Cyhuddo dau o droseddau rhyw hanesyddol mewn canolfan blant

- Cyhoeddwyd
Mae dau ddyn wedi cael eu cyhuddo o gyfres o droseddau rhyw hanesyddol yn erbyn plant mewn safle oedd yn arfer bod yn ganolfan asesu.
Mae Heddlu Gwent wedi bod yn ymchwilio i adroddiad o gam-drin rhywiol a chorfforol yn bennaf yng Nghanolfan Asesu Coed Glas, Y Fenni rhwng y 1970au a'r 1990au.
Cafodd Angus Riddell, 69, a Robin Griffiths, 65, eu cyhuddo ar 20 Mehefin. Rhyngddyn nhw maen nhw wedi eu cyhuddo o 45 o droseddau.
Mae'r ddau wedi cael eu rhyddhau ar fechnïaeth ac mae disgwyl iddyn nhw ymddangos yn Llys Ynadon Casnewydd ar 3 Gorffennaf.
Beth yw'r cyhuddiadau?
Mae Mr Riddell, o Rondda Cynon Taf, wedi cael ei gyhuddo o 38 o droseddau, gan gynnwys tri chyhuddiad o ymosod yn anweddus ar ferch o dan 16 ac un cyhuddiad o geisio ymosod yn anweddus ar ferch o dan 16 oed.
Mae'r cyhuddiadau hefyd yn cynnwys 14 cyhuddiad o ymosod yn anweddus ar fachgen o dan 14 oed.
Mae hefyd wedi cael ei gyhuddo o 20 achos o ymosod, cam-drin, esgeulustod, gadael plentyn, peri i berson ifanc gael dioddefaint diangen, ac achosi anaf.
Mae Mr Griffiths, o Flaenau Gwent, wedi cael ei gyhuddo o saith cyhuddiad o ymosod yn anweddus ar fachgen o dan 14 oed.
Mae'r cyhuddiadau'n ymwneud â 16 o ddioddefwyr.
Ar y pryd, hen Gyngor Sir Gwent oedd yn gyfrifol am y ganolfan ac mae wedi bod ar gau ers 1995.
Mae'r Ditectif Uwcharolygydd Andrew Tuck o Heddlu Gwent wedi annog y cyhoedd i barchu'r broses gyfreithiol ac i beidio dyfalu ar-lein am yr achos.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.