Jade Jones yn ymddeol o Taekwondo i ddilyn gyrfa mewn bocsio

Enillodd Jade Jones ddwy fedal aur Olympaidd yn 2012 a 2016, ond colli yn y rownd gyntaf oedd ei hanes yng ngemau 2020 a 2024
- Cyhoeddwyd
Mae Jade Jones wedi cyhoeddi ei bod hi'n ymddeol o Taekwondo er mwyn rhoi cynnig ar focsio yn broffesiynol.
Mae'r Gymraes 31 oed wedi ennill pob prif dlws o fewn Taekwondo, gan gynnwys dwy fedal aur Olympaidd.
Mae'n cael ei hystyried fel un o oreuon y gamp, ond ar ôl dros ddegawd ar y brig, mae hi bellach eisiau her newydd - a hynny ym myd bocsio.
"Y freuddwyd ydy bod yn bencampwr byd. Fe fyddai hi'n reit cool bod yn bencampwr byd mewn dwy gamp," meddai.

Jade Jones yn dathlu ennill medal aur yn y Taekwondo yng Ngemau Olympaidd 2012
"Mae Taekwondo wedi rhoi popeth i fi," meddai.
"Dwi wedi bod ar daith anhygoel gyda'r gamp, mae gen i atgofion bythgofiadwy, a dwi wedi cael y fraint o gynrychioli fy ngwlad ar y llwyfan fwyaf.
"Dwi wedi rhoi popeth i Taekwondo, ond dwi nawr yn barod am her newydd.
"Dwi wastad wedi mwynhau bocsio a dwi'n gyffrous i geisio profi fy hun mewn awyrgylch cwbl wahanol.
"Dwi'n gwybod na fydd hi'n hawdd, ac os ydw i'n gwbl onest, dydw i ddim yn hollol siŵr beth i'w ddisgwyl, ond dwi'n mwynhau gwthio fy hun i'r eithaf a dwi'n edrych ymlaen yn fawr at yr hyn sydd o fy mlaen."

Fe enillodd ail fedal aur Olympaidd yn Rio de Janeiro yn 2016
Bydd Jones yn cael ei hyfforddi gan y cyn-focsiwr proffesiynol Stephen 'Swifty' Smith, sydd â blynyddoedd lu o brofiad ar y lefel uchaf, ac mae hi eisoes wedi bod yn hyfforddi ers deufis.
Yn gyn-bencampwr Prydeinig a Chymanwlad, mae'n cael ei barchu'n fawr o fewn y gamp.
Fe fydd Smith a Jones yn gweithio gyda'i gilydd pob dydd wrth baratoi at ei gornest broffesiynol gynta', gyda'r manylion i'w cyhoeddi maes o law.
Yn ôl Smith, mae Jones yn "ymladdwr naturiol, sydd wedi profi ei hun dro ar ôl tro mewn Taekwondo".
Ychwanegodd: "Mae ei athletiaieth, ei hymroddiad a'i meddylfryd i ennill heb ei ail.
"Mae'n fraint i mi gael gweithio gyda hi, a does gen i ddim amheuon o gwbl bod ganddi yr hyn sydd ei angen i greu argraff fawr o fewn bocsio."
Llwyddiant Taekwondo
Daeth Jones i sylw'r byd yn 2012 pan enillodd fedal aur yng Ngemau Olympaidd Llundain yn 19 oed - yr athletwr cyntaf erioed o Brydain i ennill medal aur Olympaidd yn y Taekwondo.
Llwyddodd i ennill medal aur arall yng Ngemau Olympaidd 2016 yn Rio de Janeiro.
Does neb yn hanes Taekwondo wedi llwyddo i ennill tair medal aur Olympaidd, felly roedd colli yn y rownd gyntaf yng Ngemau Olympaidd Tokyo 2020 a Paris 2024 yn siom enfawr iddi.
Mae hi hefyd wedi ennill medalau aur ym Mhencampwriaethau'r Byd a Phencampwriaethau Ewrop.