Plant i gael eu brechu rhag brech yr ieir gan y GIG o 2026

Plentyn ifanc yn sefyll a'i gefn tua'r camera gyda smotiau coch ar draws y corffFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae brech yr ieir yn dechrau gyda smotiau coch, sy'n gallu ymddangos unrhyw le ar y corff, ond mae hefyd â symptomau tebyg i'r ffliw, fel tymheredd uchel a chur pen

  • Cyhoeddwyd

Fe fydd y Gwasanaeth Iechyd yn cynnig brechiad am ddim rhag brech yr ieir i blant ifanc yng Nghymru o fis Ionawr nesaf.

Dan y cynllun, sydd hefyd ar gyfer plant yn Lloegr, fe fydd yn cael ei gyfuno â'r brechlyn MMR, sy'n amddiffyn plant rhag y frech goch, clwy'r pennau a rwbella.

Fe fydd plant yn derbyn dau ddos, pan yn 12 a 18 mis oed, ac mae'n fwriad i drefnu brechiadau ar gyfer plant sydd ychydig yn hŷn na hynny hefyd.

Hyd yn hyn mae rhieni wedi gorfod talu hyd at £200 i'w plant gael eu brechu'n breifat.

Dywedodd Llywodraeth Cymru: "Rydym wedi derbyn cyngor y Cyd-bwyllgor Brechu ac Imiwnedd o ran cyflwyno rhaglen brechu rhag brech yr ieir fel rhan o'r amserlen imiwneiddio i blant ac yn bwriadu dechrau ei gynnig i blant ifanc cymwys o Ionawr 2026 ymlaen."

Pa mor ddifrifol gall brech yr ieir fod?

Mae'r salwch yn gyffredinol yn gymharol ysgafn, ond mae'n gallu bod yn ddifrifol mewn rhai achosion.

Mae yna risg arbennig yn achos merched beichiog gan y gallai greu cymhlethdodau i'r fam a'r babi yn y groth.

Mae plant ifanc iawn ac oedolion hefyd yn fwy tebygol o fod yn ddifrifol wael.

Mewn achosion prin, mae'n gallu achosi chwydd yn yr ymennydd (enseffalitis) haint ar yr ysgyfaint (niwmonitis) a strôc - cyflyrau sy'n arwain at orfod cael triniaeth ysbyty ac, mewn achosion prin iawn, marwolaeth.

Potel a chwistrell MMRFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Fe fydd dos rhag brech yr ieir yn cael ei gyfuno â'r chwistrelliad MMR presennol

Gobaith gweinidogion yn San Steffan yw y bydd cynnig y brechiad newydd MMRV (measles, mumps, rubella, varicella) am ddim nid yn unig i amddiffyn plant rhag cymhlethdodau gwaethaf posib brech yr ieir, ond hefyd yn lleihau'r angen i rieni orfod cymryd amser o'r gwaith i ofalu am blant sâl.

Yn ôl yr Adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol, mae tua £24m yn cael ei golli o ran incwm a chynhyrchiant bob blwyddyn drwy'r DU.

Dywedodd Gweinidog Iechyd Llywodraeth y DU, AS Aberafan Maesteg Stephen Kinnock: "Rydym yn rhoi'r gallu i rieni amddiffyn eu plant rhag brech yr ieir a'i gymhlethodau, tra'n eu cadw yn y feithrinfa neu'r dosbarth ble maen nhw fod ac atal rhieni rhag chwilio am ofal plant neu gorfod methu gweithio.

"Mae'r brechlyn yma'n rhoi iechyd plant yn gyntaf ac yn rhoi'r gefnogaeth haeddiannol i deuluoedd sy'n gweithio."

Ar raglen BBC Radio Wales Breakfast, dywedodd Pennaeth y Rhaglen Frechu yn erbyn Clefydau Ataliadwy yn Iechyd Cyhoeddus Cymru, Dr Christopher Johnson eu bod "yn falch iawn o ychwanegu'r brechiad varicella rhag brech yr ieir i'r amrywiaeth o gyflyrau y gallwn ni nawr amddiffyn ein plant rhagddynt."