Pobol y Cwm yn 50: Lle maen nhw nawr?

  • Cyhoeddwyd

Mae Pobol y Cwm yn dathlu pen-blwydd yn 50 oed ar 16 Hydref.

Dros y blynyddoedd, mae nifer o gymeriadau cofiadwy wedi cerdded strydoedd Cwmderi, cael cinio yn y caffi a phicio i'r Deri am beint.

Mae Cymru Fyw wedi cael sgwrs gydag actorion a bortreadodd rai o'n hoff gymeriadau, er mwyn eu holi beth sy'n digwydd unwaith 'dych chi'n gadael y Cwm...

Denzil Rees (1984-2012) - Gwyn Elfyn

Ffynhonnell y llun, Gwyn Elfyn
Disgrifiad o’r llun,

Ar ôl gadael y gyfres daeth Gwyn yn weinidog gyda'r Annibynwyr, ac mae yng ngofal tri chapel yng Nghwm Gwendraeth

Â'i wreiddiau yn nwfn yng Nghwm Gwendraeth - yr ardal lle mae pentref dychmygol Cwmderi wedi ei lleoli - pwy oedd well na'r cyn actor Gwyn Elfyn i chwarae rôl y cymeriad hoffus Denzil Rees?

Roedd Denzil yn gymeriad canolog i'r gyfres am bron i 28 mlynedd, yn ffarmwr, yn cadw siop ac yn ôl Gwyn Elfyn ei hun "rhaid peidio anghofio'r lori gaca".

Disgrifiad o’r llun,

Denzil a Dic Deryn a'r 'lori gaca'

Yn y gyfres bu'n briod ddwywaith, gydag Eileen (Sera Cracroft) ac yna chwaer Eileen, Maureen (Rebecca Harries).

"Oedd cyfnod Pobol yn gyfnod melys iawn, yn gweithio gyda phobl broffesiynol iawn, ac yn gorfod recordio mewn amser byr iawn," meddai.

"Gyda'n wraig yn y gyfres, Eileen, ro'n ni'n gweithio'n dda iawn gyda'n gilydd. Roedd hi'n arbennig iawn."

Un o straeon mawr y gyfres oedd marwolaeth Denzil, rhywbeth oedd yn destun siarad ar raglenni newyddion Post Cyntaf a Taro'r Post ar Radio Cymru y diwrnod canlynol. Bu farw o drawiad ar y galon ym mreichiau ei ferch Sioned yn 2012.

Disgrifiad o’r llun,

Denzil ac Eileen

Erbyn hyn mae Gwyn yn weinidog gyda'r Annibynwyr yng ngofal capeli Capel Seion Drefach, Bethesda’r Tymbl a Nasareth Pontiets.

"'Oedd pobl 'di dweud wrtha i pan o'n i'n gwybod mod i'r rhoi'r gorau i'r gyfres dylwn i unai fynd i wleidyddiaeth neu i bregethu!

"Ond o fod yn ddifrïol, o'n i o hyd wedi bod yn Gristion ac ar ôl dechrau hyfforddi, o'n i yn gweld dirfawr angen i'r gwaith."

Olwen Parry (1991-1997 a 2000) - Toni Caroll

Ffynhonnell y llun, Aled Llywelyn
Disgrifiad o’r llun,

Aeth y cyn berfformiwr cabaret ac actores i faes gofal ar ôl gadael Cwmderi

Un sy' wedi chwarae rhan dau gymeriad yn y gyfres yw Toni Caroll.

Roedd Toni yn arfer perfformio mewn cabaret ac un o'i hen gyfoedion yn y byd hwnnw oedd y gantores Bonnie Tyler.

Daeth i'r sgrin gyntaf fel cymeriad Denise y Kissogram.

"Ges i gynnig wedyn gan un o'r cyfarwyddwyr i ddod am audition i Abertawe ar gyfer rhan arall yn y gyfres. 'Ti'n fodlon mynd amdani,' meddai 'ond os ti ddim digon da bydd yn rhaid i mi ddweud wrtha ti' ond fe ges i'r job."

Dyna ddigwyddodd ac yn fuan wedyn daeth Olwen Parry yn berchennog ar siop y pentre’ am tua pum mlynedd.

"Daeth y siop yn hawdd gan fy mod wedi gweithio yn siop fy anti pan yn iau.

"Roedd yn gyfnod lyfli, gyda Gari Williams (Edgar Sutton) a Gareth Lewis (Meic Pierce); o'n ni'n gweithio mor agos, o'dd yn grêt i weithio gyda nhw."

Disgrifiad o’r llun,

Gina, Olwen a Karen, ei merch yn siop y pentre

Yn y gyfres fe gafodd Olwen ddiagnosis o ganser ac aeth i fyw i Sbaen, ac fe'i gwelwyd olaf yn 2000.

Ond a fyddai'n dychwelyd eto i ddweud helo?

"So' i'n credu bydda i'n ôl, mae'n mynd yn lot o waith erbyn hyn a cofio'r llinellau a byti.

"Ar ôl gadael y sioe fe gollais fy ngŵr, roedd yn gyfnod anodd.

"Dywedodd ffrind agos i mi i roi'r gorau i deimlo’n drist dros fy hunain a gwneud rhywbeth fyddai o fudd.

"Felly am dair blynedd fe wnes i weithio fel gweithiwr gofal ac ymddeol yn 70."

