'Ton' o ladradau'n cael effaith 'erchyll' ar ffermwyr
- Cyhoeddwyd
Mae cefn gwlad Cymru’n wynebu “ton” o ladradau ar ffermydd, yn ôl un undeb.
Dywed undeb NFU Mutual eu bod yn ymwybodol o hyd at 20 achos o ddwyn o ffermydd yng ngorllewin Cymru yn ystod y tri mis diwethaf.
Yn ôl un ffermwraig, mae hi a’i theulu yn pryderu am fynd allan gyda’r nos, wedi i feic cwad gael ei ddwyn oddi ar eu fferm tra eu bod nhw yn y tŷ.
Mae Dafydd Llywelyn, Comisiynydd Heddlu a Throsedd Dyfed-Powys yn cydnabod bod "cynnydd i’w weld yn y troseddau" ond ei fod "yn anodd" dal y lladron.
Mae menyw - sydd am aros yn ddienw - wedi siarad gyda BBC Cymru am y profiad o gael beic cwad wedi ei ddwyn o'i fferm yng Ngheredigion.
Ar ôl gwirio camerâu cylch cyfyng wedi i'r beic ddiflannu, gwelodd bod dau ddyn wedi mynd i’r sied ac wedi dwyn y beic am tua 22:30.
“O’n nhw’n cuddio’u hwynebau, fel se’n nhw’n gwybod bod y camerâu 'na. Ni’n meddwl bod rhywun wedi bod 'ma cyn y digwyddiad i weud wrthyn nhw ble ma’r sied a’r camerâu. O’n nhw’n gwybod ble i targeto,” meddai'r fenyw.
'Ffaelu switsho off'
Ychwanegodd ei bod wedi clywed am “feics diddiwedd” yn cael eu dwyn yn yr ardal yn ddiweddar.
“Mae’r gŵr ffaelu switsho off, mae’n dal i feddwl amdano fe. O’n i’n arfer croesi’r clos i fynd i’r tŷ bach yn y nos, fi’n gorfod rhoi’r goleuadau i gyd ymlaen nawr a fi’n wary am fynd mas tu fas."
Mae achosion o ddwyn wedi eu hadrodd ar gyfryngau cymdeithasol ar draws y gorllewin, gan gynnwys rhai yn Llanwnnen, Aberdaugleddau a Chwm Gwaun.
Mae Mark Davies yn byw yng ngogledd Sir Benfro. Cafodd cwad ei ddwyn oddi ar ei fferm ar benwythnos Gŵyl y Banc ym mis Awst yn ystod oriau mân y bore.
Cafodd y lladrad ei gofnodi ar gamera cylch cyfyng yn y sied, ac roedd dau berson i'w gweld yn symud y beic lawr y ffordd.
“Oedd y plant ofn mynd mas i’r clos am sbel. Yn y Gwanwyn ni’n lloia ac wyna, ni mas tipyn ar y clos yn y tywyllwch. Chi’n ofni wedyn pwy sy’ rownd y lle,” meddai Mark Davies.
Ychwanegodd fod cwad newydd yn gallu costio hyd at £10,000.
“Ar bob ffarm mae’r beic yn cael ei ddefnyddio bob dydd trwy’r dydd. Os chi’n colli’r beic mae e fel colli’ch coes chi.”
Yn ôl ffigyrau diweddaraf NFU Mutual, fe wnaeth nifer yr achosion o droseddau cefn gwlad yng Nghymru gynyddu 6.7% y llynedd.
Mae'r data hefyd yn dangos bod cost troseddu mewn ardaloedd gwledig ar draws y Deyrnas Unedig wedi cynyddu 4.3% yn 2023, i £52.8 miliwn.
Yn ôl Aled Davies, Ymgynghorydd Cymunedol NFU Cymru, mae’r gorllewin yn wynebu “ton” o ladradau ar hyn o bryd.
“Mae ffermydd yn llefydd eang, chi ffaelu cael camera ym mhob twll a chornel. Felly mae’n anodd iawn i amddiffyn.”
Cyngor Aled Davies yw i ffonio 999 yn syth os oes lleidr ar y fferm.
“Ni’n dweud wrth ffermwyr am gau’r cwad mewn sied bob nos a chloi’r drws. Os oes dim clo ar y drws parciwch y fan neu’r tractor o flaen e. Hefyd os oes 'da chi bach o arian sbâr rhowch tracker ar y cwad.”
Yn ôl yr Adroddiad Troseddau Gwledig, roedd 86% o bobl yn meddwl bod troseddau gwledig yn effeithio’n negyddol ar iechyd meddwl ffermwyr.
Eileen Davies yw sylfaenydd yr elusen iechyd meddwl i ffermwyr, Tir Dewi.
“Mae’r ffactor emosiynol yn un enbyd ac erchyll. Mae’r ofn yn ddigon i roi rhywun yn anffodus dros y dibyn.”
Cyngor Elieen Davies yw i ffermwyr beidio ag ymateb mewn sefyllfa beryglus.
“Edrychwch ar ôl chi’ch hunain yn gyntaf, mi allwch chi gael eich eiddo nôl mewn gwahanol ffyrdd. Ond gofalwch amdanoch chi eich hunain.”
'Mae 'na le wastad le i wella'
Wrth siarad ar raglen Dros Frecwast, dywedodd Dafydd Llywelyn, Comisiynydd Heddlu a Throsedd Dyfed-Powys: "Mae’n rhaid dweud yn onest, mae hi’n anodd iawn dal [y lladron], gan bod nifer fawr o’r troseddau yma yn digwydd dros nos, falle nad oes ‘na lawer o wybodaeth a thystiolaeth am be' sydd wedi digwydd ac mae’n rhaid cael y wybodaeth yna i ddod mewn i’r llu."
"Fe fydd rhai bobl yn ymwybodol am y rhai fydd yn gwneud hyn [y gwerthu ar y farchnad ddu] ac mae’n hynod bwysig bod y wybodaeth yna yn bwysig iawn i’r heddlu."
Mae'n cydnabod hefyd bod "wastad lle i wella ynglyn ag adnoddau".
"Dyw hi ddim yn berffaith o ran yr ymateb yr heddlu ond o’i gymharu â‘r sefyllfa pan nes i gychwyn fel Comisiynydd, mae pethe wedi gwella."
- Cyhoeddwyd1 Awst 2023
- Cyhoeddwyd18 Hydref 2024
- Cyhoeddwyd18 Mai 2018
Yn ôl Jonathan Thomas o dîm Troseddau Gwledig Heddlu Dyfed-Powys, byddai’r lladradau wedi eu cynllunio o flaen llaw.
“Mae’n debygol iawn byddai’r bobl hyn yn sgowtio’r lle yn edrych am gamerâu CCTV a systemau diogelwch.”
Mae Heddlu Dyfed-Powys yn cynghori ffermwyr i rannu unrhyw ymddygiad amheus gyda’r llu.