Hywel Dda wedi cyfaddef bod ysbyty newydd i orllewin Cymru o bosib ddim am gael ei adeiladu am o leiaf 10 mlynedd ac "o bosib yn hirach".
Roedd ysbyty newydd i fod wedi cael ei adeiladu erbyn 2029, gyda dau safle posib eisoes wedi cael eu clustnodi - un yn Sanclêr ac un yn yr Hendy-gwyn ar Daf.
Mae pryderon wedi eu codi ynghylch stâd Ysbyty Glangwili, lle mae gofal brys yn cael ei ddarparu ar hyn o bryd i gleifion yng ngorllewin Cymru.
Roedd strategaeth wreiddiol y bwrdd iechyd yn amlinellu y byddai’r holl waith wedi’i gwblhau erbyn diwedd 2029, gan gynnwys datblygu hybiau cymunedol, adnewyddu Ysbyty’r Tywysog Phillip ac Ysbyty Cyffredinol Bronglais, ail-bwrpasu Ysbyty Cyffredinol Glangwili ac Ysbyty Cyffredinol Llwynhelyg ac adeiladu’r ysbyty newydd.
Fe ofynnodd y bwrdd iechyd i Lywodraeth Cymru am £1.3bn o fuddsoddiad i weithredu'r newidiadau.
Angen adolygu lleoliad ysbyty newydd
Roedd y prif weithredwr Phil Kloer yn siarad ddydd Iau mewn cyfarfod lle wnaeth aelodau'r bwrdd iechyd benderfynu "adnewyddu" y strategaeth sy'n amlinellu strwythur gwasanaethau’r dyfodol.
Dywedodd yr Athro Kloer y byddai'n "anghywir i fwrw ymlaen â'r un meddylfryd" yng ngoleuni effaith Covid, technoleg fel AI, newidiadau mewn demograffeg, gordewdra, newid yn yr hinsawdd a datblygiadau mewn genomeg.
Mae papur a gyflwynwyd gan Lee Davies, cyfarwyddwr gweithredol strategaeth a chynllunio yn y bwrdd iechyd, yn nodi bod costau cyflawni’r strategaeth wreiddiol wedi cynyddu oherwydd chwyddiant ac er y gallai gweithredu fesul cam gynyddu cost gyffredinol y rhaglen, gallai datblygiad graddol ei wneud yn “fwy fforddiadwy i Lywodraeth Cymru".
Mae papur y bwrdd iechyd yn dweud y gallai fod yn rhaid iddyn nhw adolygu lleoliad yr ysbyty newydd er gwaethaf ymgynghoriad cyhoeddus hirfaith i greu rhestr fer o ddau safle posib.
Dywedodd Llywodraeth Cymru: "Mae amserlen fanwl yn ansicr ar hyn o bryd, ond mae’n hanfodol dilyn canllawiau achos busnes y Trysorlys ar brosiectau isadeiledd mawr fel hyn."
Yn yr un cyfarfod cadarnhaodd y bwrdd iechyd ddiffyg o £64m yn eu cyfrifon, er gwaethaf cyflawni arbedion o £32.4m.
Dywedodd llefarydd ar ran Bwrdd Iechyd Hywel Dda:
"Bydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn adnewyddu ei strategaeth ac yn ystyried newidiadau pellach sydd eu hangen i ddarparu gofal diogel, o ansawdd a chynaliadwy ar draws ysbytai, a lleoliadau sylfaenol a chymunedol, mewn cyfarfod bwrdd y cytunwyd arno heddiw.
"Clywodd y Bwrdd gyfuniad o resymau pam fod gwasanaethau iechyd o dan bwysau sylweddol ar draws y DU, a’r heriau penodol yng ngorllewin Cymru.
"Mae strategaeth y Bwrdd, Canolbarth a Gorllewin Cymru Iachach, a gyhoeddwyd yn 2018, yn manylu ar y materion sy’n ymwneud â darparu gofal ar draws lleoliad mawr a gwledig yn bennaf, gyda rhai gwasanaethau’n cael eu darparu ar draws sawl safle.
"Gweledigaeth y strategaeth yw mwy o ofal ataliol, a darpariaeth mewn lleoliadau cymunedol pryd bynnag y bo modd.
"Disgwylir i ddiweddariadau ar y cynnydd tuag at ymgynghori ar gyfer gwasanaethau ysbyty (CSP), a datblygu opsiynau ar gyfer gwasanaethau sylfaenol a chymunedol gael eu trafod eto gan y Bwrdd Iechyd ym mis Ionawr 2025."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd14 Medi 2023
- Cyhoeddwyd24 Mehefin 2022
- Cyhoeddwyd19 Ebrill 2018