Plentyn wedi cam-drin plentyn arall yn rhywiol ar gae chwarae

Cafodd yr heddlu eu galw i gaeau chwarae Penygaer yn Llanelli nos Fercher
- Cyhoeddwyd
Mae plentyn 10 oed wedi cael ei gam-drin yn rhywiol gan blentyn arall ar gae chwarae, meddai’r heddlu.
Cafodd swyddogion eu galw i adroddiad bod plentyn 10 oed wedi cael ei gyffwrdd yn rhywiol ar gaeau chwarae Penygaer yn Llanelli am 21:40 nos Fercher.
Dywedodd Heddlu Dyfed-Powys eu bod yn credu mai plentyn arall sy'n gyfrifol, a'u bod yn ceisio eu hadnabod.
Dywedodd y llu fod eu hymchwiliad yn parhau, gan annog pobl i fod yn "ymwybodol o'r hyn maen nhw'n ei rannu ar-lein".