Carol Gwyther (1984-1992) - Rhian Morgan

Ffynhonnell y llun, Paul Andrew
Disgrifiad o’r llun,

Gadael am Ganada wnaeth Carol Gwyther yn y gyfres ond mae Rhian Morgan erbyn hyn yn hyfforddi i fod yn offeiriad

Un arall a fu'n gweithio yn y siop oedd Carol Gwyther pan ddaeth yr actores Rhian Morgan i roi help llaw i Maggie Post (Harriet Lewis).

Ar ôl gweithio gyda Theatr Cymru fe wnaeth Rhian ymuno â chast Pobol y Cwm yn 1984.

"Rwy'n cofio edrych ar bawb arall a dysgu o'u gwaith nhw drwy edrych.

"O'dd 'na arwyr yno, pobl fel Harriet, Huw Ceredig, Gaynor Morgan Rees a Lisabeth Miles.

"Oedd e fatha cymdeithas fach, cymuned glos, o'n ni'n gweithio bob dydd pan aeth i bum slot yr wythnos.

"O'dd 'na dîm pêl-droed, o'n ni'n gwneud cyngherddau a chodi arian ar gyfer elusennau."

Disgrifiad o’r llun,

Ymddangosiad cyntaf Rhian fel Carol Gwyther, yn siop Maggie Post

Gadawodd y gyfres yn 1992, gyda Carol yn mynd i Ganada ar ôl iddi ganfod y 'rapsgaliwn yna' Dic Deryn mewn perthynas â Lisa.

Erbyn hyn mae Rhian yn hyfforddi i fod yn offeiriad gyda'r Eglwys yng Nghymru.

Dywedodd ei bod wedi mynd i eglwys Llandeilo ar un noson dywyll wrth i olau'r eglwys ei denu mewn, a bod yna ddigwyddiadau wedyn wedi ei 'chychwyn ar daith'.

Dyw hi heb roi'r gorau i'r byd actio. Ond a fydd hi'n dychwelyd i'r Cwm rhyw ddydd?

"Pwy a ŵyr, dim eisiau cau drysau ar bethau o'n i'n arfer ei wneud, ond yn hapus ar hyn o bryd yn gweithio yn rhan amser ac yn wirfoddol i'r Eglwys."

Disgrifiad o’r llun,

Nadolig Llawen gan griw Pobol y Cwm o 1990 - mae Carol Gwyther ail o'r chwith, a Doreen Bevan tua'r canol

Doreen Probert/Bevan (1982-1996 a 1999-2003) - Marion Fenner

Ffynhonnell y llun, Prynhawn Da
Disgrifiad o’r llun,

Er ei bod wedi gadael y Cwm mae Marion Fennar yn parhau yn wyneb cyfarwydd i wylwyr Prynhawn Da ar S4C

Roedd cartref Brynawelon a'r cymeriadau yno yn ganolbwynt pwysig i'r gyfres yn y dyddiau cynnar.

Un o'r rhai oedd yn gyfrifol am gadw trefn ar gymeriadau adnabyddus fel Bella, Harri Parri a Tushingham oedd y matron Doreen Probert, a oedd yn cael ei chwarae gan Marion Fenner.

Roedd Marion yn gweithio gyda Theatr Cymru, ac wedi cael cyngor gan y dramodydd Gwenlyn Parry i fynd am glyweliad am ran yn Pobol y Cwm.

Disgrifiad o’r llun,

Doreen y Matron

"Bues i 'na am ryw ddwy flynedd ar bymtheg," cofiodd Marion, "wedyn 'nes i adel am gwpl o flynedde ond es nôl wedyn am ryw dwy/dair blynedd. Gadael eto ac wedyn dod nôl am briodasau ac angladdau a phethau felly."

Dywedodd ei bod yn hoff iawn o gymeriad y matron, "rhywun oedd wedi wynebu llawer o broblemau ei hunan ond eto pan fyddai'n gallu helpu eraill mewn unrhyw fodd oedd hi wastad yn barod.

"I ddweud y gwir bydde ddim ots 'da fi fyw drws nesa i Doreen," meddai'n gellweirus.

Hi oedd mam Barry John ac ar ôl ysgariad fe ailbriododd gyda Stan Bevan, perthynas oedd yn un tymhestlog ar fwy nag un achlysur.

Disgrifiad o’r llun,

Diwrnod priodas Doreen a Stan Bevan

"Pan 'nes i ddechrau o'n i'n gwybod bod rhaid mynd i weithio gyda phobl fel Charles Williams, a Dilwyn Owen, Islwyn Morris a Rachel Thomas a 'na fe.

"Ond o'n i wrth fy modd gyda nhw, o'n i'n dwlu arnyn nhw, pob un.

"O'n i'n gwybod yn groten fach be' o'n i eisiau bod - a dyna be' wnes i."

Ar ôl gadael y Cwm mae Marion wedi ymddangos yn aml ar raglen Prynhawn Da yn rhannu gwybodaeth a thipiau harddwch.

Disgrifiad o’r llun,

Doreen gyda rhai o breswylwyr Brynawelon, oedd yn cael eu chwarae gan rai o enwau mawr y byd actio yng Nghymru - (o'r chwith) Rachel Thomas, Marion Fenner, Islwyn Morris, Nesta Harris a Dic Hughes

Dywedodd mai'r cyfnod iddi fwynhau fwyaf oedd cyfnod Brynawelon, ond ei bod wedi mwynhau 'pob munud o weithio ar y gyfres'.

A fydda hi felly byth yn dychwelyd o gael y cyfle?

"Bydde'n neis iawn i alw mewn, ela i nôl i ddweud helo."

Pynciau cysylltiedig