Menyw'n cael ei hachub oddi ar ochr clogwyn yn Llandudno

Roedd y fenyw'n sownd ar dir creigiog sy'n cyrraedd 141m (463 o droedfeddi) o uchder
- Cyhoeddwyd
Fe gafodd menyw ei hachub a'i chludo i ddiogelwch gan hofrennydd ar ôl mynd yn sownd ar ochr clogwyn yn ardal Trwyn y Fuwch yn Llandudno.
Roedd hyn un o gyfres o ddigwyddiadau'r penwythnos hwn.
Aeth y fenyw i drafferthion ar y tir creigiog yn Sir Conwy sy'n cyrraedd hyd at 141m (463 o droedfeddi) o uchder.
Fe gafodd gwylwyr y glannau eu galw i'r lleoliad am 14:30 ddydd Sadwrn ac fe benderfynon nhw ei chludo i ddiogelwch mewn hofrennydd.
Yn y cyfamser, fe gafodd bad achub Conwy eu galw i ddigwyddiad arall am 14:15 ddydd Sadwrn ar ôl i bedwar o bobl gael eu llusgo i ffwrdd gan y llanw ar draeth y Gorllewin, Llandudno.
Am tua 13:00 fe wnaeth gwylwyr y glannau yn Abersoch, Gwynedd, helpu Gwasanaeth Ambiwlans Cymru ar ôl i fachgen 16 oed gael trawiad ar jetski a chafodd ei gymryd at ambiwlans.
Ym Mhenmaenmawr, Conwy, fe gafodd dau o bobl ifanc arall eu harwain i ffwrdd o'r lan gan y gwynt.
Cafodd bad achub ei lansio a dechreuodd tîm gwylwyr y glannau ddod ynghyd ond fe lwyddodd y bechgyn gyrraedd yn ôl i'r lan eu hunain.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.