Arestio dyn ar amheuaeth o lofruddio dynes 48 oed

Cafodd y ddynes ei darganfod yn farw mewn eiddo yng Nghefn Cribwr nos Wener
- Cyhoeddwyd
Mae dyn wedi cael ei arestio ar amheuaeth o lofruddiaeth yn dilyn marwolaeth dynes ym Mhen-y-bont ar Ogwr.
Fe wnaeth yr heddlu ymweld ag eiddo yng Nghefn Cribwr am tua 21:15 nos Wener yn sgil pryder am ddiogelwch dau o bobl.
Cafodd dynes 48 oed ei darganfod yn farw yn yr eiddo yn Bryn Terrace, tra bod dyn 56 oed o'r Pîl wedi ei arestio ar amheuaeth o lofruddiaeth.
Dywedodd yr heddlu nad ydyn nhw'n chwilio am unrhyw un arall mewn cysylltiad â'r digwyddiad.
"Mae'n meddyliau gyda theulu a ffrindiau'r ddynes fu farw," meddai'r ditectif prif arolygydd Lianne Rees.