Arestio dau yn dilyn tân mawr ar Fynydd Bodafon ym Môn

Ar un adeg nos Wener roedd y tân maint 1,500 metr sgwâr
- Cyhoeddwyd
Mae dau o bobl wedi cael eu harestio ar amheuaeth o losgi bwriadol yn dilyn tân mawr ar Fynydd Bodafon ym Môn.
Fe ddechreuodd y tân ddydd Gwener, 22 Awst gyda Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yn dweud bod y fflamau, ar un adeg, wedi lledaenu dros 1,500 metr sgwâr o dir.
Ni chafodd unrhyw un eu hanafu yn y digwyddiad, ac roedd swyddogion wedi llwyddo i ddod â'r tân dan reolaeth erbyn prynhawn Sadwrn.
Mae'r ddau berson wedi cael eu rhyddhau ar fechnïaeth amodol tra bod ymholiadau'r heddlu yn parhau.
Mae'r heddlu'n gofyn i unrhyw un sydd â gwybodaeth all fod o ddefnydd i'r ymchwiliad i gysylltu â nhw.
- Cyhoeddwyd5 o ddyddiau yn ôl
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.