'Mwy o fflatiau i arwain at renti is' yng Nghaerdydd

Mae 1,000 o fflatiau penodol i'w rhentu wedi cael eu hadeiladu yng Nghaerdydd yn ddiweddar, a 3,000 yn rhagor ar y ffordd
- Cyhoeddwyd
Mae'r prif fuddsoddwr sy'n gyfrifol am sawl bloc mawr o fflatiau yng nghanol Caerdydd yn honni y gallai datblygiadau o'r fath ostwng cyfraddau rhent y ddinas.
Mae cwmni ariannol Legal & General yn adeiladu 1,000 o fflatiau i'w rhentu yn y brifddinas.
Ond gyda rhai fflatiau un ystafell wely yn costio £1,300 y mis, mae asiantaeth dai wedi rhybuddio y gallai rhentwyr gael eu prisio allan o'r farchnad.
Mae cost rhentu preifat yng Nghymru wedi cynyddu 8.5% dros y flwyddyn ddiwethaf yn ôl data diweddar gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol.
Mae pethau hyd yn oed yn waeth yng Nghaerdydd, ble mae'r gost wedi cynyddu mwy na 9%.
Llety penodol i bobl rentu
Mae Caerdydd yn gweld cynnydd mawr mewn llety sy'n cael ei adeiladu'n benodol i bobl rentu - build-to-rent accommodation.
Mae'r rhain yn flociau o fflatiau dan berchnogaeth cwmnïau buddsoddi, ac mae gan nifer gyfleusterau fel derbynfa neu gampfa hefyd.
Mae tua 1,000 o fflatiau o'r fath wedi cael eu hadeiladu yng Nghaerdydd dros y blynyddoedd diwethaf, ac yn ôl ymgynghorwyr eiddo Bidwells, mae bron i 3,000 yn rhagor ar y ffordd.
Dywedodd Bidwells fod rhent fflat un ystafell wely yn un o'r datblygiadau build-to-rent yma yng Nghaerdydd yn costio £1,297 y mis ar gyfartaledd.
Mae hynny o'i gymharu â £944 ar gyfartaledd yn y farchnad draddodiadol.

Mae Legal & General wrthi'n adeiladu bloc o 700 o fflatiau ar gyn-safle bragdy Brains yn y brifddinas
Ond mae Legal & General yn honni y bydd prisiau'n mynd yn fwy fforddiadwy, drwy gynyddu nifer y fflatiau sydd ar gael i'w rhentu.
"Gyda chyflenwad enfawr [o fflatiau] yn cael eu cyflwyno ar yr un pryd, rydyn ni'n rheoli ac yn cyfyngu rhent rhag codi yn y ddinas," meddai Dan Batterton, pennaeth eiddo preswyl y cwmni.
Ond mae gan Jon Hooper-Nash - cyfarwyddwr eiddo gosod asiantaeth dai Jeffrey Ross yng Nghaerdydd - amheuon.
"Mae'r rhent maen nhw'n gofyn amdano eisoes yn llawer drutach na fflatiau eraill," meddai.
"Felly dydw i ddim yn deall yr awgrym eu bod nhw am helpu i ostwng rhenti, pan mai nhw sydd wedi'u codi nhw."
'Denu pobl yn ôl i'r ddinas'
Mae gan Legal & General 30 o ddatblygiadau preswyl ar draws y DU, ac maen nhw eisoes yn berchen ar un bloc o 300 o fflatiau yng Nghaerdydd - Wood Street House - sy'n llawn, yn ôl y cwmni.
Dywedodd y bydd datblygiad arall ar gyn-safle bragdy Brains - fydd â 700 o fflatiau - ar gael y flwyddyn nesaf.
"Mae pobl wedi bod yn symud i ffwrdd o ganol dinasoedd oherwydd dydyn nhw'n draddodiadol ddim wedi bod yn llefydd neis i fyw," meddai Mr Batterton.
"Ond mae'n rhaid i ni wneud defnydd gwell o'r tir sydd gennym ni, neu bydd rhaid i ni ddechrau ehangu ein dinasoedd.
"Rydyn ni'n cymryd tir brown ynghanol ein dinasoedd, yn adeiladu cartrefi arnyn nhw, ac mae hynny'n denu pobl yn ôl.
"Mae pobl yn defnyddio'r stryd fawr, y bwytai a'r bariau oherwydd dyna ble maen nhw'n byw."

Mae Jon Hooper-Nash yn dadlau fod cwmnïau build-to-rent yn rhan o'r broblem - nid yn ddatrysiad
Pan ofynnwyd iddo a ydy'r rhenti yn rhy uchel ar gyfer y farchnad leol, dywedodd Mr Batterton y byddai'r gost yn is ar eu safle newydd yn y ddinas.
"Allwn ni ddim cynnig llefydd high-end yn unig os oes gennym ni 1,000 o fflatiau yng nghanol Caerdydd," meddai.
"Mae'n rhaid i ni fod mor ddeniadol â phosib ar gyfer ystod eang o bobl a chyflogau."
Ond dywedodd Mr Hooper-Nash o gwmni Jeffrey Ross y bydd yn rhaid i gost rhent y fflatiau newydd fod yn llawer is er mwyn bod yn fforddiadwy.
"Ry'n ni'n delio â channoedd o denantiaid pob wythnos," meddai.
"Efallai mewn 12 mis y bydd pethau'n wahanol, ond mae'r bobl ry'n ni'n gweld - rhentwyr preifat yng Nghaerdydd - dydyn nhw ddim yn gallu fforddio llefydd fel hyn.
"Oni bai bod newid ar droed, dydw i ddim yn gweld sut y gwnawn nhw weithio."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd14 Tachwedd 2022
- Cyhoeddwyd26 Hydref 2021
- Cyhoeddwyd7 Mai 2024