Bwyd gyda Colleen Ramsey: Pedwar peth o sgwrs Rachael Solomon

Rachael Solomon a Colleen Ramsey
Disgrifiad o’r llun,

Rachael Solomon a Colleen Ramsey

  • Cyhoeddwyd

Mewn cyfres newydd ar BBC Sounds, daw Colleen Ramsey i adnabod rhai o wynebau cyfarwydd Cymru yn well a dysgu am eu perthynas nhw â bwyd.

Dyma bedwar peth gwnaethon ni ddysgu am westai cyntaf y gyfres, y gyflwynwraig ac aelod o grŵp pop Eden, Rachael Solomon.

1. Dylanwad ei magwraeth fferm

Mae Rachael yn rhannu sawl stori ddifyr am ei magwraeth a bwydydd unigryw y cartref...

"Doedd Mam ddim yn great cook, a dydi hi dal ddim! Mae hynny'n tipyn bach o jôc yn y teulu. Ond oedd hi'n nyrsio ac roedd hi'n brysur. Roedd popeth yn mynd yn y slow cooker."

Mae Rachael yn cofio rhai prydau penodol nad oedd hi'n hoff ohonynt fel plentyn, ond erbyn hyn yn deall pam roeddent yn cael eu coginio.

"Fel merch fferm, dwyt ti ddim yn gwastraffu unrhyw beth. Roeddwn i yn ei dreadio fo. Roedd Mam yn dweud, we're having lamb's heart tonight!"

Un arall o ryseitiau ei phlentyndod sy'n aros yn y cof yw brechdanau cracyrs a jam – y peth gorau erioed yn ôl Rachael.

2. Trefnu a chynllunio prydau bwyd teuluol

Mae'n amlwg bod trefn a chynllunio yn bwysig i Rachael. Mae hi'n egluro sut mae hi wedi arfer cynllunio'r fwydlen wythnosol ar gyfer ei theulu ers blynyddoedd. Yn ei barn hi, mae hyn yn ffordd o osgoi gwastraffu bwyd a lleihau'r straen sy'n gallu codi wrth benderfynu beth i'w fwyta bob dydd:

"Bob wythnos, bob dydd Sul, fel teulu, 'da ni'n eistedd lawr a 'da ni'n neud menu yr wythnos. Be' 'da ni'n mynd i fwyta pob dydd? Oherwydd dwi ddim yn licio gwastraffu bwyd."

Mae'r arfer yma wedi helpu ei phlant i fod yn rhan o'r broses goginio, gyda phob un yn hawlio un noson yr wythnos.

Ffynhonnell y llun, Mefus Photography
Disgrifiad o’r llun,

Mae Rachael yn adnabyddus fel aelod o grŵp pop Eden

3. Gwell cynllunydd na chogydd?!

Er bod Rachael wrth ei bodd yn cynllunio a bwyta bwyd, mae hi'n cyfaddef nad yw hi'n gogydd naturiol ac nad yw hi bob amser yn hyderus yn y gegin. Mae hi'n dilyn ryseitiau yn fanwl, ond hyd yn oed wedyn, gall deimlo'n bryderus wrth goginio:

"Dwi ddim yn trystio fy hun. Os dwi ddim hefo yr un ingredient sydd angen mynd i mewn i rhywbeth, I can't wing it!"

Disgrifiad,

Rachael Solomon a'i ffordd anarferol o fwyta ffa pôb

4. Ei pherthynas â bwyd wrth droi'n 50

Mae Rachael yn egluro sut mae ei pherthynas â bwyd wedi newid wrth iddi gyrraedd 50 oed. Mae hi'n mynegi'r heriau y mae wedi'u hwynebu gyda'i chorff a sut mae bwyd yn parhau i fod yn elfen bwysig yn ei bywyd:

"Mae perthynas fi efo o bwyd a diet, wedi bod yn very up and down... dwi'n teimlo fel dwi ar constant diet mewn ffordd oherwydd gwaith."

Mae Rachael hefyd yn egluro sut mae bod yn berson cyhoeddus wedi dylanwadu ar ei hagwedd at fwyd a'i chorff.

"Dwi'n trio ymarfer corff, bwyta'n iawn a gwneud y pethau iawn. Ond be dwi'n trio deud wrth fy hun ydy... It's gonna happen anyway, Rach. Dyna'r siâp dwi am fod a mae nghorff i angen bod i weithio."

Mae Rachael hefyd yn rhannu ei phryderon am y pwysau gall y cyfryngau cymdeithasol ei roi ar fenywod yn enwedig.

"Mae o'n rili anodd... yn enwedig i ferched dwi'n meddwl. Dwi'n poeni am blant gymaint."

Pynciau cysylltiedig